Cynllun rheoli basn afon Hafren 2021-2027 wedi’i gyflwyno i gael cymeradwyaeth y Gweinidog

Cynlluniau rheoli basnau afonydd sy’n rhoi’r fframwaith cyffredinol ar gyfer rheoli dŵr, gan helpu i warchod a gwella ein hamgylchedd dŵr.

Mae ein hafonydd, ein llynnoedd, ein gwlypdiroedd, ein dyfroedd daear, ein haberoedd a’n dyfroedd arfordirol – gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwarchodedig – i gyd yn dod o dan y cynlluniau hyn.

Rydym yn diweddaru’r cynlluniau bob chwe blynedd. Drwy gyfrwng y broses hon, rydym yn datblygu’n dealltwriaeth o gyflwr yr amgylchedd dŵr, y pwysau arno a pha fesurau y mae eu hangen i’w wella a’i warchod drwy ddefnyddio’r dystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd.

Cynllun rheoli basn afon Hafren

Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n arwain y gwaith ar gyfer Afon Hafren.

Rydym yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a phartneriaid i sicrhau bod y trefniadau cydweithredol priodol ar waith ar gyfer cynllunio a rheoli dalgylch trawsffiniol rhanbarth basn afon Hafren. 

Rhan Cymru o gynllun rheoli basn afon Hafren

Mae'r crynodeb yn disgrifio:

  • cyflwr presennol yr amgylchedd dŵr
  • pwysau sy’n effeithio ar yr amgylchedd dŵr
  • amcanion amgylcheddol ar gyfer gwarchod a gwella’r dyfroedd
  • y rhaglen o fesurau a chamau gweithredu y mae eu hangen i gyflawni’r amcanion
  • cynnydd ers cynllun 2015

Rhan Cymru o gynllun rheoli basn afon Hafren.

Tystiolaeth a data am yr amgylchedd dŵr

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am gyflwr presennol yr amgylchedd dŵr yng Nghymru, mesurau ac amcanion ar gyfer ei wella, a dalgylchoedd cyfle ar wefan Arsylwi Dyfroedd Cymru.

Ardaloedd gwarchodedig mewn ardaloedd basnau afonydd

Chwiliwch y gofrestr o ardaloedd gwarchodedig yn ardaloedd basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru i gael gwybodaeth am:

  • ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed
  • dyfroedd pysgod cregyn
  • dyfroedd ymdrochi (hamdden)
  • safleoedd Ewropeaidd
  • ardaloedd sensitif o ran maethynnau

 

Sut datblygwyd y cynlluniau ar gyfer Cymru

Crynodeb o’r broses dechnegol, economaidd ac ymgysylltu a ddefnyddiwyd i ddatblygu cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru:

Atodiad trosolwg cynllunio (Cymru)

 

Cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru

Cynlluniau rheoli basnau afonydd Dyfrdwy a Gorllewin Cymru 2021-2027.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf