SoNaRR2020: Y tu hwnt i gynaliadwyedd
Mae penodau SoNaRR2020 yn nodi camau gweithredu a all helpu Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a phontio'r bwlch rhwng lle mae Cymru heddiw a ble mae angen i ni fod i gyflawni'r nodau llesiant.
Mae'r camau gweithredu yn canolbwyntio ar ecosystemau a gweithgarwch economaidd. Yn benodol, rheolaeth ffiesgol ar adnoddau naturiol yn yr wyth ecosystem eang.
Ffigur 1: Mae’r ffigur yn cymharu nodweddion economi sy'n adfywio ac economi sy'n dirywio. Mae'n pwysleisio bod economi ddirywiol sydd â dyluniad mecanistig yn defnyddio mwy o ynni a deunyddiau, tra bo economi adfywiol sydd â dyluniad system naturiol yn defnyddio llai o ynni a deunyddiau.
Yn draddodiadol, mae camau i fynd i'r afael â phwysau amgylcheddol wedi canolbwyntio ar ddylanwadu ar reoli'r ecosystemau eang, gan ddefnyddio cymhellion a mesurau rheoleiddio i ddylanwadu ar y defnydd o adnoddau naturiol a gweithrediad ecosystemau.
Canolbwyntiwyd ar faes yr ecosystemau, gyda rheolaeth uniongyrchol ar dir a môr, a'r maes economaidd, sy'n cynnwys rheoleiddio gweithgarwch economaidd. Mae angen i ymateb i'r argyfyngau natur a hinsawdd gynnig rhywbeth mwy na'r dull traddodiadol hwn.
Fel mae graff y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD)1 isod yn dangos, mae angen amrywiaeth o ddulliau ar y camau i fynd i'r afael â materion fel colli bioamrywiaeth, gan gymryd ffocws ecosystem, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Gan weithio o waelod y graff, mae angen i Gymru ddefnyddio popeth o weithredu ar gyfer cadwraeth natur i leihau'r defnydd o adnoddau naturiol.
Portffolio o gamau gweithredu i leihau colled bioamrywiaeth a'i hadfer - addaswyd o CBD 2020
© Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol.
Rhagolwg Bioamrywiaeth Byd-eang 5 – Crynodeb i Wneuthurwyr Polisi
Ychwanegu'r maes cymdeithasol
Drwy ychwanegu ffocws ar y maes cymdeithasol a sut rydym yn ysgogi newid mewn cymdeithas, gallwn alluogi ymateb priodol i'r materion amgylcheddol byd-eang y mae Cymru'n eu hwynebu.
Nid yw sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy yn rhywbeth y gall CNC na Llywodraeth Cymru ei wneud ar eu pennau eu hunain, mae'n her i gymdeithas gyfan.
Mae CNC yn archwilio sut y gall y sector cyhoeddus feithrin trefniadau gweithredu ar y cyd â busnes a chymdeithas sifil. Drwy Ddatganiadau Ardal a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, rydym yn archwilio'r ffordd orau o weithredu Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru.
Er mwyn sicrhau newid trawsnewidiol mae angen i Gymru dreialu syniadau, lansio arbrofion a chefnogi arloesedd. Dim ond drwy weithio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector y gellir defnyddio'r meysydd ecosystem, economaidd a chymdeithasol i ysgogi'r newid sydd ei angen i fynd i'r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.
Er mwyn sicrhau newid y tu hwnt i'r hyn y mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat wedi bod yn ei wneud gyda rheoli tir ym maes ecosystemau a rheoleiddio yn y maes economaidd, mae angen inni ymgysylltu â chymdeithas sifil a chyflwyno'r maes cymdeithasol.
Mae cymdeithas sifil yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau anllywodraethol a di-elw, megis mudiadau gwirfoddol a chymunedol, grwpiau ffydd, undebau llafur, elusennau lleol a chenedlaethol. Mae'r ystod hon o weithredwyr yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i sicrhau newid ar wahanol raddfeydd.
Mae mabwysiadu dull systemau cyfan yn golygu edrych ar y rôl y gall busnes a'r sector gwirfoddol ei chwarae, ynghyd â'r llywodraeth, ar lefel leol, lefel Cymru a lefel y DU.
"Pobl sy'n gyfrifol am broblemau amgylcheddol mawr heddiw: datgoedwigo, gorbysgota, plastigau mewn cefnforoedd, ac, wrth gwrs, newid yn yr hinsawdd. Ond pobl yw'r ateb hefyd. Mae ein dealltwriaeth gynyddol o ymddygiad dynol a gwneud penderfyniadau yn addawol iawn wrth geisio ysbrydoli'r newid ymddygiad sydd ei angen i warchod natur a darparu ar gyfer y cymunedau sy'n dibynnu arni."
- Newid Ymddygiad dros Fyd Natur: Pecyn Cymorth Gwyddor Ymddygiad i Ymarferwyr.
Yn draddodiadol, mae problemau amgylcheddol wedi cael sylw ar lefel y ffactorau sy'n gyrru newid yn uniongyrchol, gan gymryd y pwysau wrth iddynt ymddangos ar lawr gwlad, yn maes ecosystemau. Er enghraifft, ceisir atebion i lygredd dŵr gwasgaredig o amaethyddiaeth ar raddfa ffermydd, gydag arferion rheoli tir gwahanol a storio llygryddion posibl yn well. Ond ni all gweithredu ar y lefel hon newid y systemau a'r ymddygiadau sy'n gyrru'r pwysau ar yr amgylchedd.
Nid yw'r ffactorau sy'n gyrru llygredd yn anuniongyrchol o fewn y system fwyd, megis y galw am fwyd rhad ac incwm ffermydd dan bwysau gan y sector manwerthu, yn cael sylw drwy weithredu o fewn maes yr ecosystemau. Yr ateb yw trawsnewid y system fwyd ar lefel ddigon uchel i leihau pwysau wrth ei wraidd.
Gall newidiadau i'r system yn y maes cymdeithasol gyflawni ystod ehangach o gamau gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr ysgogwyr anuniongyrchol a newid y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn byw. Gan gynnwys ffocws ar gymdeithas yn ogystal â'r meysydd economaidd a chymdeithasol, mae'n darparu lle pellach i ysgogi newid i'r gyrwyr anuniongyrchol, gan ehangu'r ffocws i gynnwys elfennau economaidd, demograffig, llywodraethu, technolegol a diwylliannol.
Meysydd ecosystem, economaidd a chymdeithasol:
- Maes ecosystemau, sy'n edrych ar gyfleoedd uniongyrchol i reoli adnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy
- Y maes economaidd, lle gall cymhellion a mesurau rheoleiddio fynd i'r afael ag ysgogwyr anuniongyrchol newid a lleihau'r pwysau ar ecosystemau
- Y maes cymdeithasol, lle gall newidiadau i'r ffordd rydym yn byw gael effeithiau mwy radical, gan ganolbwyntio ar yr ysgogwyr anuniongyrchol a lleihau pwysau, a chan fynd i'r afael ag ysgogwyr newid amgylcheddol wrth eu gwraidd
Cyfyngir ar yr opsiynau ar gyfer newid ym maes ecosystemau gan faint y gellir addasu ecosystemau gan gadw eu gwydnwch. Dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud i newid rheoli tir ar ffermydd er mwyn cyfyngu ar lygredd dŵr gwasgaredig.
I'r gwrthwyneb, mae llawer mwy o opsiynau ar gael i lywio'r maes economaidd i gyfeiriad mwy cynaliadwy. Bydd newid yr amgylchedd gweithredu y mae'r fferm yn gweithio ynddo yn cynnig mwy o opsiynau ar gyfer rheoli tir a systemau ffermio llai dwys. Ond, bydd yr opsiynau'n dal i gael eu cyfyngu gan y bwyd y mae defnyddwyr yn ei geisio a'r pris y maent yn barod i'w dalu.
Mae'r lle mwyaf ar gyfer newid i'w weld yn y maes cymdeithasol o amgylch yr opsiynau i newid y ffordd y mae pobl yng Nghymru yn byw. Bydd newid y ffordd y mae cymdeithas yn trefnu'r system fwyd yn sbarduno newid drwy'r system gyfan.
Gan edrych y tu hwnt i reoleiddio'r system fwyd, ar ganlyniadau ehangach polisi cyhoeddus, amcangyfrifwyd am bob £1 y mae defnyddwyr yn ei wario ar fwyd, bod y gymdeithas yn ysgwyddo £1 arall mewn costau o ran effaith ar iechyd a llygredd dŵr (Fitzpatrick I, Young R, Perry M, Rose E. 2017). Mae'n amlwg bod angen i Gymru ysgogi newid ar draws y tri maes, gan fanteisio ar y cyfleoedd perthnasol ar wahanol lefelau i wneud cynnydd tuag at y nodau llesiant.
Darllenwch nesaf
SoNaRR2020: Trawsnewid y system fwyd
SoNaRR2020: Trawsnewid y system ynni
SoNaRR2020: Trawsnewid y system drafnidiaeth