Y trwyddedau sy'n ofynnol o bosib ar gyfer echdynnu glo

Rydym yn darparu sawl math o ganiatâd sy'n ymwneud â gwastraff o fwyngloddio ac echdynnu glo.

Er nad ydym yn rhoi caniatâd i echdynnu'r glo ei hun, mae gennym rôl reoleiddiol weithredol i'w chwarae o ran helpu i reoli rhai o'r effeithiau amgylcheddol a ddeillia o gloddio glo.

Rydym yn penderfynu ar geisiadau ar gyfer gollyngiadau i ddŵr wyneb a dŵr daear, ac mewn perthynas â'r dull o reoli gwastraff echdynnol, fel sy'n ofynnol yn ôl cyfraith y DU o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, a ddaeth â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Gwastraff o Fwyngloddio i rym.

Gwastraff o fwyngloddio

Mae'n bosibl y bydd yn ofynnol cael trwydded gwastraff o fwyngloddio ar gyfer y gwaith o reoli gwastraff echdynnol o ganlyniad i gloddio glo. Fodd bynnag, nid oes angen trwydded os gorffennodd y safle gynhyrchu gwastraff cyn 1 Mai 2006 neu os cafodd y gwaith o gau'r safle ei gwblhau erbyn 31 Rhagfyr 2010.

Gall gwastraff echdynnol gynnwys y canlynol:

  • solidau gwastraff neu slyrïau sy'n weddill ar ôl defnyddio nifer o dechnegau i drin mwynau
  • cerrig a phridd neu ddeunydd arall ar ben y graig a symudir fel rhan o'r gweithrediadau echdynnu yn ystod y broses o asesu mwyn neu gorff mwyn, gan gynnwys yn ystod y cam cyn-gynhyrchu
  • pridd, er enghraifft haen uchaf y ddaear, gan gynnwys yr isbridd.

Gwneud cais am drwydded gwastraff o fwyngloddio

Gwneud cais am drwydded gwastraff o fwyngloddio

Canllawiau ychwanegol ar ein tudalen Canllawiau i'ch helpu i gydymffurfio â thrwydded amgylcheddol

Gollwng dŵr

Trwyddedau ar gyfer rheoli gollyngiadau dŵr. Gall gollwng dŵr fod yn rhan hanfodol o weithrediad gwastraff o fwyngloddio neu gall fod yn ollyngiad dŵr ar ei ben ei hun os yw'n deillio o safle echdynnu a lle nad yw'n rhan o weithrediad gwastraff o fwyngloddio.

Mae mwyngloddiau segur yn ffynhonnell sylweddol o lygryddion peryglus, yn nodedig metelau fel haearn, plwm, sinc, cadmiwm a chopr, ac anionau fel clorid a sylffad.

Mae angen mynd i'r afael â mwyngloddiau segur er mwyn i ni gydymffurfio â'n rhwymedigaethau a'n hamcanion o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Ni ellir dwyn i gyfrif berchnogion na gweithredwyr mwyngloddiau a gafodd eu gadael yn segur cyn 31 Rhagfyr 1999 am ganiatáu gollyngiadau o fwyngloddiau ar ôl iddynt gau a lle nad yw unigolyn yn achosi i ddŵr ollwng.

Gan nad oes unigolyn atebol, nid yw'r gollyngiadau hyn yn ddarostyngedig i reoleiddio drwy'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Ni ellir felly wneud gwelliannau i ansawdd y dyfroedd mwynglawdd hyn drwy fodd rheoliadol yn unig.

Ar gyfer y mwyngloddiau hyn, mae'r Awdurdod Glo'n cynnal rhaglen sylweddol o weithgareddau trin dŵr mwynglawdd mewn partneriaeth ag Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill.

Gwneud cais am drwydded gollwng dŵr

Gwneud cais am drwydded gollwng ddŵr

Tynnu dŵr

Ar gyfer trwyddedau tynnu dŵr ar gyfer dihysbyddu mwyngloddiau, chwareli a gweithfeydd peirianneg, mae'n ofynnol cyflwyno adroddiad sy'n cynnwys manylion am y prawf pwmpio ac asesiad o'r effaith y câi'r gwaith tynnu dŵr arfaethedig ar yr amgylchedd lleol.

Darllenwch y ddogfen  ‘Hydrogeological Impact Appraisal for groundwater abstractions’ gan Asiantaeth yr Amgylchedd i gael rhagor o gymorth

neu

Darllenwch y ddogfen ‘Hydrogeological Impact Appraisal for dewatering abstractions’ gan Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r gwaith arfaethedig yn ymwneud â dihysbyddu sỳmp neu gloddfa.

Mae'n bosibl y bydd trwyddedau tynnu dŵr hefyd yn ofynnol ar gyfer gweithgareddau dihysbyddu parhaus ar ôl i fwyngloddiau gael eu gadael yn segur.  Mae gweithgareddau dihysbyddu goddefol, yr ystyrir eu bod â risg isel, a gweithgareddau dihysbyddu â phwmp yn weithgareddau y gellir eu trwyddedu, a hynny yn ystod cyfnod gweithredol mwyngloddiau yn ogystal â phan maent wedi'u gadael yn segur.

Fodd bynnag, gall gweithgareddau dihysbyddu dros dro fod yn esempt o dan Reoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017.

Gwneud cais am drwydded tynnu dŵr

Rhagor o wybodaeth am dynnu dŵr a gwneud cais am drwydded.

Trwyddedau ar gyfer adfer cyfleusterau echdynnu glo

Yn aml, caiff gwastraff ei ddefnyddio i adfer cyfleusterau echdynnu glo. Gellir gwneud hyn drwy'r llwybrau rheoliadol canlynol sy'n seiliedig ar adfer:

  • trwyddedau gwaith symudol a gosodiadau gwaith symudol
  • trwyddedau safle – dyddodi gwastraff at ddibenion adfer

Fel arall, os yw'n bosibl dangos nad yw'r deunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer gwaith adfer wedi'i daflu i ffwrdd, ac felly nad ystyrir ei fod yn wastraff, caniateir ailddefnyddio deunyddiau a gloddiwyd trwy'r Cod Ymarfer Diffiniad Gwastraff.

Darllenwch am y Cod Ymarfer Diffiniad Gwastraff ar wefan CL:AIRE

Mae'r cod ymarfer yn darparu proses eglur, cyson ac effeithlon sy'n ei gwneud yn bosibl ailddefnyddio deunyddiau a gloddiwyd ar y safle, neu'n hwyluso'r weithred o'u symud rhwng safleoedd, ac mae'n galluogi'r canlynol:

  • trosglwyddiad uniongyrchol, ac ailddefnyddio deunyddiau pridd a geir yn naturiol rhwng safleoedd
  • yr amodau i gefnogi gwaith sefydlu/gweithredu cyfleusterau trin pridd sefydlog
  • ailddefnyddio deunyddiau halogedig/anhalogedig ar eu safle gwreiddiol a rhwng safleoedd o fewn prosiectau clwstwr diffiniedig.

Trwyddedau gwaith symudol a gosodiadau gwaith symudol

Mae CNC yn cynnig dwy drwydded rheolau safonol ar gyfer gwaith symudol y gellir eu defnyddio ar gyfer adfer cyfleusterau echdynnu glo. Mae'r ddwy drwydded hyn yn cynnwys y canlynol:

  • SR2010 Rhif 4 – Ar gyfer gwaith symudol ar gyfer taenu ar dir lle mae triniaeth y tir yn arwain at fudd i amaethyddiaeth neu welliant ecolegol
  • SR2010 Rhif 5 – Ar gyfer gwaith symudol ar gyfer adennill, adfer neu wella tir.

Gellir dod o hyd i drwyddedau rheolau safonol ar ein tudalen er mwyn gwneud cais am drwyddedau rheolau safonol ar gyfer gweithrediadau gwastraff.

Os na all gweithredwr gydymffurfio â'r meini prawf ar gyfer y rheolau safonol neu eu bod yn rhy gyfyngol, gellir

Gwneud cais am drwydded bwrpasol ar gyfer gwaith symudol

Pan weithredir o dan drwydded gwaith symudol, bydd angen gwneud cais i osod gwaith symudol hefyd.

Trwyddedau safle – dyddodi gwastraff at ddibenion adfer

Fel arall, gellir defnyddio trwyddedau safle ar gyfer dyddodi gwastraff at ddibenion adfer. Gall hyn fod naill ai ar ffurf trwydded rheolau safonol (SR2017 Rhif 1 – Defnyddio gwastraff mewn gweithrediad dyddodi gwastraff at ddibenion adfer – adeiladu, adennill, adfer, neu wella tir heb ddefnyddio gwaith symudol), neu drwydded bwrpasol.

I ddefnyddio'r opsiwn rheoliadol hwn, rhaid i weithredwr allu dangos bod ei weithgareddau'n ymwneud â gwaith adfer.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y cynlluniau a thrwyddedau ar gyfer adfer gwastraff ar GOV.UK.

Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor cyn ymgeisio i ddatblygwyr ynghylch yr effeithiau posibl ar yr amgylchedd a'r dirwedd ar safle penodol, yn unol â'n cynllun codi tâl.

O safbwynt unrhyw safle y rhoddir trwydded iddo, mae ein rôl fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth yn sicrhau y caiff y risgiau amgylcheddol eu rheoli'n gywir drwy gynnal archwiliadau, archwiliadau safle, gwaith monitro hapwiriol, a thrwy adolygu cofnodion a gweithdrefnau'r gweithredwr.

Trwyddedau ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig

Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau am drwyddedau a chydsyniadau er mwyn penderfynu ar effaith bosibl cynnig ar Safleoedd a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.

Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â thrwyddedu rhywogaethau ar ein tudalen.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ynglŷn â nodi p'un a oes cynefinoedd neu rywogaethau a warchodir sydd angen eu hystyried ’drwy ddefnyddio'r offeryn sgrinio ar ein tudalen ar weithio mewn ardaloedd gwarchodedig.

Diweddarwyd ddiwethaf