Rydym yn gyfrifol am fwy na 40 o fathau gwahanol o gyfundrefnau rheoleiddio ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • diwydiannau mawr (purfeydd, cemegion, sment, gorsafoedd ynni, haearn a dur, bwyd a diod ac ati)
  • diwydiant gwastraff (storio, trin, gwaredu)
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - caniatadau a chydsyniadau
  • sylweddau ymbelydrol (niwclear ac fel arall)
  • trwyddedu rhywogaethau a warchodir gan Ewrop
  • trwyddedu morol
  • trwyddedu cwympo coed
  • gollyngiadau dŵr (dŵr wyneb a dŵr daear)
  • adnoddau dŵr (tynnu, cronni, sychder)
  • rheoliadau deunydd pacio a chynlluniau masnachu'r UE/DU
  • pysgodfeydd masnachol (llyswennod, eogiaid a physgod cregyn)
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy - cyfyngiadau ar fynediad, tir mynediad agored

Rydym yn cyflwyno trwyddedau, yn cynnal asesiadau o gydymffurfiaeth a, lle bo angen, yn cymryd camau gorfodi ffurfiol ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgareddau hyn. Rydym hefyd yn rheoleiddio rhai gweithgareddau lle mae'r gofynion wedi'u cynnwys mewn deddfwriaeth yn hytrach nag mewn trwyddedau safle benodol; er enghraifft, y system dyletswydd gofal o ran gwastraff.

Diweddarwyd ddiwethaf