Adroddiadau Adran 18: Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru 2011 i 2019

O dan adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae dyletswydd statudol ar Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio adroddiad i Weinidogion Cymru ynglŷn â’r modd y mae perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn cael eu rheoli ledled Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud hyn ar ran yr holl Awdurdodau Rheoli Risg sy'n gweithredu yng Nghymru, sy'n cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr a charthffosiaeth. 

Gweithredu’r strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha mor dda y mae Awdurdodau Rheoli Risg yn gweithredu strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM). Mae’r strategaeth yn nodi blaenoriaethau, polisïau ac amcanion ar lefel genedlaethol i helpu i reoli a lleihau effaith perygl llifogydd ac erydu arfordirol, yn awr ac yn y dyfodol.

Dogfen gyfeirio safonol

Mae pob adroddiad wedi'i lunio gan ddefnyddio gwybodaeth a ddarparwyd gan Awdurdodau Rheoli Risg. Maent yn crynhoi'r buddsoddiadau, y datblygiadau allweddol a'r gwelliannau gweithredol a wnaed i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru ac i wella ymwybyddiaeth a pharodrwydd y rhai sydd mewn perygl. 

Meithrin gwytnwch

Mae llifogydd diweddar yn helpu i ddangos pa mor dda y mae'r buddsoddiadau a'r camau gweithredu gan Awdurdodau Rheoli Risg yn gweithio i ddiogelu cymunedau a seilwaith hanfodol.

Fodd bynnag, mae’r newid yn yr hinsawdd yn debygol o roi mwy o bwysau ar allu Cymru i reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn effeithiol. Mae Awdurdodau Rheoli Risg yn ymchwilio i weithgareddau’r dyfodol ac yn eu cynllunio gan ystyried pwysau cynyddol, gan gynnwys:

  • gweithio mwy gyda byd natur, yn hytrach nag yn ei erbyn, i leihau’r perygl;
  • cydweithredu mwy er mwyn rhannu gwybodaeth ac adnoddau;
  • edrych ar ystod ehangach o fesurau i wrthsefyll llifogydd, eu lliniaru a chodi ymwybyddiaeth amdanynt ar raddfa'r dalgylch er mwyn mynd i'r afael â pheryglon llifogydd a'u canlyniadau a chynllunio ar gyfer newidiadau arfordirol.

Ceir trosolwg ar y ffordd y mae Awdurdodau Rheoli Risg yn cynllunio ar gyfer perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol ar ddiwedd pob adroddiad.

Diweddarwyd ddiwethaf