SoNaRR 2025: Porth tystiolaeth a map
Mae'r wybodaeth yn rhan o Adroddiad oGyflwr Adnoddau Naturiol 2025 (SoNaRR)
Porth tystiolaeth SoNaRR 2025
Mae ein porth yn cyflwyno tystiolaeth am ecosystemau ac adnoddau naturiol Cymru. Mae'r dystiolaeth hon yn disgrifio'r pwysau sydd ar ein hamgylchedd, cyflwr ein hecosystemau a'n hadnoddau naturiol, a'r gwasanaethau a'r manteision ecosystemol y maent yn eu darparu.
Mae'r dystiolaeth hon wedi cael ei defnyddio gan ein harbenigwyr i asesu rheolaeth gynaliadwy Cymru o adnoddau naturiol ac i nodi cyfleoedd integredig ar gyfer gweithredu i wella’r modd y maen nhw’n cael eu rheoli.
Map SoNaRR 2025
Mae’r map a gyflwynir yn dangos trosolwg o faint wyth ecosystem eang Cymru. Mae’r map yn seiliedig ar ddata a grëwyd gan Cymru Fyw, sef prosiect gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.