Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Mae’n golygu bod rhaid i ni wneud ein gwaith mewn ffordd gynaliadwy, a meddwl am yr effaith gall ein gwaith gael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.
Rhaid i ni weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i:
- Gydweithio’n well
- cynnwys pobl, gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau
- edrych ar bethau yn yr hirdymor yn ogystal â chanolbwyntio ar y sefyllfa ar hyn o bryd
- cymryd camau i geisio rhwystro problemau rhag gwaethygu - neu hyd yn oed eu hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf
Cewch wybod mwy am y ddeddf a pham fod ei angen arnom ar dudalen wefan Llywodraeth Cymru. Hefyd mae yna ffilm animeiddiedig fer sy’n esbonio’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei gael ar bobl sy’n byw yng Nghymru.
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r byrddau hyn wedi cael eu sefydlu fel rhan o’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn disodli Byrddau Gwasanaethau Lleol (LSB) oedd ar waith yn flaenorol.
Eu diben yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gydweithio i gyflawni’r nodau llesiant.
Ceir 19 o fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lleol a bydd 20 o Asesiadau Llesiant Lleol drafft yn cael eu llunio yn barod ar gyfer ymgynghori’n gyhoeddus yn eu cylch.
Aelodau Statudol pob un o’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw:
- Yr awdurdod lleol
- Y Bwrdd Iechyd Lleol
- Yr Awdurdod Tân ac Achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn ychwanegol at yr aelodau statudol, bydd yr holl Fyrddau Gwasanaethau Lleol yn gwahodd y bobl ganlynol i gymryd rhan:
- Gweinidogion Cymru
- Prif Gwnstabliaid
- Comisiynydd yr heddlu a throseddu
- Ambell Wasanaeth Prawf
- O leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol
- Ymhellach, bydd Byrddau Gwasanaethau Lleol yn gallu gwahodd sefydliadau eraill yn y gwasanaethau cyhoeddus i gymryd rhan
Asesiadau o les lleol
Mae pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) wedi cynnal asesiad o les yn eu hardal, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i ganllawiau statudol ac anstatudol cysylltiedig.
Fe ddatblygwyd asesiadau o les lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) drwy ddefnyddio data a thystiolaeth gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau. Mae yna 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd yna 20 drafft Asesiad o Les Lleol yn cael eu cynhyrchu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae CNC yn aelod statudol o bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru. Rydym wedi cyflwyno data a thystiolaeth sydd gennym neu mae gennym fynediad iddo ar faterion adnoddau naturiol ac amgylcheddol, i gyfrannu at yr asesiadau drafft hyn.
Bellach rydym wedi cwblhau’r asesiadau terfynol o les lleol, ac mae’r tîm Partneriaethau Llywodraeth Lleol wedi cyhoeddi dolenni’r we ar ei gwefan: Asesiadau lles y Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus
Sylwadau ar asesiadau llesiant lleol drafft gan Gomisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Gallwch ddarllen sylwadau unigol Comisiynydd Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar bob un o asesiadau llesiant drafft y 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cynlluniau Lles Lleol
Mae’r cynllun lles lleol yn nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) am y pum mlynedd nesaf i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pob ardal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’n cyflwyno amcanion, blaenoriaethau lles lleol a bydd hefyd yn cyflwyno’r camau mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion lles.
Bellach mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dechrau gwneud camau pendant i gyflawni eu hamcanion a’u blaenoriaethau lles. Byddwn yn rhannu'r rheini pan fyddant yn barod.
I edrych ar y cynlluniau a chael gwybod beth fydd pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei wneud ewch i’r dolenni canlynol:
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerffili
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Castell nedd Port Talbot
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Dinbych
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint