Maint Cynefin Lled-Naturiol yng Nghymru (Dangosydd 43)
Mapiodd Cyfoeth Naturiol Cymru faint cynefin lled-naturiol Cymru gan ddefnyddio data lloeren diweddar a’r Map Cynefin Cam 1 cyfredol, oedd hefyd yn cynnwys dulliau arolygu maes. Gwnaethom ddarganfod fod 31% o Gymru yn gynefin lled-naturiol yn 2017-2018, yr un fath ag yn 2016-2017. Ceir gwahaniaeth mawr rhwng ardaloedd tir uchel (74%) ac ardaloedd tir isel (19%). Rydym yn adrodd y ffigurau i Lywodraeth Cymru ar gyfer Dangosydd 43 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ardaloedd ecosystemau iach yng Nghymru.
Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig
Diweddarwyd ddiwethaf