SoNaRR2020: Cyfrannu at Economi Adfywiol, Cyflawni Lefelau Cynhyrchu a Defnydd Cynaliadwy

Roedd Cymru'n rhan flaenllaw o'r chwyldro diwydiannol cyntaf ac mae'r creithiau'n dal i'w gweld, gan gynnwys hen weithfeydd mwyngloddio, cyrsiau dŵr llygredig, dulliau amaethyddol dwys a cholled bioamrywiaeth.

Wrth fynd i'r bedwaredd chwyldro diwydiannol mae angen economi ar Gymru sy'n adfywio ecosystemau ac yn ailgyflenwi adnoddau naturiol.

Byddai economi o'r fath yn sicrhau mai dim ond ei chyfran deg o adnoddau'r Ddaear y mae Cymru'n ei defnyddio a'i bod yn bodloni nod llesiant Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang.

Pe bai pawb ar y Ddaear yn defnyddio adnoddau naturiol ar yr un gyfradd â Chymru, byddai angen 2.5 planed. Mae'r gor-ddefnydd hwn o adnoddau naturiol yn rhoi straen ar ecosystemau yng Nghymru ac ledled y byd. Daw ein hasesiad i'r casgliad bod Cymru'n bell o sicrhau economi sy'n adfywio.

Cyfleoedd i weithredu

Er mwyn cyflawni'r nod o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, mae angen patrymau cynhyrchu a defnyddio mwy cynaliadwy ar Gymru.

Gellir defnyddio'r fframwaith DISRUPT (isod) i nodi'r cyfleoedd i weithredu.

Dylunio ar gyfer y dyfodol

Mae dull systemau cyfan o ddylunio cylch bywyd cynnyrch yn sicrhau y gellir trwsio ac ail-wneud cynhyrchion i ymestyn y defnydd o adnoddau naturiol.

Ymgorffori technoleg ddigidol

Datblygu'r 'rhyngrwyd pethau' i gefnogi datgarboneiddio. Defnyddio gwasanaethau digidol fel ffrydio cerddoriaeth, yn lle nwyddau ffisegol.

Cynnal a chadw beth sydd gennym eisoes

Ehangu a rheoli'r rhwydwaith presennol o ardaloedd gwarchodedig yn effeithiol, gan gynnwys ardaloedd daearol, dŵr croyw a morol.

Ailfeddwl y model busnes

Annog rhannu, ailddefnyddio ac ailwerthu; er enghraifft drwy oergelloedd cymunedol a chaffis trwsio. Ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr o ddeunydd pacio a nwyddau trydanol i gynhyrchion eraill. Sicrhau bod cynhyrchwyr yn ariannu costau net llawn rheolaeth diwedd oes ac yn annog eco-ddylunio.

Defnyddio gwastraff fel adnodd

Blaenoriaethu adnoddau atgynhyrchiol

Defnyddio adnoddau adnewyddadwy yn lle adnoddau anadnewyddadwy (er enghraifft pren yn lle dur, a choncrit neu bioplastigau yn lle plastigau petrolewm).

Cydweithio i greu gwerth i bawb

Gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i leihau defnydd a chynhyrchiant gwastraff gan gyd-fynd â pholisïau diwydiannol ac arloesi Cymru.

Lawrlwythwch bennod lawn SoNaRR rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy - nod 4, economi atgynhyrchiol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf