I ble y dylwn anfon fy anfoneb? 

Rhaid anfon pob anfoneb i’r cyfeiriad canlynol: 

Cyfoeth Naturiol Cymru
Er Sylw: Cyfrifon Taladwy
Blwch Post 664
Caerdydd
CF24 0YR.  

Efallai y bydd anfonebau a anfonir i swyddfeydd lleol yn cael eu dychwelyd neu efallai y bydd yn arwain at oedi wrth brosesu taliadau. 

Polisi Archebion Prynu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael archeb brynu 7 digid pan fyddwch yn derbyn archeb gan CNC.

Rhaid i bob anfoneb a gyflwynir i’w thalu gynnwys rhif archeb brynu.

Os methir â chynnwys rhif archeb brynu, bydd yr anfoneb yn cael ei dychwelyd gyda chais am archeb brynu gan yr anfonwr.

Telerau Talu CNC 

Telerau talu CNC yw 30 diwrnod o’r dyddiad y derbynnir yr anfoneb, oni bai y cytunir ar drefniant arall. Os bydd gan gyflenwyr ymholiad yn ymwneud â thalu anfoneb, dylid cysylltu â’r tîm Cyfrifon Taladwy trwy e-bost – payments.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

 phwy y dylid cysylltu

Os oes gennych ymholiadau eraill, yna cysylltwch â’n tîm gofal cwsmer ar enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch 0300 065 3000.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Polisi Talu Credydwyr PDF [198.4 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf