Parthau llifogydd
Ni roddir ystyriaeth felly i bresenoldeb amddiffynfeydd rhag llifogydd. Defnyddir Parthau Llifogydd i godi ymwybyddiaeth o lifogydd gyda'n cwsmeriaid, partneriaid rheoli perygl llifogydd ac at ddibenion cynllunio gofodol a datblygu strategol.
Diffiniadau Parth Llifogydd
Parth Llifogydd 3:
- maint llif o afonydd sydd â phosibilrwydd o 1% (1 mewn 100) neu uwch o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol
- maint llif o’r môr gyda phosibilrwydd o 0.5% (1 mewn 200) neu uwch o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol
Parth Llifogydd 2:
- maint llif o afonydd neu o’r môr sydd â phosibilrwydd o hyd at 0.1% (1 mewn 1000) o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn benodol
- yn cynnwys ardaloedd a gofnodwyd fel rhai sydd wedi gorlifo yn y gorffennol
- mae Parth Llifogydd 2 yn bwysig o ran cyd-destun cynllunio am ei fod yn sail i Barth C ar Fap Cyngor Datblygu Llywodraeth Cymru (DAM)
Diweddarwyd ddiwethaf