Haenau Map Porth Data Mawndiroedd

Adfer Mawndiroedd

Ôl Troed Gweithgaredd Adfer

Mae’r set ddata hon yn dangos cyfanswm arwynebedd y mawndiroedd sy’n cael eu hadfer ledled Cymru hyd heddiw. Cyflwynir y data fel ffeil siâp polygon, gyda'r uned fesur yn hectarau.

Metadata a lawrlwytho

Gweithgareddau Adfer

Mae’r set ddata hon yn dangos cyfanswm yr arwynebedd, wedi’i fesur mewn hectarau, o waith adfer mawndir a wnaed ledled Cymru hyd heddiw. Cyflwynir y data fel ffeil siâp polygon sy'n cofnodi gweithgareddau adfer. Mae gweithgareddau adfer wedi’u rhannu’n bum grŵp eang: Rheolaeth Hydrolegol, Rheoli Erydiad, Rheoli Coed, Rheoli Llystyfiant a Phori.

Nod Rheolaeth Hydrolegol yw gwrthdroi effaith gweithgareddau niweidiol sydd wedi arwain at newidiadau niweidiol i gyfundrefnau hydrolegol.

Nod Rheoli Erydiad yw lleihau effaith nodweddion erydol fel torlannau mawn a gylïau. Mae’r rhain yn datgelu ardaloedd o fawn moel sy'n dueddol o ddiraddio ymhellach os cânt eu gadael heb eu rheoli.

Nod Rheoli Coed yw lleihau effaith coed ar fawndir. Mae'r rhan fwyaf o dechnegau Rheoli Coed ar gyfer adfer mawndir yn cynnwys planhigfeydd conwydd. Ceir hefyd gweithgareddau sy'n mynd i'r afael â phresenoldeb coed llydanddail. 

Nod Rheoli Llystyfiant yw rheoli goruchafiaeth niferoedd bach o rywogaethau toreithiog (e.e. Molinia, Calluna) er mwyn sicrhau adferiad a pharhad llystyfiant corsydd.

Nod gweithgareddau pori yw adfer a rheoli mawndiroedd trwy addasu trefnidadau pori.

Mae'r data wedi'i rannu'n bolygonau gyda cholofnau’n nodi manylion y mathau eang o weithgareddau, safleoedd, sefydliadau darparu, dyddiadau dechrau a gorffen gweithgaredd adfer, a'r flwyddyn ariannol y digwyddodd ynddi.

Ceir rhagor o wybodaeth am strwythur y set ddata yn y metadata technegol (dolen) a gellir gweld gwybodaeth am y gweithgareddau adfer a sut y cânt eu hadrodd yn y Ddogfen Ganllawiau Gweithgareddau Adfer / Llawlyfr Technegol

Metadata a lawrlwytho

Dosbarthiad Mawn

Mapiau Mawndiroedd Cymru

Mae cyfres fapiau Mawndiroedd Cymru yn darparu dosbarthiad wedi'i ddiweddaru o Fawndiroedd Cymru (hyd at 2022) yn seiliedig ar ffynonellau tystiolaeth cyfredol. Crëwyd yr haenau data ar grid 50m lle mae presenoldeb a thrwch mawn yn cael eu tynnu o amrywiaeth o ffynonellau ar gyfer pob cell grid 50m ar draws Cymru.

Mae sgôr tystiolaeth mawndir yn diffinio lefel yr hyder ym mhresenoldeb mawn mewn unrhyw gell grid benodol, gyda'r celloedd hynny sy'n sgorio mwy na 2 ar y raddfa hon o 1-10, wedi'u cynnwys ar fap dosbarthiad mawn ‘Mawndiroedd Cymru’.

Cyflwynir manylion llawn y ffynonellau data a ddefnyddir i adeiladu'r map hwn yn ogystal â'r methodolegau a ddefnyddir i ddiffinio lefel y dystiolaeth ar gyfer presenoldeb mawn a tharddiad y sgôr tystiolaeth mawn yn ogystal ag amcangyfrifon o drwch mawn (dyfnder), amcangyfrifon stoc carbon ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn adroddiad methodoleg fapio Mawndiroedd Cymru.

Mawndiroedd Cymru

Mae'r set ddata hon yn darparu dosbarthiad mawn ledled Cymru, ac mae’r diffiniad o fawn yn un sydd â thrwch o fwy na 40cm o ddeunydd organig o fewn 80cm uchaf proffil pridd. Mae'n amlinelliad o'r holl safleoedd 50m sydd â ‘Sgôr tystiolaeth’ o 2 neu fwy (fel y darperir yn haen map ‘Mawndiroedd Cymru’).

Metadata a Lawrlwythiad

Tystiolaeth Mawndiroedd Cymru

Mae'r set ddata hon yn dangos ‘Sgôr tystiolaeth’ ar gyfer pob safle 50m sydd â gwerth o 1 neu fwy. Mae'r sgoriau hyn, sy’n amrywio o 2 i 10 yn y map hwn, yn dangos yr hyder bod mawn yn bresennol mewn lleoliad penodol, yn seiliedig ar ansawdd y dystiolaeth sydd ar gael.

Darperir manylion llawn y ffynonellau data, a'u safle cyfunol, a ddefnyddir i gynhyrchu'r ‘Sgôr tystiolaeth’ hwn yn yr adroddiad ar y fethodoleg a ddefnyddir i greu’r gyfres hon o fapiau data mawndiroedd.

Metadata a Lawrlwythiad

Trwch Mawndiroedd Cymru

Mae'r set ddata hon yn dangos dyfnder amcangyfrifedig mawn ar draws ardal Mawndiroedd Cymru fel ‘Trwch mawn’. Mae hefyd yn dangos, fel ‘Trwch wedi’i fesur’, lle mae trwch y mawn yn cael ei gymryd o werthoedd mesuredig (ar gyfartaledd dros y gell 50m) sy'n cwmpasu bron i 10% o'r celloedd yn ardal Mawndiroedd Cymru.

Metadata a Lawrlwythiad

Allyriadau Mawndiroedd Cymru

Mae'r set ddata hon yn dangos yr Allyriadau CO2 ar draws ardal Mawndiroedd Cymru. Fe’i cyfrifwyd o'r categorïau Cyflwr Cynefin Eang. Rhoddir ‘Allyriadau’ mewn t ha-1 yr-1 a chyfrifir ‘Cyfanswm yr allyriadau’ yn ôl cell mewn t yr-1 gan ddefnyddio ardal y gell.

Metadata a Lawrlwythiad

Stoc Carbon Mawndiroedd Cymru

Mae'r set ddata hon yn dangos lefelau'r stoc carbon ar draws ardal Mawndiroedd Cymru. Mae’r holl fawn dwfn wedi'i neilltuo i un o 6 o gyfres pridd mawn. Mae stociau carbon yn cael eu cyfrifo o broffiliau wedi’u safoni o setiau data HORIZON Prifysgol Cranfield.

Yna cyfrifwyd y lefelau stoc carbon cymedrig (tunnelli) ym mhob cell o'r stoc carbon i 150cm mewn kg/m2 o'r data proffil safonol a addaswyd yn ôl trwch y mawn yn y proffil ac yna ei luosi â'r arwynebedd mewn m2. Mae'r map hwn yn dangos y stoc carbon fesul uned ('Stoc carbon’) ynghyd â chyfanswm y stoc carbon (‘Cyfanswm y stoc’) ym mhob polygon.

Metadata a Lawrlwythiad

Cynefinoedd

Mae’r systemau dosbarthu cynefinoedd a ddefnyddir o fewn y setiau data hyn yn cael eu darparu yn Gymraeg pan fo'r dosbarthiadau wedi'u diffinio'n ffurfiol yn yr iaith Gymraeg, e.e. ar gyfer 'Cynefinoedd â Blaenoriaeth' a ddiffinnir o dan Adran 7 interim Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 .

Pan nad oes cynllun dosbarthu wedi'i ddiffinio eto yn Gymraeg, cedwir y termau Saesneg er mwyn cadw’r data yn safonol, er enghraifft, y mathau o gynefinoedd fel y'u diffinnir yn Erthygl 17 Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE.

Rhestr Cyforgorsydd Iseldir Cymru

CNC Rhestr Cyforgorsydd Iseldir Cymru

Dyma fap o arwynebedd mewn hectarau (‘Arwynebedd Ha’) safleoedd cyforgorsydd yr iseldir, ‘Enw safle’, yng Nghymru. Hefyd ceir dynodiad y safle ‘Statws’ ac ‘Uchder’ y safle mewn metrau. Mae’r golofn ‘Cromen cors unigol neu luosog’ yn nodi pa un ai yw’r gors yn cynnwys ‘un’ neu ‘sawl’ cromen. Mae’r golofn ‘Cyd-destun’ yn cynnwys disgrifyddion o gyd-destun y tirwedd ble mae’r gors. Pan gadarnhawyd mai cyforgors oedd y safle gan dystiolaeth balaeoecolegol a/neu dystiolaeth arall, dynodir hyn yn y golofn ‘Cyforgors a Gadarnhawyd’ fel ‘ie’, fel arall dychwelwyd yr ateb ‘tebygol’.

Metadata a Lawrlwythiad

Cam 2 Mawndir Iseldir - Arolygon Cynefinoedd

Metadata a Lawrlwythiad

CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Llystyfiant

Mae’r golofn ‘Math o lystyfiant’ yn rhoi’r math o lystyfiant wedi’i ddosbarthu yn ôl mathau cynefinoedd Cam 2 fel y’u diffinnir yn: Bosanquet, S.D.S, Jones, P.D., Reed, D.K, Birch, K.S. & Turner, A.J. (2013) Lowland Peatland Survey of Wales – Survey Manual, Adroddiad Gwyddoniaeth Staff CCGC Rhif 13/3/2.

Mae pob rhes yn cynrychioli polygon gwahanol a ddiffinnir gan god ‘Poly ID’ unigryw. Mae ‘Arwynebedd ha’ yn rhoi awynebedd pob polygon mewn hectarau. Mae ‘Cyflwr’ yn cynnwys nodiadau ychwanegol ar gyflwr ecolegol yr ardal.

CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - mospolys

Mae haen ‘mospolys’ Mawndir Iseldir yn cyfeirio at ‘bolygonau mosaig’ sy’n cynhyrchu cynrychioliad gweledol o’r mosaig manwl o wahanol fathau o lystyfiant sydd wedi’u cynnwys o fewn arwynebeddau (polygonau) y cyfeirir atynt fel ‘mosaig’ yng ngholofn ‘Math o lystyfiant’ haen ‘CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Llystyfiant’.

Mae’r codau ‘Poly ID’ yn cyfeirio at y Polygonau sydd wedi eu cipio yn yr haen ‘CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Llystyfiant’. Mae’r tabl data mosaig llawn ‘CNC Cam 2 Mawndir Iseldir Mosaig.xls’ yn cynnwys canran ac arwynebedd y mathau o lystyfiant sydd wedi’u cynnwys o fewn y polygonau mosaig ac i’w gael i’w lawrlwytho o wefan Map Data Cymru - Cyfnod 2 Arolwg o Fawndiroedd yr Iseldir yng Nghymru (gov.wales). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ddefnyddio’r mosaig yn Bosanquet, S.D.S, Jones, P.D., Reed, D.K, Birch, K.S. & Turner, A.J. (2013) Lowland Peatland Survey of Wales – Adroddiad Gwyddoniaeth Staff CCGC Rhif 13/3/2.


CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Nodweddion

Mae’r golofn ‘Nodwedd cynefin’ yn rhoi nodweddion mawndiroedd sydd un ai’n rhai sy’n gymwys ar gyfer Ardaloedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yr iseldir neu fathau o gynefinoedd allweddol a geir mewn safleoedd nad ydynt yn rhai dynodedig.

Mae’r ‘Math o lystyfiant’, ‘Cyflwr’ ac ‘Arwynebedd ha’ hefyd yn cael eu darparu yma ar gyfer pob polygon (‘Poly ID’) sy’n cynrychioli nodwedd cynefin. Dylid defnyddio’r set ddata hon ar y cyd â map ‘CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Mawn dwfn’.

CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Safleoedd

Terfynau’r holl safleoedd o fewn Arolwg Mawndir Iseldir Cymru gyda meysydd yn nodi ‘Cod safle’, ‘Enw safle’, ‘Dyddiad arolwg cyntaf’, ‘Dyddiad arolwg olaf’ ac arwynebedd mewn Hectarau ‘Arwynebedd ha’ yr arolygon.

Mae’r setiau data ychwanegol canlynol hefyd ar gael i’w lawrlwytho o Fap Data Cymru

CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Nodiadau [pwynt, llinell, polygon, testun]

Data pwynt, data llinell a data polygon y nodiadau targed ar rywogaethau neu nodweddion arbennig megis cyflwr cynefin. Defnyddir yr haen destun i adnabod gwahanol raniadau gan ddefnyddio llythrennau.

CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Cwadradau

Data pwynt sy’n cynrychioli lleoliadau’r holl gwadradau a gofnodwyd yn Arolwg Mawndir Iseldir Cymru.

CNC Cam 2 Mawndir Iseldir - Ffotograffau

Data pwynt sy’n cynrychioli lleoliadau’r holl ffotograffau a gymerwyd ar gyfer Arolwg Mawndir Iseldir Cymru.

Cam 2 Ucheldir - Arolygon Cynefinoedd

Metadata a Lawrlwythiad

CNC Cam 2 Ucheldir - Llystyfiant

Mae’r golofn ‘Math o lystyfiant’ yn rhoi’r math o lystyfiant wedi’i ddosbarthu yn ôl mathau cynefinoedd Cam 2 ynghyd â nodiadau ar Gyflwr ecolegol yr ardal. Mae pob rhes yn cynrychioli polygon gwahanol a ddiffinnir gan god ‘Poly ID’ unigryw. Mae ‘Arwynebedd ha’ yn rhoi arwynebedd pob polygon mewn hectarau.

CNC Cam 2 Ucheldir - Mospolys

Mae’r haen ‘Ucheldir - mospolys’ yn cyfeirio at ‘bolygonau mosaig’ sy’n rhoi cynrychioliad gweledol o’r ganran o wahanol fathau o lystyfiant a geir o fewn arwynebeddau (polygonau) yng ngholofn ‘Math o lystyfiant’ haen ‘CNC Cam 2 Ucheldir - Llystyfiant’.

Cynefinoedd Erthygl 17 (Cyfarwyddeb Cynefinoedd)

Caiff Cynefinoedd Erthygl 17 eu dosbarthu yn ôl mathau a ddiffinnir dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE: Erthygl 17 Adroddiad Cyfarwyddeb Cynefinoedd 2019 (Cynefinoedd) | Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur – Cynghorydd i’r Llywodraeth ar Gadwraeth Natur. Yr arolygon a gyflwynir yma yw’r fersiwn fwyaf cyfredol o bob un. Mewn achosion lle mae’r arolwg diweddaraf ar raddfa grid bras 10km, mae’r arolwg manwl blaenorol hefyd yn cael ei ddarparu.

Metadata a Lawrlwythiad

Ar gyfer pob haen, y math o gynefin a ddiffinnir yn Erthygl 17 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yw’r un a roddir yn enw’r haen. Mae arwynebedd (‘ARWYNEBEDD Y CYNEFIN HA’) pob polygon yn cael ei roi mewn hectarau. Fel arfer mae disgrifyddion ‘CYFLWR’ anffurfiol yn cyfeirio at drechedd rhywogaeth arbennig pan fo’n berthnasol.

  • CNC Erth17 2012 H7130 Blanket bogs
  • CNC Erth17 2012 H210 Calcareous fens with Cladium
  • CNC Erth17 2018 H7110 Active Raised Bogs
  • Erth17 2012 H7120 Degraded raised bogs
  • CNC Erth17 2018 H7120 Degraded Raised Bog 10km
  • CNC Erth17 2012 H7140 Transition Mires - Erth17 2012 H7140 Transition mires
  • CNC Erth17 2018 H7230 Alkaline Fen Calcium Rich Springwater
  • CNC Erth17 2012 H7150 Rhynchosporion

Cynefinoedd â Blaenoriaeth

Mae ‘Cynefinoedd â Blaenoriaeth’ yn cael eu diffinio dan Adran 7 Deddf Amgylchedd (Cymru) 2016. Rhestr interim yw’r rhestr hon. Mae’r un fath â’r rhestr flaenorol dan adran 42 Deddf yr Amgylchedd NAturiol a Chymunedau Gwledig 2006 ac mae’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd mewn ymgynghoriad ag CNC.

Mae Cynefinoedd Mawndir â Blaenoriaeth yn cynnwys ‘Gorgors’, ‘Cyforgors’ ar dir isel, ‘Trylifiadau, ffeniau a chorsydd siglennaidd ar dir uchel’ a ‘Ffeniau ar dir isel a Gwelau cyrs’, mae dosbarthiad pob un wedi’i gyflwyno fel haen map wahanol. Mae arwynebedd (‘Arwynebedd Ha’) pob polygon wedi ei roi mewn hectarau.

Metadata a Lawrthwythiad

  • CNC Cynefin â Blaenoriaeth - Gorgors
  • CNC Cynefin â Blaenoriaeth - Cyforgors
  • CNC Cynefin â Blaenoriaeth – Trylifiadau, ffeniau a chorsydd siglennaidd ar dir uchel
  • CNC Cynefin â Blaenoriaeth – Ffeniau ar dir isel a gwelyau cyrs

Coedwigaeth

CNC Perchnogaeth Coedwigoedd

Metadata a Lawrlwythiad

Dalgylchoedd Dŵr

Prif Afonydd

‘Enw’r Afon’ yw enw pob cwrs dŵr, y rhoddir ei hyd mewn ‘HYD KM’.

Metadata a Lawrlwythiad

Arolwg Ordnans (OS) - Afonydd Agored

Mae Afonydd Agored yr OS yn rhwydwaith dŵr agored cyffredinol sy’n dangos llif a lleoliadau afonydd, nentydd, llynnoedd a chamlesi ledled Prydain gyfan.

Ar gael i’w lawrlwytho

CNC CFfD Cyrff Dŵr Daear Cylch 2 2015

Mae ‘Enw’ pob corff dŵr daear yn cynnwys gwybodaeth am y ffurfiant daearegol lle mae’r adnodd dŵr daear wedi’i leoli.

Metadata a Lawrlwythiad

Ardaloedd gweithredol

Awdurdodau Unedol Cymru

Mae’r haen map hon yn rhoi ‘ENW ’ a maint Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Metadata a Lawrlwythiad

Ardaloedd Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Mae CNC yn rheoli adnoddau naturiol Cymru ar draws saith Ardal Weithredol, ac mae gan bob un o’r rhain eu ‘Datganiad Ardal’ eu hunain.

Metadata a Lawrlwythiad

Dynodiadau

Mae ardaloedd o Gymru a chanddynt warchodaeth arbennig dan ddynodiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn cael eu cyflwyno fel haenau map gwahanol ar gyfer pob math o ddynodiad.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Metadata a Lawrlwythiad

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)

Metadata a Lawrlwythiad

Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

Metadata a Lawrlwythiad

Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl)

Metadata a Lawrlwythiad

Gwarchodfeydd Natur Cendlaethol (GNC)

Metadata a Lawrlwythiad

Parciau Cenedlaethol

Metadata a Lawrlwythiad

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE)

Metadata a Lawrlwythiad

Gwarchodfeydd Biosffer

Mae’r ddau barth mewnol yn dilyn ffiniau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGa) yn gyntaf (Parth Clustogi) ac yna ffiniau’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) (Parth Craidd). Yr enw ar yr ardal fwyaf yw Parth Pontio.

Metadata a Lawrlwythiad

Gwlyptiroedd Ramsar o Bwysigrwydd Rhyngwladol

Metadata a Lawrlwythiad

Topograffeg

Archif LiDAR Hanesyddol

Mae’r set ddata hon yn cynnwys arolygon o "Archif LIDAR Hanesyddol" a ddiweddarwyd hyd at 2016. Mae haenau DSM (Modelau Arwyneb Digidol) a DTM (Modelau Tir Digidol) yn cael eu darparu yn y map fel delweddau lliw a delweddau tirwedd graddliwiedig ar yr un cydraniad â’r gridiau data LiDAR sef 25cm, 50cm, 1m a 2m, yn eu trefn. Ar gyfer uchder (data uchder), lawrlwythwch y set ddata lawn o Setddata Gyfunedig LiDAR Lle.

Metadata a Lawrlwythiad

  • DSM (25cm)
  • DSM (50cm)
  • DSM (1m)
  • DSM (2m)
  • DTM (25cm)
  • DTM (50cm)
  • DTM (1m)
  • DTM (2m)

LiDAR â manylder 1m 2020-22

Mae’r set ddata hon yn cynnwys data LiDAR a gasglwyd ar fanylder o 1m ledled Cymru rhwng 2020 a 2022. Mae'r Model Arwyneb Digidol (DSM) yn gynrychiolaeth o'r uchderau a gofnodwyd yn yr arolwg LiDAR sy'n cynnwys nodweddion sy’n sefyll, fel coed ac adeiladau. Mae'r Model Tir Digidol (DTM) yn gynrychiolaeth o'r Ddaear foel.

Nid yw’r set ddata ar gael i’w lawrlwytho ar hyn o bryd ond gallwch ei gweld ar Fap Data Cymru ac fel gwasanaethau gwe WMS:

  • LiDAR DSM â manylder 1m 2020-22 (graddliwio amlgyfeiriol)

Delwedd graddlwyd â graddliwio amlgyfeiriol o'r Model Arwyneb Digidol (DSM) sy'n deillio o'r data LiDAR â manylder o 1m a gasglwyd dros dymhorau'r gaeaf 2020-22. Mae'r DSM yn gynrychiolaeth o'r uchderau a gofnodwyd yn yr arolwg LiDAR sy'n cynnwys nodweddion sy’n sefyll, megis coed ac adeiladau.

Dolenni gwasanaethau gwe a metadata

  • LiDAR DSM â manylder 1m 2020-22 (16bit)

Haen DSM - manylder data cyfanrif 16bit 1m wrth 1m (wedi'i dalgrynnu i'r 1m agosaf); Mae'r Model Arwyneb Digidol (DSM) yn gynrychiolaeth o'r uchderau a gofnodwyd yn yr arolwg LiDAR sy'n cynnwys nodweddion sy’n sefyll, fel coed ac adeiladau.

Dolenni gwasanaethau gwe a metadata

  • LiDAR DTM â manylder 1m 2020-22 (16bit)

Haen DTM – manylder data cyfanrif 16bit 1m wrth 1m (wedi'i dalgrynnu i'r 1m agosaf). Mae'r Model Tir Digidol (DTM) yn gynrychiolaeth o'r Ddaear foel.

Dolenni gwasanaethau gwe a metadata

Diweddarwyd ddiwethaf