Pa waith mae CNC yn ei wneud yn fy rhanbarth i?
Ein rôl mewn rhanbarthau draenio
Prif rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn rhanbarthau draenio yw rheoli lefel y dŵr a lleihau perygl llifogydd drwy reoli a chynnal a chadw sianeli draenio, cyrsiau dŵr cyffredin, gorsafoedd pwmpio a strwythurau rheoli.
Mae gwaith sy’n cael ei wneud mewn rhanbarthau draenio’n helpu i gynnal a diogelu gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:
- Amaethyddiaeth a’r amgylchedd
- Hamdden ac addysg
- Pobl a chymunedau
- Asedau diwydiannol a masnachol
- Cyfleustodau a thrafnidiaeth
Gwelliannau drwy waith cynnal a chadw
Mae gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn cael ei wneud yn flynyddol fel arfer, os oes cyfiawnhad ariannol dros ymyrryd. Byddwn yn ymgynghori â’n timau pysgodfeydd, hamdden, bioamrywiaeth a chadwraeth ac â’r Grwpiau Cynghori ar Ranbarthau Draenio cyn cytuno ar y rhaglen. Mae hyn yn sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei gynnal a’i gadw ac, os oes modd, yn cael ei wella o ganlyniad i’n gwaith cynnal a chadw.
Rheoli cyrsiau dŵr
Mae unrhyw arian sy’n cael ei godi mewn rhanbarth draenio’n cael ei wario ar gynnal a chadw a rheoli ein cyrsiau dŵr a strwythurau cysylltiedig. Rydyn ni’n canolbwyntio ar weithgareddau sy’n ein helpu i reoli draeniad tir, lefel y dŵr a pherygl llifogydd. Mae ein gweithgareddau cynnal a chadw’n cael eu gwneud yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, a byddwn yn sicrhau bod cyfiawnhad ariannol ac amgylcheddol dros ymyrryd.
Darllenwch fan hyn ein hadolygiad o daliadau praeseptau - i ganfod ateb cynaliadwy i ariannu yn y dyfodol.
Enghreifftiau o’n gwaith
Mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cynnwys:
- Rheoli chwyn dŵr mewn sianeli draenio
- Clirio llaid a gro o sianeli draenio
- Cynnal a chadw gorsafoedd pwmpio a strwythurau rheoli dŵr
- Clirio griliau a symud rhwystrau sy’n atal llif y dŵr mewn sianeli draenio
Darganfod pa waith sy’n cael ei gynllunio yn eich rhanbarth chi
Mae’r rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer pob rhanbarth yn cynnwys gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu gwneud yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gadw at ein rhaglen gynnal a chadw, ond gallai tywydd drwg, llifogydd, prinder adnoddau neu ddigwyddiadau amgylcheddol effeithio ar union amseriad gweithgaredd cynnal a chadw penodol. Gallai hyn olygu nad yw’r gwaith yn cael ei gwblhau yn unol â’r amserlen.