Cynllun Adnoddau Coedwig Ardal Taf Isaf a’r Fro - Cymeradwywyd 30 Mawrth 2023

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Ardal Taf Isaf a’r Fro yn cwmpasu 12 coetir yn Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Chaerdydd, sy’n tua 877 hectar gyda’i gilydd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn sefyll o fewn glaswelltir amaethyddol wedi’i wella, coetir llydanddail brodorol, a chanolfannau trefol. Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled Naturiol Hynafol (ASNW) yw’r rhan fwyaf o’r coetiroedd, er mai dim ond ardaloedd bach o’r math hwn o goetir sydd gan Hensol a Llantrisant. Mae’r coetiroedd hefyd yn cael eu defnyddio’n fynych gan y gymuned leol ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

Caiff yr amcan hwn ei gyflawni drwy ysgrifennu Cynllun Adnoddau.

Coedwig sy’n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU a Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU. Rhaid cyflawni’r gweithrediadau coedwig dilynol ynghyd â’r rhaglenni gwaith mewn ffordd ddiogel a heb effaith andwyol ar yr amgylchedd. Bydd ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion a chymunedau yn gwella perthnasoedd a gwybodaeth am sut mae’r ystad yn cael ei rheoli a pham, yn lleihau gwrthdaro, yn annog perthnasoedd gwaith mwy clos, ac yn helpu i adnabod cyfleoedd i wella iechyd a llesiant cymunedau ac ymwelwyr. Rhaid i’r adolygiad canol tymor o’r Cynllun Adnoddau Coedwig a gymeradwywyd werthuso a gyflwynwyd y cynllun mewn ffordd ddiogel, lân ac effeithlon ac a wnaeth y Map o Gyfleoedd alluogi gwaith ychwanegol yn y goedwig.    

  • Esblygu strwythur y goedwig i glustogi yn erbyn problemau posib o ran diogelwch, llygredd ac iechyd coed, er enghraifft coed peryglus, a pharthau clustogi afonol. Bydd y map Math o Goetir Dangosol yn hybu amrywiaeth rhywogaethau wrth ailstocio a bydd y map Systemau Rheoli Coedwig a roddir ar waith yn symbylu rhaglenni ar gyfer gwaredu peryglon, er enghraifft coed Llarwydd wedi’u heintio â Phytophthora Ramorum, coed peryglus wrth ymyl cyfleusterau hamdden a gwella amodau golau mewn parthau clustogi afonol. Monitro bob 5 mlynedd ar gyfer cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o gronfa ddata’r is-adran.

  • Cynnal a gwella gwerth tirwedd y goedwig, a sicrhau na effeithir yn andwyol ar gyfleusterau hamdden a nodweddion treftadaeth ddiwylliannol. Monitro bob 5 mlynedd ar gyfer gwaith llwyrgwympo ac ailstocio yng nghronfa ddata’r is-adran yn erbyn y Goedwig.

  • Lleihau perygl tanau gwyllt drwy gynllunio a chyflwyno mesurau priodol ar gyfer rheoli tân yn ystod ac ar ôl gweithrediadau, er enghraifft creu a rheoli parthau atal tân o amgylch ardaloedd ailstocio ac ardaloedd agored, a gweithio gyda Gwasanaeth Tân De Cymru i gynllunio a gweithredu mesurau ar yr ystâd. Caiff yr achosion o dân yn y coetiroedd hyn eu hadolygu ar ganol cyfnod gweithredu’r cynllun.  

  • Cynnal a meithrin cydnerthedd ecosystemau, yn ôl cyfarwyddyd:
    • Datganiad Ardal Canol De Cymru – Adeiladu Ecosystemau Gwydn, yn enwedig y proffiliau cynefinoedd glaswelltir a choetir a’r Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth.
    • Adran 7 (Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) cynefinoedd â blaenoriaeth a rhywogaethau gwarchodedig, er enghraifft coetiroedd lled naturiol hynafol, pathewod ac adar Rhestr 1. Caiff cyfleoedd i wella ac ehangu cynefinoedd naturiol a chynefinoedd ar gyfer rhywogaethau eu mapio ar gyfer cynllunio adnoddau yn y dyfodol.
    • Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) Cymru 2020Nodau 1 a 2 SMNR.  

Caiff yr amcan hwn ei gyflawni drwy gyfrwng y Systemau Rheoli Coedwig a roddir ar waith a’r mapiau Math o Goetir Dangosol sy’n symbylu rhaglenni ar gyfer teneuo a chynnal mannau agored mewn safleoedd ble gellir cyflawni’r effaith fwyaf cadarnhaol dros fioamrywiaeth.  Monitro bob 5 mlynedd ar gyfer cyfansoddiad cynefinoedd a rhywogaethau o gronfa ddata’r is-adran, cofnodion gwaith teneuo a llwyrgwympo a gyflawnwyd gan gymharu â data rhagolygon cynhyrchu. Cofnodion o waith gwella cynefinoedd ar Goetir Lled Naturiol Hynafol a Phlanhigfeydd ar safleoedd Coetir Hynafol, gyda gwaith monitro dilynol ar y safle.  

  • Ni ddylai gwaith coedwigaeth gyfrannu at y lefel bresennol o berygl llifogydd, a hynny o fewn y coetiroedd ac yn unrhyw le oddi ar y safle, a lle bo modd dylid rhoi mesurau mewn lle i leihau unrhyw berygl posib o lifogydd; rhaid cyflawni’r ddau beth drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a’r canllawiau coedwigaeth perthnasol; a thrwy ymgynghori ac ymgysylltu â’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol perthnasol wrth gynllunio gwaith cwympo coed. Ystyriwch fesurau i gadw dŵr ar y safle mor hir â phosib, a chyfleoedd i Reoli Llifogydd yn Naturiol lle bo’n briodol. Monitro bob 5 mlynedd ar gyfer gweithredu llwyrgwympo ac ailstocio yng nghronfa ddata’r is-adran yn erbyn y Goedwig.

  • Ni ddylai gwaith Rheoli Coedwigaeth arwain at unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr, a hynny o fewn nodweddion ar y safle a chyrsiau dŵr sy’n draenio oddi ar y safle, drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol.

Mapiau

Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Diweddarwyd ddiwethaf