Ymchwil Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol
Mae’r rhaglen ymchwil hon yn canolbwyntio ar reoli peryglon llifogydd ac erydiad arfordirol

Llifogydd yw un o'r peryglon naturiol mwyaf sy'n effeithio ar ddiogelwch a chynaliadwyedd cymunedau ledled Cymru.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd y newidiadau yn ein hinsawdd yn arwain at law trymach a mwy rheolaidd, tywydd mwy stormus ac y bydd lefelau'r môr yn codi. Mae'r ffactorau hyn yn debygol o gynyddu effaith ac amlder llifogydd ac mae angen i ni fod yn barod. Mae angen i ni sicrhau bod ein penderfyniadau, ein gweithrediadau a’n cyngor i’r Llywodraeth yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn, o ansawdd sicr.
Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol
Er mwyn ein helpu i gwrdd â’n hanghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth, rydym yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra ar y Rhaglen Ymchwil a Datblygu Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydiad Arfordirol.
Nod y rhaglen, sy'n cwmpasu Cymru a Lloegr, yw bodloni anghenion pob awdurdod llifogydd ac arfordir gweithredol drwy ddarparu tystiolaeth allweddol er mwyn:
- llywio'r gwaith o ddatblygu polisi a strategaeth
- deall ac asesu peryglon arfordirol a llifogydd
- rheoli asedau llifogydd ac erydiad arfordirol mewn ffordd gynaliadwy
- paratoi ar gyfer a rheoli llifogydd yn effeithiol Mae prosiectau cyfredol y rhaglen, sy’n ategu ein tystiolaeth rheoli perygl llifogydd cenedlaethol, yn cynnwys:
Prosiectau cyfredol
Mae prosiectau cyfredol y rhaglen, sy’n ategu ein tystiolaeth rheoli perygl llifogydd cenedlaethol, yn cynnwys:
- Dulliau ymarferol o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau – Llunio arweiniad ymarferol ar gyfer y rheini sy’n gysylltiedig â’r gwaith o drosglwyddo neu ddatgomisiynu asedau
- Amcangyfrif llifogydd mewn dalgylchoedd bach – Mae angen deall amcangyfrifon llif a maint yn well ar gyfer dalgylchoedd ag arwynebedd sy’n llai na 25km2. Mae’r prosiect hwn yn ceisio gwella cynrychiolaeth dalgylchoedd bach yn y gronfa ddata ‘HiFlows-UK’ ac adolygu technegau’r ‘Flood Estimation Handbook’ (FEH)
- Perfformiad glaswellt a phridd wrth wrthsefyll erydiad – Gwella dealltwriaeth o berfformiad glaswellt a phridd o ran gwrthsefyll erydiad. Dyma’r cam cyntaf i ddiweddaru a gwella canllawiau cyfredol ar gyfer cynllunwyr a rheolwyr asedau
- Gallu pysgod a llysywod i deithio heibio i seilwaith rheoli perygl llifogydd – Nod y prosiect hwn yw datblygu canllawiau newydd ac offer ategol sy’n cyfuno’r gwaith ymchwil, y canllawiau a’r profiad ymarferol diweddaraf. Bydd yn helpu i gyflawni a chynnal mesurau hwyluso pysgod a llysywod. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol iawn i berchnogion a gweithredwyr gorsafoedd pwmpio
- Rhoi Pobl wrth Galon Rhybuddion Llifogydd sy’n Seiliedig ar Effeithiau – Cyflwyno tystiolaeth allweddol er mwyn datblygu rhybuddion llifogydd defnyddiol a llawn gwybodaeth sy’n cymell y rheini sydd mewn perygl i gymryd camau priodol
Prosiectau a gwblhawyd
Mae prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar, sy’n ategu ein tystiolaeth rheoli perygl llifogydd cenedlaethol, yn cynnwys:
- Gweithio gyda Phrosesau Naturiol – Mae’n cynnig gwybodaeth am y sylfaen dystiolaeth ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol. Cyflawnwyd hyn trwy gyfrwng tri o brosiectau cydgysylltiedig:
- Cyfeiriadur tystiolaeth sy’n crynhoi pa mor effeithiol yw gwahanol fesurau ar gyfer rheoli llifogydd yn naturiol
- Mapiau mynediad agored y gellir eu defnyddio i nodi’r mathau o fesurau a allai weithio yn y dalgylch a ble y gellir dod o hyd iddynt (ar gyfer mapiau’n ymdrin â Chymru
- Canllawiau ategol y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â’r pethau hyn er mwyn helpu i greu achosion busnes
- Asesu effeithiau newid hinsawdd ar ddirywiad asedau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) – Gwella ein dealltwriaeth o sut y mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein hasedau amddiffyn rhag llifogydd a’n hasedau amddiffyn yr arfordir, a deall y difrod a all ddod i’w rhan
- Gwneud gwell defnydd o ddata lleol wrth amcangyfrif amlder llifogydd – Darparu tystiolaeth, dulliau a chanllawiau ymarferol ar gyfer asesu a lleihau ansicrwydd amcangyfrifon sy’n ymwneud â llifogydd
- Lwfans Ansicrwydd Gweddilliol – Canllaw ar gyfer helpu i asesu ac ymdrin ag ansicrwydd wrth gynllunio prosiectau rheoli perygl llifogydd/arfordir, ac wrth wneud penderfyniadau
- Cwndidau argaeau a chronfeydd dŵr: rhoi diogelwch yn gyntaf – Canllawiau cynhwysfawr ar archwilio, monitro, ymchwilio i ac atgyweirio twneli, cwlfertau a phibellau oddi mewn i argaeau a chronfeydd dŵr
Cyfleoedd ymchwil eraill
Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i chwilio am ragor o gyfleoedd i lenwi bylchau o ran gwybodaeth a thystiolaeth, er enghraifft trwy grantiau cynghorau ymchwil neu drwy weithio gyda phrifysgolion yn cysylltu gweithgareddau ymchwil gyda rhaglenni gwaith CNC.
Enghreifftiau diweddar yw prosiectau a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), lle’r ydym wedi gweithio gydag eraill i gefnogi'r prosiect a darparu astudiaethau achos:
- Dulliau Gwyrdd o ran peirianneg afonydd – cefnogi gweithredu seilwaith gwyrdd Cymorth newydd yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheolwyr asedau, peirianwyr, penderfynwyr a defnyddwyr eraill i gefnogi’r dasg o ddewis a defnyddio dulliau peirianegol gwyrdd i ddiogelu afonydd
- Gwyrddio’r Llwyd: Fframwaith ar gyfer Seilwaith Gwyrdd Llwyd Integredig Cymorth i reolwyr, peirianwyr, timau cadwraeth a bioamrywiaeth, penderfynwyr a defnyddwyr eraill i nodi’n well y dewisiadau o ran seilwaith gwyrdd llwyd integredig
Bydd gweithredu allbynnau'r prosiectau hyn yn sicrhau bod CNC yn parhau i wneud penderfyniadau ar sail y wyddoniaeth a’r dystiolaeth orau sydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni;
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)
Cyfeiriad e-bost
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cyfeiriad post
Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria 29
Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP