Hysbysiad preifatrwydd Cyfleusterau Deunyddiau

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) yn cynnwys rheolau ar roi gwybodaeth preifatrwydd i unigolion yn erthyglau 12, 13 ac 14. Mae’r rhain yn fwy manwl a phenodol na’r Ddeddf Diogelu Data, ac maent yn rhoi pwyslais ar wneud hysbysiadau preifatrwydd yn fwy tryloyw ac yn hygyrch.

Mae’n rhaid rhoi hysbysiad preifatrwydd i’r unigolyn ar yr adeg y maent yn darparu eu data personol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae GDPR y DU yn dweud bod rhaid i’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i unigolion o ran sut y byddwch yn prosesu eu data personol fod fel a ganlyn:

  • yn gyson, yn dryloyw ac yn ddealladwy ac yn hawdd cael mynediad ato 
  • wedi’i ysgrifennu mewn iaith glir a syml, yn enwedig os yw wedi’i gyfeirio at blentyn  
  • yn rhad ac am ddim

Manylion adnabod a chyswllt y rheolydd data

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r rheolydd data ac mae’n ymroddedig i warchod hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).

Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Swyddog Diogelu Data y gallwch gysylltu ag ef drwy anfon neges e-bost i dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 0300 065 3000.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch chi? 

Rydym yn casglu data personol gennych er mwyn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau statudol. Mae manylion y data personol a gasglwn wedi’u manylu isod:

  • Enw gweithredwr y cyfleuster deunyddiau
  • Rhif trwydded y cyfleuster deunyddiau
  • Enw’r cyfleuster deunyddiau
  • Cyfeiriad y cyfleuster deunyddiau
  • Cod post y cyfleuster deunyddiau
  • Enw’r cyflenwr gwastraff 
  • Cyfeiriad y cyflenwr gwastraff 
  • Cod post y cyflenwr gwastraff

Sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio eich data i asesu cydymffurfedd ag Atodlen 9 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gan weithredu fel gweinyddwr y Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig dros Becynwaith, yn defnyddio eich data i gefnogi gweithrediad y Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig dros Becynwaith, a weinyddir o dan Reoliadau Gwastraff Pecynwaith 2024.

Beth yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol yw Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU.

Mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol ar Cyfoeth Naturiol Cymru i fonitro cydymffurfedd ag Atodlen 9 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023.

Pwy sy’n cael eich gwybodaeth? 

Daw eich data i law ym mlwch derbyn cyfrif e-bost canolog (waste.returns@cyfoethnaturiolcumru.gov.uk), lle caiff ei brosesu gan yr adran Gwastraff Unwaith mewn Gweithrediadau. Gall y data hefyd gael ei ddefnyddio gan ein cyfarwyddiaethau Gweithrediadau a Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth, sy’n cynnal gweithgareddau rheoleiddio sy’n gysylltiedig â chyfleusterau deunyddiau.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, gan weithredu fel gweinyddwr y Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig dros Becynwaith, hefyd yn cael eich data.

Trosglwyddo i drydydd partïon a’r mesurau diogelu sydd ar waith

Bydd eich data yn cael ei drosglwyddo i Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sy’n gweithredu fel gweinyddwr y Cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig dros Becynwaith.

Y sail gyfreithiol dros drosglwyddo eich data yw ei bod yn angenrheidiol:

  • i gyflawni tasg er budd y cyhoedd fel rhan o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith (Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU), sy’n cael ei ategu gan Ddeddf yr Amgylchedd 2021 a Rheoliadau Pecynwaith 2024; ac  
  • i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae gweinyddwr y cynllun yn ddarostyngedig iddi (Erthygl 6(1)(c) o GDPR y DU), sef y Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith, gyda rhannu data o’r fath gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ganiatáu yn unol â’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, Atodlen 9, Rhan 2, Pennod 2, paragraff 8.

Bydd pob trosglwyddiad data yn cael ei wneud o dan ac yn unol â chytundeb rhannu data sy’n rhwymo’n gyfreithiol, ac yn unol â GDPR y DU.

Am ba hyd y bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd y data personol yn cael ei gadw yn unol ag amserlen gadw Cyfoeth Naturiol Cymru, sef dim mwy na saith mlynedd.

Eich hawliau

Mae'r GDPR yn rhoi nifer o hawliau i chi o ran cael eich hysbysu ynghylch y data personol rydym yn ei dderbyn ac yn ei ddefnyddio. Gweler y ddolen ganlynol ynglŷn â’ch hawliau unigol.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data Cyfoeth Naturiol Cymru:

E-bost: dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Swyddog Diogelu Data
Cyfoeth Naturiol Cymru 
Maes-y-ffynnon 
Ffordd Penrhos 
Bangor 
Gwynedd 
LL57 2DW

Diogelwch eich gwybodaeth 

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich data yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau technegol a sefydliadol ar waith i ddiogelu’r data a gasglwn amdanoch chi. Rydym hefyd yn sicrhau bod gan unrhyw drydydd partïon yr ydym yn delio â nhw rwymedigaeth i gadw’r holl ddata personol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Sut i wneud cwyn

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y mae eich data personol wedi cael ei brosesu, gallwch chi gysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. 

Os ydych chi’n parhau i fod yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cais uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 
Wycliffe House
Water Lane 
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF 

https://cy.ico.org.uk/

Diweddarwyd ddiwethaf