Adnoddau dysgu: Argyfwng y newid yn yr hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Mae mawndiroedd ymysg cynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru. Ar y dudalen hon, fe gewch gynlluniau gweithgaredd yn ymdrin ag amrywiaeth o destunau, o ‘Pam mae mawndiroedd yn bwysig?’ i awgrymiadau ar sut i asesu cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndiroedd.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau yma yn helpu eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae ein dogfen ‘Eich cefnogi i gynllunio a dylunio’r cwricwlwm – Mawndiroedd’ ar gael i’ch cefnogi i adnabod anghenion dysgu a dilyniant, ac i ddatblygu cynllun Dysgu effeithiol.
Archwiliwch y gwahanol fathau o fawndir, yr heriau maen nhw’n eu hwynebu, a’r camau sy’n cael eu cymryd i’w hamddiffyn.
Datblygwch ymwybyddiaeth a dealltwriaeth eich dysgwyr o fawndiroedd gyda’r gweithgaredd rhyngweithiol hwyliog hwn.
Mae’r gweithgaredd hwn yn annog dysgwyr i ystyried a thrafod y manteision niferus y mae mawndiroedd yn eu cynnig i bobl a’r amgylchedd.
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnig syniadau i annog trafodaeth am y ffactorau a all effeithio ar ddatblygiad mawn a’i gyfraddau cronni.
Dysgwch sut mae mawn yn yr ucheldir ac mewn corsydd yn helpu i hidlo dŵr yn naturiol. Beth am roi cynnig ar arbrawf hidlo dŵr gyda’ch dysgwyr?
Mae mawndiroedd yn gyforiog o fywyd gwyllt. Ydy eich dysgwyr yn gallu trefnu eu hunain yn gadwyn fwyd y mawndir?
Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnig syniadau i’ch dysgwyr ymchwilio i sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio ar fywyd gwyllt yn y cynefinoedd bregus hyn.
Mae mawndir yn storio symiau enfawr o garbon ac yn gweithio fel sinc carbon naturiol, gan helpu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Gall unrhyw darfu sylweddol ar fawndir achosi iddo newid o ecosystem sy’n amsugno carbon i ecosystem sy’n allyrru carbon – ac nid dim ond carbon diweddar, ond hefyd garbon a amsugnwyd dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Dysgwch fwy drwy ddarllen ein nodyn gwybodaeth.
Beth yw ôl troed carbon unigol eich dysgwyr? Faint o fawn fyddai ei angen i’w wrthbwyso? Mae ein hadnoddau’n rhannu awgrymiadau i helpu eich dysgwyr i gael syniad gweledol o faint o fetrau ciwbig o garbon wedi’i storio mewn mawn fyddai eu hangen i wrthbwyso eu heffaith.
Caiff eich dysgwyr gymryd rhan mewn ymchwiliad syml ac ymarferol i archwilio cyflwr, dyfnder, oedran a chynnwys carbon mawndir. Mae ein hadnoddau’n cynnig syniadau a gweithgareddau hawdd eu dilyn i’ch arwain drwy’r broses.
Edrychwch ar ein map o leoedd i ymweld â nhw gyda’ch dysgwyr.
Yn aml, mae mawndiroedd yn gynefinoedd gwarchodedig a gallant fod yn amgylcheddau peryglus. Er mwyn sicrhau bod yr ymweliad yn ddiogel a diffwdan i chi ac i’ch dysgwyr, cysylltwch â ni i wneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli ac i gael caniatâd ar gyfer y gweithgareddau rydych chi’n eu cynllunio. Mae yna ffurflen fer a syml i chi ei llenwi, ac wrth ymateb byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gyfyngiadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd, yn helpu gyda mapiau ac yn cynnig arweiniad.
Mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yn cydlynu gweithgareddau i adfer mawndiroedd yng Nghymru.