Canllawiau ar ddefnyddio ein map perygl llifogydd
Gallwch ddefnyddio ein map perygl lilfogydd i weld y gwahanol gronfeydd gwybodaeth sy’n cynnwys manylion:
-
perygl llifogydd
-
amddiffynfeydd Llifogydd
-
cynllun rheoli traethlin
-
ardaloedd y cyflwynir rhybuddion a rhybuddion brys llifogydd ar eu cyfer.
1 Canllawiau ar gyfer defnyddio’r map perygl llifogydd
1.1 Mynediad at y map
Bydd defnyddwyr yn cyrraedd tudalen lanio sydd â’r map wedi’i osod arni wrth fynd at y map perygl llifogydd.
Diagram 1 – Tudalen lanio’r map perygl llifogydd
1.2 Offer a swyddogaethau’r map
Mae’r labeli ar y diagram hwn yn dangos y prif offer a’r swyddogaethau sydd ar y map.
1.2.1 Llithrydd Cronfeydd Gwybodaeth
Drwy glicio ar y symbol >, bydd y llithrydd cronfeydd gwybodaeth yn agor ac yn dangos y cronfeydd data sydd ar gael ar y map, fel y dangosir isod.
Diagram 3 – Llithrydd cronfeydd data
Mae’r map yn gallu dangos un neu nifer o gronfeydd data'r un pryd. Mae pob cronfa ddata'n cael ei dangos ar y map mewn lliw gwahanol. Defnyddiwch y botwm allwedd (fel sy’n cael ei ddangos ar y diagram) i weld lliwiau’r gwahanol gronfeydd data.
Mae arwydd + neu – ger ambell gronfa ddata. Mae hyn yn dangos fod yna gronfeydd data eraill ynddyn nhw y gellir eu dangos neu eu cuddio drwy ddefnyddio’r arwydd + neu -. Cofiwch bod yn rhaid ticio’r cronfeydd data lefel uwch ac is cyn y gellir eu gweld ar y map, fel y dangosir yn y diagram uchod.
1.2.2 Gweld rhagor o wybodaeth drwy'r polygonau, llinellau a phwyntiau
Mae’r polygonau, llinellau a phwyntiau’n gweithredu fel hyperddolenni i gael rhagor o wybodaeth. Pan fyddwch yn clicio ar bolygon, llinell neu bwynt, bydd blwch yn ymddangos gyda gwybodaeth sylfaenol ynghylch y pwynt sydd o ddiddordeb (e.e. enw afon neu gronfa ddŵr). Os oes mwy nag un set ddata ar gael ac i'w gweld ar y darn o fap lle cliciwyd, bydd dewis o wybodaeth ar gael yn y blwch. Defnyddiwch un ai'r blwch neu'r saethau cwymp i ddewis cronfa ddata, fel sy'n cael ei ddangos isod.
Diagram 4 – Cael rhagor o wybodaeth
1.2.3 Dewislen Offer (Rydw i eisiau...)
Mae’r dewis ‘Rydw i eisiau...’ yn cynnig nifer o offer a dewisiadau i ddefnyddwyr. Y rhain yw:
-
Canfod gwybodaeth ar fap
-
Gweld yr wybodaeth
-
Newid yr haenau sydd i’w gweld ar fap
-
Nod tudalen i dangos ystod y map presennol
2.2.3.1 Rydw i eisiau ... Gweld yr wybodaeth
Mae hyn yn dangos yr wybodaeth ynghylch y cronfeydd data sydd wedi’u dewis a lliwiau’r polygonau neu’r mathau o linellau sy’n cael eu dangos ar y map. Mae enghraifft o ganlyniad chwilio am wybodaeth isod:
Diagram 5 – gweld yr wybodaeth
Mae hyn yn ffordd hawdd o ddychwelyd i’r sgrȋn cronfa wybodaeth sy’n dangos rhestr o’r cronfeydd data.
1.2.3.3 Rydw i eisiau... Gosod nod llyfr ar ystod y map presennol
Mae hyn yn arbed y map sydd i’w weld ar hyn o bryd fel nod llyfr (ffefryn) yn y map er mwyn gallu mynd yn ôl ato’n hawdd yn nes ymlaen yn yr un sesiwn.
Drwy ei ddewis o 'Rydw i eisiau...’ bydd blwch yn ymddangos lle gellir enwi’r nod llyfr.
Diagram 6 – Enwi nod llyfr
Ar ôl ei ychwanegu, bydd symbol nod llyfr yn ymddangos o dan yr offer chwyddo i mewn ac allan. Dyma lle gellir adfer nodau llyfr sydd wedi’u harbed:
Diagram 7 – Adfer nodau llyfrau wedi'i harbed
Cofiwch mai dim ond yn ystod y sesiwn bresennol y bydd yn nodau llyfr yn cael eu harbed, bydd pob un yn diflannu unwaith y daw'r sesiwn i ben neu os yw’r ffeiliau rhyngrwyd dros dro (cwcis) yn cael eu clirio.
1.2.4 Canfod Lleoliad
Drwy glicio i ganfod lleoliad, gallwch weld lleoliad y ddyfais a ddefnyddir ar hyn o bryd a gosod pwynt ar y map ar gyfer y lleoliad hwnnw. Bydd hyn yn gweithio ar unrhyw gyfrifiadur desg, tabled neu ddyfais symudol (efallai y bydd gofyn galluogi’r nodwedd ‘navigation’ ar ddyfeisiadau symudol)
Diagram 8 - lleoliad ar y map
1.2.5 Nodwedd chwyddo i mewn / Chwyddo allan
Offer yw hwn i alluogi’r defnyddiwr i newid graddfa'r map sydd i’w weld a hefyd i weld nodweddion yn fwy neu’n llai.
1.2.6 Nodwedd y map sylfaenol
Ceir y mapiau sylfaenol oddi wrth Arolwg Ordnans. Mae yna ddewis o dri map sylfaenol, pob un â golygfa a phersbectifau gwahanol. Y tri map sylfaenol yw:
-
Map cefndir agored Arolwg Ordnans
-
Map carto Arolwg Ordnans
-
Map premiwm rasters Arolwg Ordnan
Y map a fydd yn agor yn ddifofyn bob tro yw map cefndir agored Arolwg Ordnans ond gellir dewis y mapiau sylfaenol eraill sydd ar gael drwy’r nodwedd hwn.
1.2.7 Dewis cyfesurynnau
Y cyfesuryn diofyn ar gyfer y map yw lledred / hydred. Gellir ei newid i x/y drwy ddefnyddio'r offer hwn.
1.2.8 Ystod graddfa
Gellir defnyddio hyn i fesur pellter ar y map. Mae'r ystod yn cynyddu / gostwng i gyd-fynd â'r nodwedd chwyddo mewn / allan.