Rheoli ein heffaith ar yr amgylchedd
Ein dulliau ni o reoli’r amgylchedd
Ein pwrpas yw gofalu bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, heddiw ac yn y dyfodol.
Mae system rheoli amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi'i hardystio i safon amgylcheddol ISO14001. Mae dilysu trydydd parti allanol (ardystiad ISO14001) yn rhoi sicrwydd annibynnol i Lywodraeth Cymru a'r cyhoedd bod CNC yn rheoli risgiau ac effeithiau amgylcheddol.
Mae'r coedwigoedd rydym yn eu rheoli fel rhan o Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru hefyd wedi'u hardystio i safonau'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd® (FSC®). Ein côd drwyddedu yw FSC – C115912.
Rydyn ni am i’r ffordd rydyn ni’n rheoli effaith ein sefydliad ar yr amgylchedd fod yn esiampl i eraill yng Nghymru. Byddwn yn:
- lleihau’r carbon deuocsid a’r nwyon tŷ gwydr eraill sy’n mynd i’r amgylchedd o ganlyniad i’n gweithgareddau
- defnyddio llai o ynni yn ein swyddfeydd a’n hadeiladau
- defnyddio llai o ddŵr
- defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon yn ein prosesau
- anfon llai o wastraff i safleoedd tirlenwi
- teithio llai o filltiroedd mewn ceir
- ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ein gwaith caffael
Mae ein Datganiad Polisi Amgylcheddol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ein hymrwymiad amgylcheddol.
Gweler ein Hadroddiadau Amgylcheddol Corfforaethol a'n Hamcanion Amgylcheddol 2022-25 i gael rhagor o wybodaeth.