Sut i apelio yn erbyn penderfyniad rheoleiddiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) neu roi gwybod pan nad ydym wedi dilyn y Cod Rheoleiddwyr.

Pryd i ddefnyddio’r weithdrefn hon

Gallwch ddefnyddio’r weithdrefn hon os ydych chi am gyflwyno apêl reoleiddiol yn erbyn penderfyniad rheoleiddiol diweddar a wnaeth CNC, neu lle rydym wedi methu â gweithredu yn unol â’r Cod Rheoleiddwyr.

Beth yw penderfyniad rheoleiddiol

Penderfyniad rheoleiddiol yw penderfyniad a wneir wrth arfer swyddogaeth reoleiddiol sy’n andwyol i berson a reoleiddir.

Gall hyn gynnwys cymryd cam sy’n tynnu gweithredwr o’r gymuned reoleiddiedig, megis tynnu gweithredwr oddi ar gofrestr o esemptiadau.

Mae hefyd yn cynnwys gosod tâl ar gyfer safle sy’n daladwy o dan gynllun codi tâl a phenderfyniadau am ffurflenni adroddiadau rheoleiddio (er enghraifft, cofnodi ar adroddiad asesu cydymffurfedd bod achos o beidio â chydymffurfio mewn perthynas ag amod trwydded).

Beth nad yw’n benderfyniad rheoleiddiol

Nid penderfyniad rheoleiddiol yw’r canlynol:

  • cyngor ac arweiniad
  • hysbysiad bod CNC yn bwriadu gwneud rhywbeth
  • pan fo CNC yn dweud wrthych ein bod yn cynnig gwneud neu’n bwriadu gwneud rhywbeth

Nid ydym yn ystyried ein bod yn gwneud penderfyniad rheoleiddiol pan nad oes gan ddeddfwriaeth unrhyw ddisgresiwn inni wneud hynny.

Mae yna ffordd wahanol o gwyno am safon y gwasanaeth a gewch gan CNC.

Penderfyniadau i erlyn

Nid yw CNC yn derbyn apeliadau rheoleiddiol ar gyfer penderfyniadau i erlyn. Mae hynny oherwydd bod y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, y gwneir y penderfyniadau hyn oddi tano, yn ei gwneud yn ofynnol i broses adolygu barhaus gael ei chymhwyso i bob achos.

Ymgymeriadau gorfodi

Mae’r penderfyniad i wrthod cynnig ymgymeriad gorfodi yn benderfyniad rheoleiddiol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn derbyn apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod cynnig ymgymeriad gorfodi. Mae hyn oherwydd, pan fyddwn yn gwrthod cynnig, rydym wedi penderfynu erlyn neu roi cosb ariannol, sydd â hawl statudol i apelio.

Os oes gennych ‘hawl statudol i apelio’

Peidiwch â dilyn y broses hon os oes gennych hawl statudol i apelio yn erbyn penderfyniad rheoleiddiol. Yn lle hynny, dilynwch y broses apelio a amlinellir yn y dogfennau a gawsoch gan CNC.

Cam 1: adolygiad o’r penderfyniad rheoleiddio cychwynnol

Codwch eich pryderon gyda’r swyddog neu’r tîm a wnaeth y penderfyniad rheoleiddiol neu a gymerodd y cam gweithredu nad ydych chi’n credu oedd yn dilyn y Cod Rheoleiddwyr.

Mae angen i chi wneud hyn yn ysgrifenedig o fewn 15 diwrnod gwaith i ddyddiad y penderfyniad rheoleiddiol, neu os caiff y penderfyniad rheoleiddiol ei gyfleu’n uniongyrchol i chi yn ysgrifenedig, o fewn 15 diwrnod gwaith i’r dyddiad y byddwch yn cael y penderfyniad rheoleiddiol. Ar gyfer methiant honedig i weithredu yn unol â’r Cod Rheoleiddwyr, rhaid i chi godi eich pryderon o fewn 15 diwrnod gwaith o’r camau gweithredu.

Os caiff y penderfyniad rheoleiddiol ei gyfleu’n uniongyrchol i chi yn ysgrifenedig, yna oni nodir yn wahanol, mae’r 15 diwrnod gwaith yn dechrau’r diwrnod y gwnaethom anfon neges e-bost atoch, cyflwyno neu drosglwyddo’r penderfyniad rheoleiddiol i chi, neu adael y penderfyniad rheoleiddiol yn eich cyfeiriad. Os byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad rheoleiddiol drwy’r post, yna oni nodir yn wahanol, bydd CNC yn ystyried eich bod wedi cael y penderfyniad rheoleiddiol dri diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei bostio.

Mae Cam 1 yn gyfle i wneud cywiriadau cyflym ac i ddatrys camddealltwriaethau.

Bydd CNC yn ymateb i’ch pryderon o fewn 15 diwrnod gwaith. Os nad yw hynny’n bosibl, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi amserlen ar gyfer ein hymateb.

Cam 2: apêl reoleiddio ffurfiol

Os nad yw’r ymateb a gewch yng Ngham 1 yn datrys eich problem, gallwch anfon apêl reoleiddiol Cam 2.

Rhaid i chi anfon hwn o fewn 21 diwrnod gwaith ar ôl i chi gael yr ymateb Cam 1.

Os cyfathrebir yr ymateb Cam 1 yn uniongyrchol i chi yn ysgrifenedig, yna oni nodir yn wahanol, mae’r 21 diwrnod gwaith yn dechrau’r diwrnod y byddwn yn anfon e-bost atoch, neu’n cyflwyno neu’n rhoi’r ymateb Cam 1 i chi, neu’n gadael yr ymateb Cam 1 yn eich cyfeiriad. Os byddwch yn cael ymateb Cam 1 drwy’r post, yna oni nodir yn wahanol, bydd CNC yn ystyried eich bod wedi cael ymateb Cam 1 dri diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei bostio.

Anfonwch eich apêl i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • unrhyw rifau cyfeirnod, fel rhifau hawlen/trwydded a chyfeirnod ffurflen adroddiad
  • manylion y penderfyniad penodol sy’n cael ei herio
  • y rhesymau ynghyd ag unrhyw ddogfennau/tystiolaeth ategol pam eich bod yn ystyried bod ein penderfyniad yn anghywir neu sut y methodd y camau gweithredu â chydymffurfio â’r Cod Rheoleiddwyr

Dylech ddarparu’r holl wybodaeth sy’n berthnasol i’ch apêl. Ni ellir ystyried unrhyw wybodaeth a anfonir yn ddiweddarach fel rhan o’r apêl.

Ar gyfer apeliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio sylweddau ymbelydrol, oherwydd cyfyngiadau diogelwch, dim ond cyfeirnod yr hawlen/trwydded a chyfeirnod y ffurflen adrodd gysylltiedig y dylech eu cynnwys. Yna byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth drwy ddull diogel.

Ar ôl i chi apelio

Sgrinio

Byddwn yn gwirio a yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n ymwneud â phenderfyniad rheoleiddio neu fethiant i gydymffurfio â’r Cod Rheoleiddwyr
  • nid oes hawl statudol i apelio ar gael
  • mae adolygiad Cam 1 wedi’i gwblhau
  • rydych chi wedi anfon yr apêl o fewn yr amser gofynnol

Os byddwn yn gwrthod eich apêl ar y pwynt hwn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam.

Apêl ddiduedd

Bydd gweithiwr CNC nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol yn arwain yr apêl, gyda chefnogaeth tîm bach diduedd. Gallant ofyn am ragor o wybodaeth a byddant yn ystyried ffeithiau, cyfraith, polisi a chanllawiau perthnasol.

Gall arweinydd yr apêl wrthod yr apêl, gan gytuno â’r penderfyniad gwreiddiol, neu gadarnhau’r apêl (yn llawn neu’n rhannol), gan newid y penderfyniad. Os byddwn yn newid y penderfyniad, byddwn yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf.

Canlyniad eich apêl

Byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r canlyniad o fewn 21 diwrnod gwaith ar ôl i chi gael eich apêl reoleiddiol.

Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi amserlen y mae’n rhaid i ni glynu ati o ran ymateb.

Nid yw gofyn am apêl reoleiddiol yn atal y penderfyniad neu’r camau rheoleiddiol oni bai ein bod wedi ysgrifennu atoch yn cadarnhau ei fod yn gwneud hynny.

Nid yw dilyn y broses hon yn effeithio ar eich hawl i wneud y canlynol:

  • gofyn i’r llysoedd adolygu penderfyniad neu weithred
  • gwneud cwyn i’r ombwdsmon

Os bydd CNC yn cael cais am apêl reoleiddiol gan rywun nad yw’n berson a reoleiddir, byddwn yn trin hyn fel cwyn.

Diweddarwyd ddiwethaf