Ein cynllun corfforaethol hyd at 2030: byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd

Yr her

Mae Cymru wedi ei llunio gan ei phobl gymaint â'i thirweddau - mae hynny wedi bod yn wir erioed.

Y mynyddoedd, yr afonydd a’r arfordiroedd sy’n creu cymeriad Cymru - ond ysbryd y bobl sy'n gofalu am y tirweddau hyn sy'n rhoi gwytnwch i Gymru.

Ble bynnag y byddaf yn mynd, gallaf deimlo dealltwriaeth pobl nad rhywbeth ar wahân i ni yw byd natur. Mae byd natur yn rhan annatod ohonom – y ddaear o dan ein traed, yr awyr rydym yn ei anadlu, y lleoedd sydd werth y byd inni, a'r etifeddiaeth y byddwn yn ei gadael ar ein holau.


Wrth gyrraedd Cyfoeth Naturiol Cymru ychydig flynyddoedd i mewn i gyfnod y Cynllun Corfforaethol hwn, gwelais sefydliad sydd eisoes yn rhan fawr o’r stori honno – sefydliad sydd eisoes yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, a hynny’n benderfynol a chyda gofal.

Mae yma dîm o bobl ymrwymedig a phenderfynol – a hynny’n amlwg yn y gwaith maen nhw'n ei wneud o ddydd i ddydd. Maent yn falch o gael gwasanaethu Cymru – ac mae gweld hynny wedi bod yn un o'r pethau mwyaf ysbrydoledig wrth ymuno â'r sefydliad hwn.

Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw’r her sy’n diffinio ein hoes. Mae’r effeithiau i'w gweld ledled Cymru – arfordiroedd sydd wedi newid, patrymau tywydd newidiol, pwysau ar rywogaethau a thirweddau, a phwysau hefyd ar fywydau bob dydd pobl a busnesau.

Ers cyhoeddi'r Cynllun hwn y tro cyntaf, mae ein dealltwriaeth o'r heriau hyn, yn ogystal â'r cyfleoedd sydd o'n blaenau, wedi parhau i dyfu a datblygu. Mae tystiolaeth ac asesiadau newydd – gan gynnwys yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR 2025) – yn ein helpu i weld yn gliriach y pwysau ar ein hamgylchedd, a lle gall ein gwaith gael yr effaith fwyaf.


Am y tro cyntaf, mae SoNaRR yn mynd ymhellach - gan weithio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i gyd-gynhyrchu Pontydd i'r Dyfodol, pennod newydd sy'n troi tystiolaeth yn fap ffordd ymarferol ar gyfer newid.

Mae'r sylfaen dystiolaeth hon – sy’n tyfu o hyd – yn rhoi cyfeiriad inni. Mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth a’n mewnwelediad. Mae'n ein helpu ni a'n partneriaid ledled Cymru i wneud penderfyniadau ar frys, ond ar sail gwybodaeth a chan ddeall y posibiliadau.

Mae Cymru wedi gosod targedau uchelgeisiol: rhoi natur ar drywydd adferiad erbyn 2030, gwneud ein rhan lawn o ran cyrraedd targedau amgylcheddol byd-eang, a chyflymu gweithredu ar allyriadau ar draws y sector cyhoeddus. Mae'r ymrwymiadau hyn yn adlewyrchu maint yr her – ond hefyd ein parodrwydd, fel cenedl, i arwain.

Ac eto ni fydd tystiolaeth yn ysgogi'r newid sydd ei angen ar ei ben ei hun. Pobl fydd yn gwneud hynny. A chryfder Cymru yw parodrwydd amlwg ein cydweithwyr, ein partneriaid a’n cymunedau i gydweithio, i ddiogelu'r hyn rydym yn ei werthfawrogi, i adfer yr hyn a gollwyd, ac i feithrin gwytnwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – y cenedlaethau a fydd yn etifeddu'r hyn y byddwn yn ei adael ar ein holau, ac yn gweld canlyniadau’r dewisiadau a wnawn heddiw.

Serch hynny, mae maint a chymhlethdod yr argyfyngau hinsawdd a natur ymhell y tu hwnt i gylch gwaith un corff ar ei ben ei hun. Nid rhywbeth ar gyfer y Cynllun Corfforaethol hwn yn unig yw ein pwyslais ar bartneriaeth – yn hytrach, partneriaeth fydd y sail ar gyfer sicrhau cynnydd go iawn.

Roedd creu CNC yn benderfyniad beiddgar – dod â thri chorff at ei gilydd gyda’r un nod, gan gydnabod na allwn ddatrys yr heriau sydd o’n blaenau ar wahân.

Rhaid i bawb gyfrannu at y trawsnewidiad sydd i ddod – penderfyniadau gan reolwyr tir a chynllunwyr, arloesi gan fusnesau, ymrwymiad gan gymunedau, ac arweinyddiaeth ar bob lefel gan y llywodraeth.

Ein rôl ni yw cyfrannu ein gwybodaeth, ein tystiolaeth a'n harbenigedd, cefnogi eraill, a gweithio'n agored, yn barchus a phwrpasol ochr yn ochr â phawb sy'n rhannu'r cyfrifoldeb hwn er mwyn sicrhau newid sy'n deg a chyfiawn ac sy’n sicrhau y caiff neb ei adael ar ôl.

I gryfhau'r rôl hon, rydym wedi cyflwyno amcan llesiant newydd: 'Sut rydyn ni'n gweithio'. Mae'r amcan hwn yn cydnabod bod angen sefydliad sydd â’r dulliau, yr hyder a’r gallu i gyflawni dros Gymru. Mae angen inni siapio CNC er mwyn inni allu cefnogi partneriaid, cwsmeriaid a chymunedau yn well – gan fuddsoddi yn ein pobl, ein systemau a'n ffyrdd o weithio fel ein bod yn gwneud penderfyniadau gwell a sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer byd natur, o ran yr hinsawdd, ac er mwyn lleihau llygredd hyd yr eithaf.


Wrth galon hyn mae'r profiad rydym yn ei greu i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu: rhaid inni wrando’n ofalus, ymateb yn deg, a sicrhau bod ein cyngor a'n penderfyniadau yn rhoi eglurder a hyder i bobl. Rydym am i bobl deimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed, bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi, a'u bod yn cael eu cefnogi wrth gysylltu a gweithio gyda ni - rhaid i barch, empathi a phroffesiynoldeb fod yn sail i bopeth a wnawn.

Nid yw cryfhau ein sefydliad yn rhywbeth sydd ar wahân i gyflawni ein hamcanion eraill – dyma sy'n gwneud cyflawni yr amcanion hynny yn gyraeddadwy, nawr ac yn y degawd sydd i ddod.

Ni fydd gennym yr atebion i gyd bob amser – mae'r heriau rydym yn eu hwynebu yn sylweddol. Ond nid yr heriau hynny sy’n ein diffinio ni. Ein hymateb iddynt sy’n ein diffinio ni.

Mae Cymru eisoes wedi dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Ac wrth i ni gyflawni'r Cynllun Corfforaethol hwn hyd at 2030, gallwn fynd ymhellach: adfer iechyd byd natur, cryfhau gwytnwch ein cymunedau, a chreu dyfodol lle mae byd natur a phobl wir yn ffynnu - gyda'n gilydd.

Mae’r her o'n blaenau ni i gyd - felly hefyd y cyfle. Gyda'n gilydd, gallwn lunio Cymru sydd nid yn unig yn barod ar gyfer y dyfodol, ond sydd yn ei wynebu’n hollol hyderus.

Neil Sachdev, Cadeirydd

 

Ein Cymru – Ein Cynllun

Yng Nghymru, mae ein perthynas â byd natur wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein hanes a’n diwylliant. O’n tirweddau a’n morluniau i’r tir cyfoethog o dan ein traed, mae natur wedi llywio ein hunaniaeth a’n hymdeimlad o gymuned ers tro byd - felly hefyd, yn hollbwysig, ein heconomi.


Taniwyd diwydiannau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif gan gyfoeth naturiol Cymru - gan adael hanes balch o arloesi a chymunedau yn etifeddiaeth inni.

Yn yr unfed ganrif ar hugain, gall Cymru droi at ei hadnoddau naturiol eto – yn wynt a llanw, yn briddoedd cyfoethog ac yn hinsawdd cymedrol – y tro hwn i fod ar flaen y gad wrth inni ddatgarboneiddio ein heconomi ac adfywio'n tir. 

Cafodd cyd-ddibyniaeth hirsefydlog Cymru â byd natur sylw o’r newydd yn ystod y pandemig byd-eang, wrth i bobl droi at fannau gwyrdd a glas am gysur a dod yn fwy ymwybodol o'r cysylltiad rhwng aer glân ac iechyd. O ganlyniad i hyn, mae llywodraethau, ac eraill, wedi gosod uchelgeisiau i sicrhau adferiad gwyrdd sy’n cynnwys pawb, o bob rhan o gymdeithas.

Mae’r dystiolaeth yn dangos pa mor frys ac angenrheidiol yw’r ymrwymiad hwn i sicrhau adferiad gwyrdd. Mae asesiadau pwysig megis ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (2025), Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 ac Adroddiad Cyflwr Natur 2023 yn tanlinellu’n gyson sut mae adnoddau naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru yn dirywio’n sylweddol.

Mae'r Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd ar gyfer Cymru hefyd yn nodi 53 o risgiau allweddol sy'n effeithio ar bob agwedd o gymdeithas – o iechyd a natur i seilwaith a busnes.

Y dystiolaeth hon sy'n gyrru'r genedl fach hon i feddwl yn ddwys am y ffordd rydym am ymateb, sut rydym am addasu, a sut rydym am liniaru.

Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gyda Gweinidogion yn casglu amrywiaeth o dasgluoedd ynghyd o dan arweiniad arbenigwyr i arwain ar archwiliadau dwfn o goed a phren, ynni adnewyddadwy a bioamrywiaeth. Mae'r arfau a ddiffinnir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) hefyd yn annog pob rhan o’r sector cyhoeddus i gydweithio i fynd i’r afael â’r argyfyngau.


Ac rydym eisoes yn gweld cynnydd. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi lleihau, ac mae Cymru wedi cyflawni ei chyllideb garbon gyntaf (2016–2020) gyda gostyngiad o 28% mewn allyriadau.

Mae ystod eang o fentrau mewn cymunedau neu ar safleoedd penodol hefyd yn agos at gael eu cyflawni.

Rydym wedi bod yn cynyddu'n hymdrechion i gloi carbon yn ein mawndiroedd, adfer a gwella cynefinoedd ar gyfer ein rhywogaethau brodorol, a’r rhywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf, drwy’r cynlluniau Natur am Byth a Rhwydweithiau Natur, a mabwysiadu dull ar raddfa dalgylch i adfer ein hafonydd.

Mae pa mor llwyddiannus fyddwn ni yn y dyfodol yn dibynnu nid yn unig ar sut byddwn ni’n arwain y ffordd, ond pa mor dda fyddwn ni, a phobl Cymru, yn cydweithio i wireddu ein huchelgeisiau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Bydd gweithio mewn partneriaeth nid yn unig o fudd i’n hamgylchedd, ond gallai hefyd greu swyddi a sgiliau gwyrdd, sicrhau ein cyflenwadau bwyd a dŵr, a chefnogi iechyd y cyhoedd. Gall hefyd wella llesiant a chydnerthedd cymunedau, lleihau’r risg y bydd yr anghydraddoldeb ac allgau cymdeithasol presennol yn parhau, a sbarduno economi Cymru i ddod yn economi werdd a chyfiawn. 

natur a ni launch children


Er mwyn cyflawni hyn oll, mae angen inni wrando ar amrywiaeth o leisiau, gan wybod bod gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol, sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn byw ac yn gweithio ynddynt, yn arwain at ddeilliannau gwell i bawb.

Mae hyn eisoes wedi dechrau drwy ein hymgyrch Natur a Ni, wrth inni gynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am ddyfodol ein hamgylchedd naturiol.

Bydd rhai o’r sgyrsiau sydd i ddod yn rhai anodd, ond y bwriad yw datblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y flwyddyn 2050 ac ystyried y newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i’n harwain at 2030 a 2050, fel unigolion ac fel gwlad, er budd cenedlaethau heddiw, a chenedlaethau’r dyfodol.

Nododd cam cyntaf y sgwrs mai newid hinsawdd, dirywiad neu ddifodiant anifeiliaid a phlanhigion, a llygredd afonydd, llynnoedd a dŵr daear oedd tri o’r pryderon mwyaf.

Mae pobl hefyd yn cydnabod bod angen newid eu ffordd o fyw er mwyn lleihau'r effeithiau ar fyd natur, ynghyd â'r angen i feithrin perthynas pobl â byd natur, gan sicrhau ein bod hefyd yn achub ar y cyfleon hyn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Mae popeth rydym wedi'i ddysgu o'r sgwrs hon wedi ein helpu i lunio ein cynllun corfforaethol ac wedi llywio sut y byddwn yn cyflawni ein gwaith dros weddill y ddegawd dyngedfennol hon.

Yr her inni nawr yw defnyddio ein grym cyfunol, a’n sgiliau arloesi, a throi hynny’n weithredu ar lawr gwlad.

Y gwahaniaeth y gallwn ei wneud

Rydym yn gweithio dros bobl Cymru, a'n dyletswydd yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae’r egwyddorion arweiniol hyn yn sail i bopeth a wnawn, gan gynnwys sut rydym yn defnyddio ein cysylltiadau ac yn dod â phobl ynghyd i greu a chyflawni canlyniadau ar y cyd er budd byd natur.

Ein hegwyddorion sy’n llywio sut mae ein cydweithwyr yn addasu ac yn ymateb i anghenion amrywiol ein cymunedau a’r amgylchedd, gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar leoedd, a’r egwyddor datblygu cynaliadwy, wrth i’n gwaith gyfrannu at y saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae cariad ac angerdd dros fyd natur, ynghyd â gwybodaeth fanwl ac arbenigedd, a balchder ac angerdd i gefnogi cymunedau ledled Cymru i weithredu, yn agweddau rydym yn eu rhannu â llawer o sefydliadau ac unigolion eraill.


Rhannwn hefyd falchder dros gefnogi’r iaith Gymraeg, gyda’r ddealltwriaeth ei bod yn ein diffinio ni fel pobl ac fel cenedl, ac yn ein cysylltu â’n hadnoddau naturiol a’n cymunedau.

Mae’r balchder hwn, a’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn ein gwaith, wedi bod yn bwysig wrth ddatblygu’r cynllun corfforaethol hwn – gan sicrhau bod ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd wedi’u llunio mewn ffordd sy’n ystyrlon ac yn cael argraff yn y ddwy iaith.

Mae’r cynllun corfforaethol hwn wedi’i lunio gyda’n cydweithwyr mewn golwg, gan adeiladu ar ein profiad a’n dysgu dros y ddegawd ddiwethaf a chan nodi ein blaenoriaethau hyd at 2030.

Rydym wedi canolbwyntio ar y mannau y gallwn ni wneud gwahaniaeth ynddynt a lle rydym yn y sefyllfa orau i wneud hynny, gan ddefnyddio'n harfau, ein pwerau, a’n hadnoddau i ysgogi gweithredu i gyflawni targedau 2030, wrth weithio gydag eraill ar yr un pryd i ddefnyddio eu grymoedd nhw i wneud gwahaniaeth.

Y tu hwnt i 2030, bydd cymdeithas yn wynebu dewisiadau anoddach o ran sut y gall Cymru wireddu ymrwymiadau 2050 ar gyfer yr hinsawdd a byd natur. Rydym yn dechrau ar y gwaith hwnnw nawr – yn nodi, profi a gwneud yr achos dros newid er mwyn ein gosod ar y llwybr cywir, ar y cyd.

Mae ein hamcanion llesiant yn mynd â ni at 2030 ac yn cwmpasu’r hyn y byddwn ni’n gallu ei gyflawni ein hunain, ond hefyd sut y byddwn yn gweithio gydag eraill i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y targedau rhyngwladol sy’n prysur agosáu.

Ein gweledigaeth

Byd natur a phobl yn ffynnu gyda'n gilydd.

Ein cenhadaeth

Gweithredu ar y cyd, ac yn angerddol, er mwyn:

  • adfer byd natur
  • gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • atal llygredd hyd yr eithaf

a hynny drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ein gwerthoedd

Mae’n fraint inni wasanaethu pobl Cymru drwy fyw ein gwerthoedd:

  • Perthyn: rydym ni’n gwerthfawrogi ein perthynas ddofn â’n cynefin, a thir a dŵr, a natur a chymunedau Cymru, ac rydym ni’n creu partneriaethau ystyrlon
  • Beiddgar: rydym ni’n hyderus o ran defnyddio ein llais, yn gweithredu i wneud gwahaniaeth, ac yn arwain drwy osod esiampl
  • Ystyriol: rydym ni’n gwrando er mwyn deall ac yn gofalu am ein gilydd, y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, a’r cynefinoedd sy’n ein cynnal
  • Dyfeisgar: rydym ni’n archwilio ffyrdd newydd o wneud pethau, yn arloesi i gyflymu newid, ac yn defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol.

Mae'r gwerthoedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol, yn ogystal â'n dyheadau ar gyfer y dyfodol. Maent yn hanfodol i gyflawni ein gweledigaeth a’n cenhadaeth yn llwyddiannus. Bydd y gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn i gyflawni'r cynllun corfforaethol hwn; byddant yn rhan o’n brand, yn rhan o’r ffordd y byddwn yn adrodd straeon, yn rhan o’n dysgu a'n datblygu, ein harweinyddiaeth a'n rheolaeth. Bydd ein sgyrsiau a’n hymddygiadau gwaith yn seiliedig ar y gwerthoedd hyn.

Teithio gyda’n gilydd

Mae pob taith yn mynd i rywle. Mae ein taith ni at ddyfodol lle mae byd natur a phobl yn ffynnu - gyda'n gilydd. Pen ein taith sy'n ein tywys, a'n gwerthoedd yw'r cwmpawd sy'n ein cadw ar y trywydd cywir. Ein gwerthoedd sy’n llunio sut rydyn ni'n gweithio, sut rydyn ni'n gwneud penderfyniadau, a sut rydyn ni'n cefnogi ein gilydd i fod mor effeithiol ag y gallwn ni fod. Ein gwerthoedd sy'n ein hatgoffa pam rydyn ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud - dros Gymru, dros ein hamgylchedd, a thros ein cymunedau.

Mae'r daith hon wedi'i gwreiddio'n gadarn yn ymrwymiad Cymru i ddatblygu cynaliadwy. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn rhoi cyfrifoldeb ar y cyd ar gyrff cyhoeddus i wella llesiant Cymru nawr, ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Er mwyn ymgorffori'r gwerthoedd hyn a gweithredu’r ffyrdd o weithio, rydym wedi cymryd amser i wrando a dysgu. Drwy ein Grŵp Ymgysylltu â Chydweithwyr a thimau ar draws y sefydliad, mae'r cryfderau sy'n ein diffinio ar ein gorau wedi dod i’r amlwg.

Gyda Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy - sef sylfaen ein diben statudol - yn sail iddynt, a chydag Amcanion Datblygu Mewnol y Cenhedloedd Unedig yn eu llywio, mae'r cryfderau hyn yn adlewyrchu'r galluoedd a'r rhinweddau dynol sydd eu hangen i gyflawni datblygiad cynaliadwy yn ymarferol - megis empathi, creadigrwydd, uniondeb a chydweithredu. 

Gyda'i gilydd, maent yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell - meddwl yn y tymor hir, pennu manteision niferus, a chydbwyso canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Mae’r cryfderau hyn eisoes yn rhan o'n taith ddysgu, gan gefnogi ein twf a’n helpu i weithio'n well yn unigol, a chyda'n gilydd.


Trwy roi cynnig ar wahanol ddulliau, myfyrio ar yr hyn sy'n digwydd a dysgu gyda'n gilydd, gallwn newid arferion, cryfhau perthnasoedd ac, yn raddol, ail-lunio ein diwylliant sefydliadol. Mae'r broses ddysgu barhaus hon yn dyfnhau ein gallu i gymhwyso'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: cryfhau cydweithredu â phartneriaid a chymunedau, integreiddio tystiolaeth a safbwyntiau, cynnwys eraill yn ystyrlon wrth wneud penderfyniadau, ac atal niwed yn y dyfodol drwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol yn hytrach na symptomau. Yn y modd hwn, mae datblygu cynaliadwy yn dod yn rhywbeth rydym yn ei wneud, nid dim ond rhywbeth rydym yn anelu ato.

Ond taith yw hon - llwybr rydyn ni'n ei gerdded bob dydd. Mae ein gweledigaeth a'n gwerthoedd yn rhoi eglurder ac yn sicrhau sefydlogrwydd - hyd yn oed wrth i'r cyd-destun o'n cwmpas newid. Ond bydd ein cryfderau'n parhau i esblygu wrth i ni addasu, dysgu ac ymateb i newid. Drwy feithrin y sgiliau, y dulliau a'r feddylfryd gywir, gallwn wynebu ansicrwydd yn hyderus, gweithredu'n hyblyg ac arwain newid cadarnhaol - er lles byd natur, o ran yr hinsawdd, i leihau llygredd, ac er bydd pobl Cymru.

Ein hamcanion llesiant hyd at 2030

Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd:

  • byd natur wrthi’n gwella
  • cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd
  • llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Drwy ganolbwyntio ar y tri amcan llesiant gyda'i gilydd, byddwn yn diogelu a gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol:

  • Natur yw carreg sylfaen llesiant Cymru – mae’n cefnogi cydlyniant a chydnerthedd cymunedol, economïau lleol cryf, cyflogaeth, dysgu, ac iechyd meddwl a chorfforol.
  • Natur yw sail cymunedau gwledig sy’n ffynnu – gyda pherthynas rhwng natur ac amaethyddiaeth gynaliadwy, coetiroedd, a’r bobl sy’n rheoli’r tir. Rhaid meithrin y berthynas hon er mwyn i Gymru gynnal dŵr glân, pridd cynhyrchiol, cyflenwad bwyd a ffeibr.
  • Heb natur, nid oes gennym unrhyw amddiffyniad rhag effeithiau’r hinsawdd. Mae byd natur sy’n ffynnu yn storio carbon ac yn lleihau’r risgiau ac effeithiau a ddaw yn sgil byd sy'n cynhesu. Mae llawer o gamau gweithredu i gefnogi adferiad byd natur hefyd yn darparu atebion a fydd yn ein helpu i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, ac addasu iddynt.
  • Mae atal llygredd a gwastraff hyd yr eithaf o fudd uniongyrchol i iechyd a gwytnwch natur a phobl. Gall hefyd fod o fudd i ddiwydiant a busnes, gan eu helpu i ddod yn fwy cyfrifol, gwella eu heffeithlonrwydd, a helpu i leihau costau a gwarchod swyddi a bywoliaethau.

Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym, drwy dargedu gweithredu ar y tri amcan llesiant hyn, y daw cyfleoedd a buddion ehangach ar gyfer y canlynol:

  • llesiant meddyliol a chorfforol
  • dysgu gydol oes a chreadigrwydd
  • creu swyddi a datblygu sgiliau

Yn eu tro, bydd y rhain hefyd yn cyfrannu at y saith nod llesiant ar gyfer Cymru rydym wedi’u hamlinellu yn ein datganiad llesiant.

Mae cymdeithas iach, hapus a chyfoethog yn un sy’n fwy tebygol o ofalu am natur a chymryd camau cadarnhaol ar gyfer ei dyfodol. Credwn y bydd helpu pobl i fyw bywydau gwell hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael â’n hamcanion llesiant.

Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.

Ar draws ein timau, byddwn yn cydweithio â chynrychiolwyr y sector a thrwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) i wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn, gan sefydlu partneriaethau ystyrlon i ysgogi’r newid mawr sydd ei angen.

I gyflawni ein gweledigaeth, sef ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd’, mae angen i ni rymuso ein pobl ac esblygu sut rydym yn gweithio ar draws pob rhan o'r sefydliad. Rydym wedi ein huno gan un gwirionedd syml: mae Cymru’n bwysig inni, ac rydym am ofalu amdani - ei hamgylchedd, ei chymunedau, a'i dyfodol. Rydym am ofalu am ein sefydliad hefyd - mae yntau hefyd yn bwysig inni. Rydym am fod yn sefydliad rydym yn falch o berthyn iddo, gyda phartneriaid a chwsmeriaid yn gytûn: ein bod yn effeithiol, yn gydweithredol, yn deg, a’i bod yn hawdd gweithio gyda ni. Sefydliad sy’n gwerthfawrogi a chefnogi cydweithwyr i wneud eu gwaith gorau - a bod hynny i’w deimlo ymysg ein pobl.

Dyma pam rydym wedi datblygu pedwerydd amcan llesiant – ‘Sut rydym yn gweithio er budd byd natur a phobl’. Er mwyn rhoi ein huchelgeisiau ar gyfer byd natur, o ran yr hinsawdd ac i leihau llygredd ar waith, mae angen i'r sefydliad gryfhau ei ddiwylliant - diwylliant sydd wedi'i wreiddio yn ein gwerthoedd - datblygu ein gallu, cryfhau cymhelliant, a symleiddio’r broses o wneud penderfyniadau. Pan wnawn ni hyn yn dda, gallwn greu eglurder a ffocws ar bob lefel, gan alluogi cydweithwyr i weithredu’n ffyddiog a hyderus, ac i weithio ar frys - fel y mae'r heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau yn ei fynnu.

Mae ein hamcanion llesiant a’r camau y byddwn yn eu cymryd i’w cyflawni wedi eu datblygu ar sail ein diben sylfaenol, sef rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ynghyd â’r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy.

Ein diben fydd sail pob cam, ond byddwn hefyd yn cydnabod y gwerth, y mewnwelediad a’r mewnbwn y gall ein cymunedau a rhannau eraill o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector eu cyfrannu ar hyd y ffordd.

Yr uchelgais sy'n rhedeg drwy ein holl ymdrechion fydd sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl wrth i Gymru weithredu er budd natur a'r hinsawdd. Byddai gwaethygu neu ehangu anghydraddoldebau presennol yn ein cymunedau yn groes i'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Am oes y cynllun hwn, a thrwy weithredu i gyflawni ein diben sylfaenol, byddwn yn canolbwyntio mwy ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, ac ar degwch a chynhwysiant, gan wneud yn siŵr bod cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig a threfol ledled Cymru wrth wraidd popeth a wnawn.

Amcan Llesiant 1: Byd natur wrthi’n gwella

Mae hyn yn golygu cymryd camau brys i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a datblygu gallu ecosystemau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd gan ganiatáu i natur addasu i hynny, a pharhau i fod yn sail i fywyd yn gyffredinol – hynny yw, aer glân, dŵr glân, bwyd a hinsawdd sefydlog. Mae angen i Gymru weithredu nawr er mwyn osgoi methiant trychinebus o ran ein hecosystem.

Adferiad natur sydd wrth wraidd agenda polisi Llywodraeth Cymru. Rydym ni’n cytuno â Gweinidogion sy’n mynnu bod pob rhan o gymdeithas a'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yn gweithio ar y cyd i sbarduno gweithredu parhaus dros fyd natur.

Yn y cyfnod yn arwain at COP 15 ym Montreal ym mis Rhagfyr 2022, cynhaliwyd ‘Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth’ dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan ddatblygu cyfres o gamau gweithredu ar y cyd i ddiogelu a rheoli’n effeithiol 30% o'n tir, dŵr croyw a'r môr er budd natur erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo yn y tymor hwy i ddatblygu targedau statudol ar gyfer adfer natur.

Mae'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang, a gytunwyd ym mis Rhagfyr 2022, yn nodi pedwar nod tymor hir ar gyfer 2050 a 23 o dargedau i'w cyflawni erbyn 2030 i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030. Rydym wedi mapio’r camau sydd i’w cymryd gennym yn erbyn yr ymrwymiadau Cymreig a byd-eang hyn.

Fel corff amgylchedd Cymru, ni yw’r un llais cyfannol, unedig ar natur ac adnoddau naturiol. Ni, felly, fydd yn arwain y gweithredu drwy rannu ein gwybodaeth a'n harbenigedd, gan fanteisio ar wybodaeth a phrofiad pobl eraill, a chan arwain drwy esiampl wrth i ni reoli'r tir sydd yn ein gofal.

Byddwn ni'n manteisio i’r eithaf ar rym Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a byddwn ni’n defnyddio’n gallu i ddod â gwahanol bobl a gwahanol sefydliadau ynghyd, gan nodi cyfleoedd i weithredu, a monitro ac asesu'r effaith.

Byddwn ni'n blaenoriaethu gweithredu fel y bydd sicrwydd ynghylch adferiad natur erbyn 2030, a hynny drwy sicrhau bod:

  • byd natur yn cael ei ddiogelu
  • byd natur yn cael ei adfer
  • byd natur yn cael ei barchu a'i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
  • perthynas byd natur, pobl a chymunedau yn cael ei ailsefydlu
  • CNC yn sefydliad enghreifftiol o ran bod yn bositif am natur


Llun o adroddiad Natur Bositif 2030 a gyhoeddwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Cyfoeth Naturiol Cymru, NatureScot ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon.


Byddwn ni'n gwarchod natur drwy

  • wella cyflwr nodweddion ar safleoedd daearol, morol a dŵr croyw gwarchodedig drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • rheoli a gwarchod o leiaf 30 y cant o dir, dŵr croyw a’r môr er budd natur, a hynny drwy wella maint, cyflwr a chysylltedd safleoedd SoDdGaa a Naturfa ledled Cymru.
  • deall sut mae ecosystemau'n ymateb ac yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd drwy ddatblygu ein tystiolaeth i lywio ein dull gweithredu a nodi diwygiadau i'n dulliau rheoleiddio, a’n dulliau cyflawni;
  • meithrin cadernid ecosystemau, a chynnwys hynny yn y system gynllunio strategol ar gyfer tir a môr, gan gynnwys Cymru yn y Dyfodol a chynlluniau datblygu eraill, Polisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, drwy gryfhau ein darpariaeth o gyngor a chanllawiau;
  • dylanwadu ar y datblygiad cywir yn y lle cywir i sicrhau diogelwch a gwydnwch cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth ar draws tir a môr drwy gyflwyno'r achos dros newidiadau i gynlluniau datblygu ar raddfa leol a rhanbarthol a cheisiadau cynllunio unigol;
  • diogelu rhywogaethau sydd â'r risg fwyaf o ddifodiant drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth, a monitro i werthuso effeithiolrwydd
  • atal rhywogaethau anfrodorol ymledol, plâu a chlefydau rhag cael eu cyflwyno, a’u hatal rhag lledu, a hynny drwy weithredu wedi'i gydlynu â phartneriaid strategol;
  • lleihau'r risgiau i natur o ddigwyddiadau fel ffliw adar neu ddigwyddiadau sy'n effeithio ar safleoedd neu rywogaethau gwarchodedig, a hynny drwy baratoi ar eu cyfer ac ymateb iddynt fel ymatebwr Categori 1; a
  • atal llygredd aer a dŵr rhag effeithio ar safleoedd gwarchodedig drwy nodi a gwerthuso'r cyfranwyr allweddol, fel amonia, a gweithio gyda sectorau allweddol i weithredu.


Byddwn yn adfer natur drwy:

  • gyflymu gwelliannau i gyflwr y Rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig drwy fonitro ac ymchwilio'n drylwyr, drwy dystiolaeth, cyngor a gweithio gydag eraill ar gyflawni prosiectau;
  • datblygu cadernid safleoedd daearol, dŵr croyw a morol a ddiogelir, a hynny gan eu trawsnewid yn rwydweithiau mwy, gwell a mwy effeithiol, drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • cyflymu camau ar gyfer adferiad natur ar raddfa tirwedd drwy rannu ein tystiolaeth a'n harbenigedd gyda Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a phartneriaid eraill;
  • gwneud mwy o atebion sy'n seiliedig ar natur mewn ardaloedd trefol a gwledig i ddatblygu cysylltedd rhwng cynefinoedd, a sicrhau manteision lluosog i fyd natur a phobl drwy weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i ymgorffori hyn mewn datblygiadau; a
  • gwerthuso effeithiolrwydd yr hyn a wnawn i adfer a chysylltu natur drwy fonitro a rhannu'r data gydag eraill gan sefydlu cyfres o lwyfannau arddangos.


Byddwn ni'n sicrhau bod natur yn cael ei barchu a'i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau, drwy:

  • wneud y mwyaf o’r cyfleoedd ar gyfer adfer natur drwy wreiddio hynny yn holl bolisïau, strategaethau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau CNC;
  • prif-ffrydio adferiad natur ym mhob corff cyhoeddus drwy gydweithio i ddiffinio'r canllawiau a'r cyfleoedd i sbarduno gweithredu;
  • sicrhau manteision a chyfleoedd niferus i fyd natur, pobl a'r economi wledig drwy gefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd;
  • ysgogi gweithredu ar gyfer rheoli tir a dŵr, a chynyddu’r gwaith hwnnw’n raddol, drwy weithio ar y cyd â sectorau allweddol i ddiffinio atebion effeithiol


Byddwn yn ailsefydlu’r berthynas rhwng byd natur a phobl drwy:

  • sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa ar fynediad teg i fannau gwyrdd a glas a gweithredu'n gyfrifol drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth, gan weithio ar y cyd â phartneriaid strategol fel Croeso Cymru ac awdurdodau lleol;
  • sicrhau bod cyfiawnder, tegwch a chynhwysiant cymdeithasol ac amgylcheddol yn hysbysu ac yn ategu ein penderfyniadau ar gyfer adfer byd natur drwy adolygu mecanweithiau cyfredol a datblygu canllawiau;
  • cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, drwy weithredu ar fewnwelediadau o ran ymddygiad er mwyn llywio ein dulliau gweithredu;
  • sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu dros fyd natur drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad;
  • meithrin gallu gweithlu Cymru i gefnogi adferiad natur drwy weithio gydag eraill i hyrwyddo sgiliau a swyddi gwyrdd;
  • adfer natur ar raddfa drwy ddatblygu partneriaethau cydweithredol, gan adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd dysgu ym Mhrosiect Dalgylch Conwy Uchaf a Natur am Byth.

Byddwn ni'n sefydliad enghreifftiol o ran bod yn bositif am natur drwy:

  • ddatblygu gwytnwch safleoedd sydd o werth uchel o ran natur ar y tir sydd yn ein gofal, yn enwedig ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd gwarchodedig eraill, a chyfrannu at y targed ‘30 erbyn 30’ drwy reoli pridd, dŵr llystyfiant a phethau eraill i greu prosesau ecolegol sy’n cynnal gwerth uchel safleoedd o ran natur;
  • sicrhau bod diogelu ac adfer natur wedi'i gynnwys ym mhenderfyniadau ariannol a busnes CNC drwy weithredu'r gwersi a ddysgwyd oddi wrth eraill i sicrhau dulliau a fframweithiau effeithiol;
  • sicrhau bod adferiad byd natur yn cael ei raeadru drwy ein cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grantiau a’n cytundebau rheoli tir drwy ei gynnwys yn ein fframweithiau caffael ac ariannu;
  • sicrhau bod partneriaid yn cyflawni’n unol â’n hymagwedd masnach strategol drwy ardystio cynhyrchion a gwasanaethau masnachol fel rhai sy’n bositif am natur;
  • buddsoddi yn sgiliau a gallu ein cydweithwyr i fod yn llysgenhadon drwy ddarparu rhaglen hyfforddi ‘llythrennedd natur a hinsawdd’.

Sut y byddwn yn adfer natur yn ein cymunedau

I gefnogi adferiad natur, byddwn ni'n adeiladu ar ein rhwydwaith o bartneriaethau ledled Cymru, gan adlewyrchu  amrywiaeth cymunedau ac adnoddau naturiol Cymru.

Yn ein saith ‘lle,’ rydym wedi gwneud ymrwymiadau drwy ein hymgysylltiad gweithredol â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a thrwy gynnwys cymunedau wrth ddatblygu ein Datganiadau Ardal.  

Dysgwch fwy am sut rydym yn teilwra ein gwaith i adfer natur yn ein lleoedd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru.

Y De-ddwyrain

Yn y De-ddwyrain, bydd gweithio mewn partneriaeth yn allweddol er mwyn cyflawni'r uchelgais o atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth ar draws tirwedd ryfeddol Gwent. I gefnogi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwent Fwyaf, sy’n ymdrin â chyfnod y ddeng mlynedd, byddwn yn grymuso partneriaid i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â’r prif ffactorau y tu ôl i golli bioamrywiaeth, byddwn yn datblygu gwytnwch ecosystemau ar lefel leol ac ar raddfa fwy, a byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau a'r cynefinoedd sydd i’w cael yma.

Gan adeiladu ar ein gwaith fel rhan o'r Bartneriaeth Tirwedd Lefelau Byw, byddwn hefyd yn buddsoddi yn y berthynas rydym wedi'i meithrin â'r gymuned leol a'n partneriaid yn y maes, ac yn gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol yn y lle arbennig hwn, ac ailsefydlu perthynas pobl ag ef.

Canol y De

Ar draws ardal Canol y De byddwn yn rheoli ein coetiroedd yn gynaliadwy gan roi ystyriaeth i’n cymunedau lleol.  Mae traean o boblogaeth Cymru yn byw ger coetir trefol, sy’n lleoedd i archwilio a chysylltu â natur ac sydd â choed i amsugno sŵn a nwyon tŷ gwydr. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol i sicrhau’r budd mwyaf posibl o Ystad Goed Llywodraeth Cymru. Mewn ardaloedd fel Coetiroedd Gogledd Caerdydd, byddwn defnyddio dull ehangach o reoli’r Ystad a'n cynnig hamdden i sicrhau y gallwn wella gwytnwch ecosystemau a rheoli’r pwysau a ddaw yn sgil ymwelwyr, gan hefyd sicrhau buddion iechyd a lles niferus i gymunedau Caerdydd.

Bydd gwneud y mwyaf o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy drwy bartneriaethau hefyd yn ffocws allweddol yn y rhan hon o Gymru. Byddwn yn defnyddio ein grym i gael pobl ynghyd ac yn manteisio ar dystiolaeth ein Datganiad Ardal i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a chefnogi datblygiad Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn, megis partneriaeth tirwedd Pen-y-bont ar Ogwr, i sicrhau manteision amgylcheddol a chymdeithasol-economaidd niferus. Bydd y dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio i gysylltu, diogelu a gwella seilwaith gwyrdd ardaloedd trefol Canol y De.

Y De-orllewin

O Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig i'n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, bydd gwella cyflwr ein hardaloedd gwarchodedig i adfer byd natur yn ganolbwynt allweddol i'n timau yn y De-orllewin. Gan weithio gyda thirfeddianwyr a phartneriaid, byddwn ni'n mynd ar drywydd cyfleoedd i ddatblygu rhwydwaith ehangach o ecosystemau gwydn, gan ganolbwyntio ar laswelltiroedd lled-naturiol yn yr ardal. Bydd ein gwaith i adfer coetiroedd hynafol a'n mawndiroedd gwerthfawr ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru yn parhau, a byddwn ni'n sicrhau bod tir rydyn ni'n ei lesio i eraill yn cael ei reoli'n gyfrifol ac mewn ffordd sensitif.

Y Canolbarth

Bydd gwaith i adfer natur yng Nghanolbarth Cymru yn canolbwyntio ar feithrin  gwydnwch ecosystemau a gwella cynefinoedd ar draws safleoedd gwarchodedig a dynodedig. Gan weithio mewn partneriaeth â Glandŵr Cymru, byddwn ni'n diogelu planhigion dynodedig ac infertebratau o fewn Ardal Gadwraeth Arbennig Camlas Maldwyn. Byddwn ni hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phartneriaid eraill i adolygu cyfrifoldebau rheoli diogelwch ymwelwyr yng Ngwlad y Rhaeadrau, gan sicrhau ar yr un pryd y caiff nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol eu gwarchod.

Y Gogledd-ddwyrain

Bydd ein gwaith gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn allweddol o ran sut byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau i wella gallu cymunedau’r Gogledd-ddwyrain i oroesi’r heriau sy'n eu hwynebu. Bydd bwrdd gwasanaeth cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn gweithredu ar lefel strategol i ddylanwadu ar agendâu partneriaid ac eraill, gan ganolbwyntio ar un amcan llesiant, sef: lle mwy cyfartal, llai difreintiedig. Bydd y cynllun yn ceisio gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal drwy wella gallu cymunedau i wrthsefyll yr argyfyngau hinsawdd a natur a chostau byw cynyddol. 

Bydd cynlluniau gweithredu sydd â’r nod o sicrhau mwy o fynediad cyfartal i gefn gwlad a'r arfordir a gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn rhoi budd pellach i iechyd a lles y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Gogledd-ddwyrain. 

Ein partneriaethau llwyddiannus fydd meini sylfaen prosiectau sy'n canolbwyntio ar adfer natur, megis datblygu dalgylchoedd integredig yn Nyffryn Clwyd, lle bydd fforwm gwirfoddol a phartneriaid yn dod at ei gilydd i weithio ar reoli ucheldiroedd. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol, fel Grŵp Ymchwil a Mewnwelediad Gogledd Cymru i gynyddu dealltwriaeth o'r argyfwng natur a hinsawdd drwy ymgysylltu ar y cyd a rhannu gwybodaeth ac ymchwil i lywio ein penderfyniadau a gwella ein ffyrdd o weithio.

Y Gogledd-orllewin

Yn y Gogledd-orllewin, byddwn yn parhau â'n dull aml-thema - sef 'Llifo' - o ddatblygu prosiectau ym Môn a Dyffryn Conwy, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n gyffredin rhwng amcanion llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, blaenoriaethau’r dalgylch a Datganiad Ardal y Gogledd Orllewin.

Byddwn ni'n adeiladu ar y cyfleoedd y mae'r dull hwn yn eu cynnig i'n galluogi i gydweithio'n fwy effeithiol, i feddwl yn arloesol, i wneud pethau'n wahanol, ac i ysgogi newid.

Byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r hyn y mae gwytnwch ecosystemau yn wyneb yr argyfwng natur yn ei olygu i'r ardal mewn gwirionedd, gan ddefnyddio'r mapiau cynefinoedd rydyn ni wedi eu datblygu fel sylfaen ar gyfer ymgysylltu â'n partneriaid wrth i ni geisio parhau â'n gwaith o adfer ecosystemau yn y Gogledd-orllewin. Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn cychwyn prosiectau aml-bartner ar draws yr ardal, gan ganolbwyntio ar leoliadau a fydd yn ategu ein dyheadau i gefnogi adferiad natur, tra hefyd yn cyflawni blaenoriaethau ein partneriaid, themâu ein Datganiad Ardal a blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Y Môr

Drwy ein haelodaeth o Bartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru (CaSP Cymru), byddwn yn gweithio gydag ystod o bartneriaid ar y blaenoriaethau sydd gennym yn gyffredin i wella gallu moroedd Cymru i wrthsefyll yr argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys gwella dealltwriaeth pobl o sut mae gweithredu ar y cyd ac yn unigol yn effeithio ar iechyd y môr, a sut mae iechyd y môr yn effeithio ar ein bywydau ni drwy weithredu’r Strategaeth Llythrennedd Morol.

Byddwn ni'n gweithio ochr yn ochr â'n cymunedau arfordirol i feithrin y gallu i fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur, a byddwn yn archwilio dulliau arloesol o gyllido a all gefnogi adferiad natur a datblygu gallu ein moroedd a'n harfordiroedd i wrthsefyll yr argyfyngau.

Byddwn ni'n adeiladu ar ein gwaith i wella cyflwr y rhwydwaith Ardal Forol Warchodedig yng Nghymru, sy'n cefnogi cynefinoedd a bywyd gwyllt sydd ymhlith y mwyaf amrywiol yn Ewrop.  Er mwyn lleihau pwysau'r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr ardaloedd hyn, byddwn yn darparu rhaglen amrywiol o weithgaredd gan gynnwys gwaith i ddod o hyd i gychod segur, a chael gwared arnynt. Byddwn ni hefyd yn ceisio deall yn well pam fod rhai cynefinoedd arfordirol allweddol, megis banciau tywod, mewn cyflwr gwael. Bydd gwneud hynny'n ein galluogi i roi cynlluniau ar waith i reoli'r gwaith o adfer y nodweddion pwysig hyn. Byddwn ni hefyd yn datblygu cynlluniau bioddiogelwch cadarn ar gyfer safleoedd morol a fydd yn helpu i atal rhywogaethau anfrodorol ymledol o amgylch ein harfordiroedd rhag lledaenu ac yn cyflawni gwaith adfer morfeydd heli yng Nglanfa Rhymni yng Nghaerdydd.

Amcan llesiant 2: Cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

Mae hyn yn golygu cymryd camau brys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyflymu camau i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan leihau’r risgiau a’r effeithiau i bob sector o’r economi a chyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon-niwtral erbyn 2030 a Chymru sero net erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio’r cyfeiriad strategol yn Cymru Sero Net hyd at 2025, gan nodi sut y byddwn yn lleihau allyriadau fel gwlad, gyda 120 o bolisïau a chynigion wedi’u nodi ar draws pob portffolio gweinidogol a phob sector.

Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y datganiad terfynol ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf, gan gynnwys cyfres o gant o ddangosyddion sy'n benodol i Gymru ar gyfer monitro, adrodd a dilysu'r gyllideb garbon, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud â chylch gwaith CNC. Mae cynllun addasu cenedlaethol Cymru yn nodi’r risgiau a’r camau gweithredu sydd â blaenoriaeth ar gyfer rheoli effeithiau newid yn yr hinsawdd, gyda chynllun newydd yn cynnwys dangosyddion i ddod yn 2024. Gyda’i gilydd, mae’r rhain yn rhoi eglurder gwirioneddol i bob rhan o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ar y camau gweithredu sydd eu hangen.

Mae natur sy'n ffynnu yn storio carbon ac yn amddiffyniad rhag effeithiau byd sy'n cynhesu. Mae gweithredu i gefnogi adferiad byd natur yn cryfhau ein hymateb ar y cyd i’r newid yn yr hinsawdd.

Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu er mwyn sicrhau, erbyn 2030, bod cymunedau’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, a hynny fel a ganlyn:

  • mabwysiadu atebion sy'n seiliedig ar natur yn eang
  • rheoli risgiau newid hinsawdd, ac addasu iddynt
  • lleihau allyriadau
  • pobl, cymunedau a busnesau’n gweithredu’n barhaus ar y newid yn yr hinsawdd
  • CNC yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer creu sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru.


Byddwn yn cynyddu graddfa’r gwaith a wneir i gyflawni atebion sy’n seiliedig ar natur drwy:

  • adfer mawndiroedd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd gan weithio gyda phartneriaid cyflawni, gan gynnwys ar y tir yn ein gofal, a defnyddio ystod o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • creu coetiroedd newydd ac adfer coetiroedd hynafol drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio amrywiaeth o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • creu coetiroedd newydd ac adfer coetiroedd hynafol ar y tir yn ein gofal, gan gaffael tir i greu coetir dim ond i wneud iawn am goetir sydd wedi’i drosi’n barhaol at ddefnydd arall; hefyd, yn raddol, newid y coed sy’n cael eu plannu ar safleoedd coetir hynafol i rywogaethau sy’n adlewyrchiad gwell o werth cadwraeth natur a gwerth diwylliant y safle;
  • ysgogi adferiad cynefinoedd morol ac arfordirol, fel morfa heli, twyni tywod, morwellt a chreigresi wystrys brodorol, a hynny drwy weithio gyda phartneriaid cyflawni, defnyddio ystod o ddulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a gwneud gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • cynnal, gwella ac adfer cynefinoedd ar y tir a chynefinoedd dŵr croyw i ddatblygu gwytnwch ecosystemau a sicrhau buddion cymdeithasol drwy ddefnyddio ein dulliau cynghori a rheoleiddio, cymhellion ariannol a chynnal gwaith monitro i werthuso effeithiolrwydd;
  • lliniaru effeithiau llifogydd a sychder a gwella ansawdd dŵr drwy nodi cyfleoedd ar gyfer rheoli tir a dŵr yn integredig ar raddfa dalgylch;
  • gwella cydnerthedd cymunedau trefol a gwledig a’u cysylltiad â byd natur drwy gryfhau dyluniad a hygyrchedd seilwaith gwyrdd a glas trefol, gan weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i gynnwys hynny mewn datblygiadau.


Byddwn yn addasu i risgiau ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd drwy:

  • feithrin cadernid ecosystemau, a chynnwys hynny yn y system gynllunio strategol ar gyfer tir a môr, gan gynnwys Cymru yn y Dyfodol a chynlluniau datblygu eraill, Polisi Cynllunio Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, drwy gryfhau ein darpariaeth o gyngor a chanllawiau;
  • sicrhau bod pob datblygiad yn y dyfodol yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy ddadlau o blaid newidiadau i gynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol a chynghori ar geisiadau cynllunio;
  • lleihau’r perygl i fywyd yn sgil lifogydd drwy reoli ein hasedau llifogydd a’n seilwaith ar gyfer perygl llifogydd nawr ac yn y dyfodol, a chynllunio ar gyfer newid drwy gynnal ac addasu’r asedau a’r seilwaith llifogydd rydym yn atebol amdanynt;
  • lleihau’r perygl i bobl a chymunedau yn sgil llifogydd o’r prif afonydd, cronfeydd dŵr, a’r môr, a hynny drwy gyflwyno cynlluniau lliniaru llifogydd;
  • lleihau'r perygl i fywyd yn sgil llifogydd drwy gyhoeddi rhybuddion llifogydd sy'n diwallu anghenion newidiol cymunedau, a chynnal a gwella'r Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd 24/7;
  • lleihau'r risgiau i bobl a natur yn sgil llifogydd a sychder drwy baratoi ar gyfer digwyddiadau, ac ymateb iddynt fel ymatebwr Categori 1;
  • meithrin gallu cymunedau, awdurdodau lleol a busnesau i wrthsefyll y risg o lifogydd nawr ac yn y dyfodol drwy wella a rhannu ein tystiolaeth i ysgogi gweithredu;
  • lleihau'r risg i fywyd yn sgil methiant cronfeydd dŵr drwy reoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr;
  • sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cynnal diogelwch a sicrwydd cyflenwad dŵr i gwsmeriaid drwy graffu ac adrodd i Weinidogion ar eu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr, cynlluniau sychder a chynlluniau buddsoddi mewn seilwaith;
  • lleihau’r risgiau i’r adnoddau naturiol sydd ar y tir sydd yn ein gofal yn sgil sychder, afiechyd a phlâu, tanau gwyllt a difrod stormydd drwy amrywio rhywogaethau coed, ailstrwythuro coetiroedd a chynefinoedd eraill, a mwy o deneuo coed;
  • lleihau’r risgiau i’r asedau rydym yn eu rheoli ar y tir yn ein gofal megis tomennydd gwastraff, cronfeydd dŵr, ceuffosydd mawr a phontydd drwy gynnal a chadw ac uwchraddio’r seilwaith;
  • sicrhau gwytnwch cyfleusterau a gweithgareddau a reoleiddir drwy ddarparu tystiolaeth a chyngor fel sail i asesiadau o risgiau, effeithiau a chamau addasu mewn perthynas â’r hinsawdd.


Byddwn yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon drwy:

  • ysgogi diwydiant i fabwysiadu technoleg amgen, hynny yw technoleg carbon isel a thechnoleg dal carbon, a hynny drwy ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol i lywio ceisiadau am ganiatâd cynllunio a/neu drwyddedau;
  • cryfhau safonau allyriadau drwy ddadlau o blaid newid a darparu tystiolaeth yn unol â hynny i Lywodraeth Cymru;
  • ysgogi datblygiad cynlluniau ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y tir sydd yn ein gofal drwy weithredu ein dull masnach strategol; 
  • cefnogi datblygiad ynni adnewyddadwy cynaliadwy ar y môr ac ar y tir drwy ein tystiolaeth, ein cyngor a’n rheoliadau, gan feithrin dealltwriaeth gyffredin o’r safonau sy’n ofynnol yn y prosesau cynllunio a thrwyddedu statudol;
  • sicrhau potensial cynhyrchu pren Ystad Goed Llywodraeth Cymru drwy ddarparu pren y gellir ei gynaeafu, gan fodloni safonau byd-eang o ran rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy;
  • diogelu stociau carbon a gwneud y mwyaf o gyfleoedd atafaelu carbon drwy reoli'r tir yn ein gofal yn gynaliadwy;
  • ysgogi gweithredu ar reoli tir a dŵr yn garbon-niwtral, drwy weithio ar y cyd â sectorau allweddol i ddiffinio atebion effeithiol;


Byddwn yn galluogi pobl, cymunedau a busnesau i weithredu’n barhaus ar y newid yn yr hinsawdd, drwy:

  • sicrhau bod cyfiawnder, tegwch a chynhwysiant cymdeithasol ac amgylcheddol yn hysbysu ac yn ategu ein penderfyniadau o ran y newid yn yr hinsawdd drwy adolygu mecanweithiau cyfredol a datblygu canllawiau;
  • cynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, drwy weithredu ar fewnwelediadau o ran ymddygiad er mwyn llywio ein dulliau gweithredu;
  • sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu o ran yr hinsawdd drwy rannu gweledigaeth a chanlyniadau Natur a Ni i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad;
  • meithrin gallu gweithlu Cymru i gefnogi gweithredu o ran yr hinsawdd drwy weithio gydag eraill i hyrwyddo sgiliau a swyddi gwyrdd;

Byddwn yn sefydliad enghreifftiol ar gyfer sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru drwy:

  • gryfhau ein hymagwedd strategol at ddatgarboneiddio drwy ddatblygu a chyflawni cynllun sero net ar gyfer y sefydliad cyfan, gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd gan bartneriaid;
  • newid ein ffyrdd o weithio drwy gwblhau asesiadau risg a bregusrwydd o ran y newid yn yr hinsawdd i lywio cynllun gweithredu integredig ar gyfer addasu, gan rannu ein dysgu ag eraill;
  • sicrhau bod penderfyniadau ariannol a busnes CNC yn cynnwys y newid yn yr hinsawdd drwy weithredu’r gwersi a ddysgwyd gan eraill ar lywodraethu, dulliau a fframweithiau effeithiol;
  • cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni adnewyddadwy yn ein holl adeiladau ac asedau, drwy adolygu systemau cyfredol a chymryd camau;
  • lleihau ein hôl troed carbon drwy fonitro ein defnydd a chymryd camau wrth i ni drosglwyddo i fodel gweithio hybrid;
  • lleihau allyriadau cerbydau drwy ddefnyddio cerbydau sydd ag allyriadau isel iawn lle bynnag y bo modd, a defnyddio biodiesel a mesurau effeithlonrwydd tanwydd yn y cyfamser;
  • buddsoddi yn sgiliau a gallu ein cydweithwyr i fod yn llysgenhadon drwy ddarparu rhaglen hyfforddi ‘llythrennedd natur a hinsawdd’.
  • sicrhau bod adferiad byd natur yn cael ei raeadru drwy ein cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grantiau a’n cytundebau rheoli tir drwy ei gynnwys yn ein fframweithiau caffael ac ariannu;

Sut y byddwn yn sicrhau y gall natur a chymunedau wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd

I gefnogi gallu cymunedau i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd, byddwn ni'n adeiladu ar ein rhwydwaith o bartneriaethau ledled Cymru, gan adlewyrchu  amrywiaeth cymunedau ac adnoddau naturiol Cymru.

Yn ein saith ‘lle,’ rydym wedi gwneud ymrwymiadau drwy ein hymgysylltiad gweithredol â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a thrwy gynnwys cymunedau wrth ddatblygu ein Datganiadau Ardal.  

Dysgwch fwy am sut rydym yn teilwra ein gwaith i adfer natur yn ein lleoedd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru.

Y De-ddwyrain

Yn y De-ddwyrain, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y gall rhwydwaith yr ardal o fannau gwyrdd a glas agored ei chwarae o ran gwella lles ac ansawdd bywyd pobl. Fel partner ym mhartneriaeth ranbarthol Grid Gwyrdd Gwent, byddwn yn datblygu Strategaeth Seilwaith Gwyrdd ar gyfer yr ardal, gan roi’r mecanweithiau ar waith i ddarparu rhwydwaith rhanbarthol sy’n cynnwys y nodweddion naturiol a lled-naturiol a’r mannau gwyrdd a glas sy’n cysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd Gwent. Yr uchelgais fydd darparu mwy o swyddi gwyrdd, datblygu sgiliau a sicrhau cyfleoedd gwirfoddoli o fewn y rhanbarth. Bydd hefyd yn ysgogi cydlyniant cymunedol a fydd yn dod â buddion i natur a phobl fel ei gilydd ac yn helpu i fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Coed Cadw ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, i adfer safleoedd coetir hynafol yn Nyffryn Gwy a darparu atebion sy’n seiliedig ar natur a fydd yn cynyddu gallu ein coedwigoedd i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a sicrhau buddion iechyd a lles i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y gymuned.

Canol y De

Mae’r dyffrynnoedd serth a’r lleoliadau trefol sy’n rhan o dirwedd Canol y De yn golygu bod yr ardal hon yn agored i lifogydd dŵr wyneb ac afonydd, a llygredd cysylltiedig. Wrth ystyried effeithiau cynyddol gyflym y newid yn yr hinsawdd, byddwn yn cyflwyno Prif Gynllun Strategol Llifogydd ar gyfer Afon Taf, gan ddefnyddio dull dalgylch cyfan o reoli perygl llifogydd yn yr ardal hon. Fel yr awdurdod rheoli perygl llifogydd arweiniol ar gyfer yr ardal ddaearyddol hon, byddwn yn arwain ac yn cydweithio ag awdurdodau eraill i sicrhau bod risgiau llifogydd aml-ffynhonnell, a sut rydym yn rheoli’r risgiau hynny, yn cael eu hystyried ar bob cam, a’n bod yn achub ar bob cyfle i fanteisio i’r eithaf ar fuddion a manteision ychwanegol i natur a chymunedau yn yr ardal hon drwy ddatblygu gweledigaeth gyffredin.

Byddwn hefyd yn gweithio ar draws cymunedau yng Nghanol y De i ddatblygu tirweddau mwy cynaliadwy a chynyddu eu gallu i wrthsefyll effeithiau llifogydd, tanau gwyllt a llygredd a sicrhau bod gan bobl aer glân i'w anadlu, dyfroedd glân i nofio ynddynt a mynediad cyfartal i fannau gwyrdd.

Y De-orllewin

Mae tirweddau amrywiol y De-orllewin yn cynnwys tiroedd fferm ac ucheldiroedd garw, arfordiroedd helaeth a chymoedd diwydiannol sydd i gyd yn dod â chyfleoedd, risgiau a blaenoriaethau y byddwn yn mynd i'r afael â nhw i ddatblygu gwytnwch natur a chymunedau yn yr ardal hon.

Yn gartref i rai o’r allyrwyr CO2mwyafyng Nghymru, byddwn yn gweithio gyda diwydiant a reoleiddir yn y De-orllewin i’w helpu i leihau eu hallyriadau a chwarae eu rhan i helpu Cymru i gyflawni ei huchelgais, sef trawsnewid i economi carbon-isel.

Byddwn hefyd yn ceisio harneisio ymhellach botensial Cymru i ddarparu mwy o ynni gwyrdd drwy ddatgloi potensial Ystad Goed Llywodraeth Cymru i hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys y datblygiadau fferm wynt arfaethedig yng Nghoedwig Bryn a Margam a mynediad trydydd parti i ddatblygiadau ar dir cyfagos. Byddwn hefyd yn gweithio yn unol â rhaglen Datblygwyr Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru i nodi safleoedd fydd yn addas yn y dyfodol ar gyfer helpu i gyflawni’r targedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, sef 250MW erbyn 2030.

Y Canolbarth

Bydd ein gwaith i wella gallu cymunedau a natur yn y Canolbarth i wrthsefyll effeithiau y newid yn yr hinsawdd yn canolbwyntio ar gryfder ein partneriaethau yn yr ardal. Gan ddefnyddio dull ar raddfa fwy, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’n partneriaid fel rhan o brosiect Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog dan arweiniad Dŵr Cymru i archwilio ffyrdd newydd o weithio i ddatblygu cyfleoedd i liniaru llifogydd. 

Byddwn hefyd yn manteisio ar ein rôl fel partneriaid ym myrddau gwasanaethau cyhoeddus Powys a Cheredigion i gydweithio i gyflawni Cynlluniau Llesiant 2023-28, gan rannu’r cyfrifoldeb o arwain ar roi prosiectau datgarboneiddio ar waith yng Ngheredigion a mabwysiadu ymagwedd tuag addasu i’r newid yn yr hinsawdd sy’n canolbwyntio ar le.

Y Gogledd-orllewin

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid strategol ar draws y Gogledd-orllewin a’r Gogledd-ddwyrain drwy Fwrdd Arweinyddiaeth Ranbarthol Gogledd Cymru a grŵp y Prif Swyddogion Gweithredol, lle mae datgarboneiddio yn un o’n meysydd trafod â blaenoriaeth. Rydym eisoes yn cael sgyrsiau pwysig am sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion anodd sy’n ein hwynebu, a lle gallai fod angen newidiadau yn ein hymagwedd i feddwl yn wahanol ac yn fwy creadigol i gwrdd â gofynion yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac i sicrhau bod gan y Gogledd ddyfodol cadarn. 

Bydd rheoli’r tirweddau arbennig yn Niwbwrch ar Ynys Môn yn sensitif yn ffocws allweddol i’n timau yn y Gogledd-orllewin.  Mae lleoliad Niwbwrch yn ei wneud yn fwy agored i effeithiau y newid yn yr hinsawdd ar ein harfordir. Gan gydnabod y gwerth y mae cymunedau lleol yn ei roi ar yr ardal hon, byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i gynllunio ein gwaith o amgylch bioamrywiaeth a choedwigaeth.

Trwy ein gwaith gyda Chyngor Ynys Môn, byddwn yn rhoi’r ardal hon wrth galon cynlluniau a fydd yn gwneud yr ardal yn fwy gwydn wrth i’r hinsawdd newid. Bydd y gwaith hwn ar lefel leol yn helpu i lywio’r dull rhanbarthol ehangach o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, sy’n cael sylw ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru.

Y Gogledd-ddwyrain

Bydd ein gwaith gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn allweddol i’r ffordd rydym yn cyflawni ein huchelgais i wella gallu natur a chymunedau yn y Gogledd-ddwyrain i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Byddwn hefyd yn ymrwymo i ddatblygu amrywiaeth o brosiectau partneriaeth yn yr ardal hon, gan gynnwys creu cynllun gwytnwch lefel gymunedol ym Mhengwern ger Llangollen, arwain y weledigaeth ar gyfer Partneriaethau Coedwigoedd Wrecsam, datblygu rheolaeth dalgylch integredig yn Nyffryn Clwyd, a chefnogi mentrau sy'n cysylltu pobl â byd natur drwy Bresgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd a Siarter Teithio Iach Gogledd Cymru. 

Y Môr

Bydd ein timau Morol yn gweithio gyda phartneriaid i harneisio pŵer ein moroedd drwy ein Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr a hwyluso defnydd cynaliadwy o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru.

Drwy'r rhaglen hon rydym wedi bod yn datblygu ac yn profi dulliau newydd, gan geisio rheoli ansicrwydd ynghylch effeithiau amgylcheddol posibl technolegau newydd.

Gyda chynnydd yn lefel y môr sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd a newid yn lefelau amddiffyn yr arfordir mewn golwg, byddwn hefyd yn cyflwyno Rhaglen Addasiadau Arfordirol i sicrhau'r canlyniadau gorau i'r cymunedau sydd fwyaf mewn perygl. Mae'r gwaith hwn yn mynd i'r afael â blaenoriaethau a nodwyd ar draws ein holl Ddatganiadau Ardal. Rydym wedi nodi amrywiaeth o safleoedd lle mae cyfleoedd ar gyfer canlyniadau strategol ac opsiynau cynaliadwy ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Mae'r safleoedd hyn, sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Dinas Dinlle a Than Lan yn y Gogledd, De-orllewin Aber Afon Dyfi yn y Canolbarth a Mwche yn y De yn cael eu hadolygu'n fanwl.

Amcan llesiant 3: Llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf

Mae hyn yn golygu cymryd camau i atal hyd yr eithaf y pethau hynny sy’n niweidio iechyd dynol a bioamrywiaeth ac sy’n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr – gan leihau gwastraff ar yr un pryd drwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu hailddefnyddio a’u hamnewid mewn sectorau allweddol o economi Cymru.  

Ni yw’r prif reoleiddiwr amgylcheddol yng Nghymru. Rydym yn gyfrifol am reoli llygredd drwy roi trwyddedau a thrwy orfodi cydymffurfedd. Mae ein data yn dangos cynnydd yn nifer yr achosion o lygredd dros y pum mlynedd diwethaf ac, ar yr un pryd, mae mwy o ymwybyddiaeth a phryder ymhlith y cyhoedd am effaith llygredd ar yr amgylchedd.

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i wella sut rydym yn gweithio gyda busnesau a sectorau i reoli ac atal llygredd a gwastraff niweidiol hyd yr eithaf, a hynny gan ddefnyddio ein pwerau a’n dyletswyddau statudol presennol.

Mae osgoi llygredd a gwastraff yn sail i gysyniad Llywodraeth Cymru o ‘economi gylchol’ a chyfraniad hynny at sicrhau ‘sero net’ – mae cyfres o 14 o ddangosyddion i olrhain cynnydd yn hyn o beth.

Mae annog busnesau i wella eu heffeithiolrwydd a’u heffeithlonrwydd, a thrwy hynny leihau eu costau, wrth wraidd strategaeth “Mwy nag Ailgylchu” Llywodraeth Cymru. Mae angen i aelodau’r cyhoedd, yn ehangach, hefyd gydnabod eu rôl fel defnyddwyr, a mynnu mwy gan y busnesau a'r cadwyni cyflenwi y maen nhw’n prynu nwyddau ganddynt - gan ddangos nad ydynt yn fodlon goddef llygredd a gwastraff.

Byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu fel bod byd natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llygredd drwy:

  • defnyddio offer a dulliau rheoleiddio, a hynny’n effeithiol
  • ymateb i ddigwyddiadau, a hynny’n seiliedig ar risg
  • defnyddio adnoddau’n effeithlon, a gwneud defnyddio deunyddiau amgen yn beth cyffredin
  • pobl, cymunedau a busnesau’n gweithredu'n barhaus i atal llygredd hyd yr eithaf
  • CNC yn bod yn sefydliad enghreifftiol o ran dim llygredd a dim gwastraff


Byddwn yn defnyddio ein dulliau rheoleiddio yn effeithiol drwy:

  • sicrhau bod y sectorau rydym yn eu rheoleiddio – gan gynnwys unrhyw weithgareddau anghyfreithlon heb drwydded –  yn cymryd camau effeithiol i reoli ac atal llygredd hyd yr eithaf, ac i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddarparu cyngor a chanllawiau sy'n nodi'n effeithiol y safonau sy'n ofynnol;
  • atal llygredd a gwastraff hyd yr eithaf drwy weithio ar y cyd â diwydiant, ac eraill, i nodi sut y mae angen i bolisi Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth newid;
  • osgoi llygredd a gwastraff drwy archwilio dulliau arloesol gan ddefnyddio ein holl ddulliau rheoleiddio, gan gynnwys pwerau arbrofol;
  • gwella amgylchedd lleol gwael drwy weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall y problemau a datblygu cynlluniau gweithredu ar y cyd;
  • gwella perfformiad amgylcheddol y bobl rydym yn eu rheoleiddio drwy gynghori perfformwyr gwael ar fesurau atal, a nodi’r perfformwyr gorau er mwyn iddyn nhw rannu gwersi ac arferion da;
  • atal hyd yr eithaf y risg o lygredd o gemegau drwy addasu ein dulliau rheoleiddio cemegau yn yr amgylchedd;
  • atal llygredd tir a dŵr hyd yr eithaf drwy gydweithio i ysgogi camau gweithredu cadarnhaol a chreu atebion effeithiol;
  • gwarchod yr amgylchedd a gwella perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr drwy herio eu rhaglenni buddsoddi yn effeithiol i sicrhau camau gwella;
  • atal llygredd hyd yr eithaf mewn dyfroedd gwarchodedig a dynodedig drwy nodi'r camau gweithredu sy'n ofynnol gan ystod o sectorau;
  • adfer ansawdd dŵr mewn dalgylchoedd yr effeithir arnynt gan etifeddiaeth hen fwyngloddiau metel drwy ddefnyddio ein tystiolaeth a chydweithio i nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu;
  • gwella ansawdd aer i bobl a byd natur drwy leihau a dileu allyriadau wrth reoleiddio diwydiant.


Byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau, yn seiliedig ar risg, drwy:

  • atal niwed o ddigwyddiadau llygredd amgylcheddol, hyd yr eithaf, drwy baratoi ar gyfer digwyddiadau â blaenoriaeth ac ymateb iddynt fel ymatebwr Categori 1;
  • atal hyd yr eithaf y niwed a ddaw o sectorau penodol ac sydd mewn ardaloedd daearyddol penodol drwy ddefnyddio tystiolaeth i gymryd camau i wella cydymffurfedd;
  • atal hyd yr eithaf y niwed a ddaw o droseddau amgylcheddol difrifol drwy ymchwilio i ddigwyddiadau a chymryd camau cryf a phendant;
  • atal hyd yr eithaf y niwed a ddaw o wastraff anghyfreithlon drwy gymryd camau gydag awdurdodau lleol a phartneriaid trydydd sector i atal tipio anghyfreithlon.


Byddwn yn hybu effeithlonrwydd adnoddau a defnyddio deunyddiau amgen drwy:

  • atal gwastraff hyd yr eithaf drwy weithredu gofynion rheoliadol newydd megis cyfrifoldeb estynedig i gynhyrchwyr ac ailgylchu annomestig ac yn y sector cyhoeddus;
  • sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithlon, gan fodloni safonau penodol i sectorau drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i gwmnïau dŵr a diwydiannau eraill;
  • ysgogi cadwyni cyflenwi i ddefnyddio pren Cymreig drwy fanteisio ar y ffaith mai ni yw’r prif gyflenwr pren sydd wedi’i gynaeafu’n gynaliadwy yng Nghymru.

Byddwn yn galluogi pobl, cymunedau a busnesau i gymryd camau parhaus i atal llygredd hyd yr eithaf, drwy:

  • gynyddu atebion ar sail natur mewn ardaloedd trefol a gwledig i gefnogi'r gwaith o atal llygredd, a thrwy hynny sicrhau buddion niferus i fyd natur a phobl drwy weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr i gynnwys yr atebion hynny yn eu datblygiadau;
  • atal gwastraff anghyfreithlon hyd yr eithaf drwy ddatblygu a gweithredu strategaeth ar y cyd ar gyfer gwarediadau tirlenwi a gwarediadau anawdurdodedig gydag Awdurdod Cyllid Cymru;
  • sicrhau bod cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol, tegwch a chynhwysiant yn llywio a chryfhau ein penderfyniadau i atal llygredd drwy adolygu'r mecanweithiau presennol a datblygu canllawiau;
  • cynnwys cymunedau a sectorau gwahanol yn ein gwaith, drwy gymhwyso mewnwelediadau ymddygiadol i lywio ein dulliau;
  • sicrhau bod ystod amrywiol o bobl yn gweithredu i atal llygredd hyd yr eithaf drwy rannu gweledigaeth Natur a Ni, a’r hyn sy’n deillio ohono, i ehangu ein rhwydweithiau a chynyddu cyfranogiad;
  • meithrin gallu gweithlu Cymru i gefnogi'r gwaith o atal llygredd i’r eithaf drwy weithio gydag eraill i eirioli dros sgiliau a swyddi gwyrdd.

Byddwn yn sefydliad enghreifftiol ‘dim llygredd a dim gwastraff’ drwy:

  • sicrhau bod penderfyniadau ariannol a phenderfyniadau busnes CNC yn cynnwys amcanion ‘dim llygredd a dim gwastraff’ drwy fanteisio ar y gwersi a ddysgwyd gan eraill i greu dulliau a fframweithiau effeithiol;
  • ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer cymaint o ddeunyddiau â phosibl drwy fonitro a chymryd camau wrth newid neu adnewyddu eitemau allweddol megis offer TGCh a chyfarpar diogelu personol;
  • sicrhau bod camau gweithredu ar atal llygredd yn cael eu rhaeadru a’u rhannu drwy ein cadwyni cyflenwi, ein rhaglenni grant a’n cytundebau rheoli tir, a hynny drwy gynnwys y camau yn ein fframweithiau caffael a chyllid;
  • atal, hyd yr eithaf, niwed i’r amgylchedd yn sgil llygredd ar y tir dan ein gofal drwy reoli gweithredu i safon uchel a delio’n effeithiol ag unrhyw achosion sy’n digwydd;
  • buddsoddi yn sgiliau a gallu ein cydweithwyr i fod yn llysgenhadon drwy ddarparu rhaglen hyfforddi ar gyfer llythrennedd hinsawdd a natur.

Sut y byddwn yn gweithio i atal llygredd a'i effeithiau hyd yr eithaf yn ein cymunedau

  • Bydd defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar le i atal llygredd hyd yr eithaf yn amddiffyn pobl a natur rhag niwed.
  • Yn ein saith lle, rydym wedi gwneud ymrwymiadau drwy ein hymgysylltu gweithredol â byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth ddatblygu eu cynlluniau llesiant, a thrwy gynnwys cymunedau wrth ddatblygu ein Datganiadau Ardal i atal llygredd hyd yr eithaf yn ein lleoedd.
  • Dysgwch fwy am sut rydym yn teilwra ein gwaith i atal llygredd hyd yr eithaf yn ein lleoedd yn y gwahanol ardaloedd o Gymru.

Y De-ddwyrain

Yn y De-ddwyrain, byddwn yn canolbwyntio ar iechyd ein hafonydd drwy gyflawni camau atal llygredd yn nalgylch Canol Sir Fynwy. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd dŵr yn nalgylch isaf afon Wysg ac afon Gwy, ac ymgymryd â mwy o weithgarwch cydymffurfio i helpu i leihau effaith amgylcheddol gweithgareddau ffermio gymaint â phosib.

Canol y De

Byddwn hefyd yn defnyddio dull ar raddfa dalgylch i wella ecoleg ac ansawdd ein dyfroedd yn yr afonydd trefol sydd wedi'u haddasu cryn dipyn yng Nghanol y De. Mae dalgylch afon Elái yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio dull ehangach o ran sut rydym yn defnyddio ein pwerau rheoleiddio, ac i weithio gyda phartneriaid i ddefnyddio dull mwy rhagweithiol a chydweithredol i fynd i'r afael â materion cyffredin fel llygredd dŵr o ffynonellau megis safleoedd adeiladu. Byddwn hefyd yn ceisio adfer prosesau dalgylch er budd yr amgylchedd a'n cymunedau.  

Wrth i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd barhau i dyfu, mae gennym rôl bwysig i'w chwarae wrth atal llygredd o ddatblygiadau trefol. Byddwn yn defnyddio ein pwerau rheoleiddio i sicrhau cydymffurfiaeth y diwydiant i wella ansawdd aer, a byddwn yn defnyddio ein dylanwad a'n rôl statudol wrth gynllunio datblygu i hyrwyddo economi atgynhyrchiol sy'n diogelu ac yn adfer gwydnwch ein hecosystemau a stociau ein hadnoddau naturiol. Byddwn hefyd yn eirioli dros drawsnewid yn y sectorau ynni, trafnidiaeth a bwyd yn ein gwaith gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda'r nod o gefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy ffyniannus.

Y De-orllewin

Drwy weithio mewn partneriaeth â'r gymuned amaethyddol a'r safleoedd a reoleiddiwn, byddwn hefyd yn canolbwyntio ar sut i atal llygredd hyd yr eithaf er mwyn diogelu cymunedau a diogelu'r amgylchedd yn y De-orllewin. Yn Sir Benfro, byddwn yn parhau i weithio gyda ffermwyr, y diwydiannau prosesu, gwastraff a dŵr i wella ansawdd ein dyfroedd, ein tir a'n haer a gwella'r cynefinoedd rydym a welwn yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afonydd Cleddau.

Bydd ein gwaith i fonitro ac ymchwilio i achosion llygredd yn y De-orllewin hefyd yn parhau, a hynny’n gyflym, gan ddefnyddio ein tystiolaeth i yrru gwelliannau i asedau, llywio sut rydym yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y sawl sy’n llygru, ac i ysgogi gwelliannau polisi sy'n gysylltiedig â defnydd tir yn yr ardal.

Y Canolbarth

Yn y Canolbarth, byddwn yn defnyddio dull ar raddfa dalgylch i wella ecoleg ac ansawdd ein hafonydd a'n dyfroedd arfordirol drwy Brosiect Adfer Afon Gwy Uchaf a'n gwaith ar Fyrddau Cynllun Rheoli Maetholion Gwy, Wysg a Theifi. Gan ddefnyddio ein sylfaen dystiolaeth, ein pwerau cynghori a rheoleiddio, a chryfder ein partneriaethau, byddwn yn gweithio i adfer dalgylchoedd er budd yr amgylchedd a chymunedau yn yr ardal hon.

Y Gogledd-orllewin

Yn y Gogledd-orllewin, byddwn yn ceisio mynd i'r afael â materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr, a faint ohono sydd, yn ogystal ag adfer ecolegol a lles cymunedol ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru fel rhan o grŵp cydweithredol aml-bartner. Gyda'n gilydd, byddwn yn datblygu cais prosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar raddfa tirwedd, yn seiliedig ar ddalgylch Corsydd Ynys Môn - ardal sy'n enwog am ei chynefin gwlyptir a ffen sy'n cynnal ystod eang o blanhigion a rhywogaethau unigryw.

Y Gogledd-ddwyrain

Byddwn yn defnyddio dull ar raddfa dalgylch i atal llygredd hyd yr eithaf yn y Gogledd-ddwyrain, gan weithio gyda phartneriaid megis Bwrdd Rheoli Maetholion Dyfrdwy a Fforwm Clwyd a phartneriaethau dalgylch Dyfrdwy, sy’n wirfoddol, i reoli'r tir yn yr ardal hon yn gynaliadwy. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chymunedau a deiliaid trwyddedau i sicrhau bod yr effeithiau amgylcheddol yn cael eu hatal hyd yr eithaf ar y safleoedd rydym yn eu rheoleiddio.

Y Môr

Gwella ansawdd dŵr ein harfordiroedd a'n moroedd fydd canolbwynt ein gwaith gyda phartneriaid o amgylch Dalgylchoedd Cyfleoedd Morol. Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a ffermwyr sy’n denantiaid i fuddsoddi mewn prosiectau i atal llygredd maetholion hyd yr eithaf ym morlyn arfordirol Bae Cemlyn ar Ynys Môn. Yn Ne-orllewin Cymru, rydym hefyd yn defnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd yn dilyn canlyniadau profion ansawdd dŵr gwael mewn pysgodfeydd cregyn gleision ym Mae Abertawe i ddeall y methiannau ac i lywio gweithdrefnau rheoli mwy effeithiol i atal achosion rhag digwydd eto.

Amcan llesiant 4 – Sut rydym yn gweithio er budd byd natur a phobl

Creu sefydliad dibynadwy, effeithiol a chydweithredol sy'n sicrhau manteision parhaol i fyd natur, o ran yr hinsawdd ac er budd pobl ledled Cymru.

Mae cyflawni ein gweledigaeth, sef ‘Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd’, yn fater o gynllunio, ond hefyd sut rydyn ni'n bwrw ati i weithredu. Mae'n fater o weithio gyda'n gilydd - sut rydyn ni’n gwneud hynny, sut rydyn ni'n dysgu, a sut rydyn ni'n arwain. Mae'r ffordd rydyn ni’n gwneud penderfyniadau, yn defnyddio tystiolaeth, ac yn cynnwys pobl yn meithrin ymddiriedaeth, yn cryfhau perthnasoedd ac, yn y pen draw, yn pennu'r canlyniadau a gyflawnwn i Gymru.

Wrth wraidd pob un o'n pedwar amcan llesiant mae ein diben, sef: rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffyrdd sy'n sicrhau bod ecosystemau'n parhau i fod yn wydn ac yn gallu parhau i ddarparu manteision lluosog i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Rhaid i'n dull adlewyrchu sut mae systemau naturiol yn gweithredu – cydnabod rhyng-gysylltiadau, gweithio ar y raddfa gywir, ac ystyried effeithiau hirdymor a chronnus ein penderfyniadau.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn gosod dyletswydd ac yn rhoi mandad pwerus inni weithio'n wahanol. Maen nhw'n galw arnom i feddwl yn y tymor hir, atal problemau cyn iddynt waethygu, integreiddio ein hymdrechion, cydweithio'n eang a chynnwys pobl yn ystyrlon. Nid cysyniadau haniaethol yw'r rhain. Maent yn disgrifio ffyrdd o weithio bob dydd sy'n ein helpu i ddelio â chymhlethdod, cydbwyso buddiannau sydd weithiau’n cystadlu â’i gilydd, a symud y tu hwnt i ddulliau unigol a thuag at ganlyniadau cyffredin sy'n gydgysylltiedig, yn seiliedig ar le, ac yn canolbwyntio ar newid parhaol.

Nid newid dewisol yw hyn - ond ni fydd yn digwydd dros nos. Fel corff cyhoeddus yng Nghymru, disgwylir inni arwain drwy esiampl gan ddangos uniondeb, bod yn agored, bod yn dryloyw, ac arddangos gofal cyson yn y ffordd rydym yn gweithio. Mae hyn yn gofyn am gyd-ddealltwriaeth glir o'r ffyrdd o weithio rydym yn ceisio eu hymgorffori, sut y bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau ac ymddygiadau bob dydd, a sut y bydd cynnydd yn cael ei ddeall a'i fesur. Yn y pen draw, bydd datblygu'r meddylfryd sydd ei angen i gymhwyso'r ffyrdd hyn o weithio yn gofyn am arweinyddiaeth barhaus, meithrin gallu a chryn gefnogaeth. Mae sut rydyn ni'n gweithio yn siapio nid yn unig yr hyn rydyn ni'n ei gyflawni, ond y diwylliant, yr ymddygiadau a'r ymddiriedaeth sy'n sicrhau newid parhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Drwy'r amcan llesiant hwn, rydym yn canolbwyntio ar greu sefydliad:

  • sydd ag ymddiriedaeth - gan gydweithwyr, cwsmeriaid, partneriaid a chymunedau
  • sy’n effeithiol – gan wneud penderfyniadau clir, amserol a chall wedi'u llywio gan y dystiolaeth orau sydd ar gael
  • sy’n gydweithredol – yn gweithio fel un CNC unedig ochr yn ochr ag eraill, gan gydnabod a rhannu cyfrifoldeb
  • sy’n addas ar gyfer y dyfodol – yn wydn, yn gynhwysol ac yn gallu addasu a dysgu

Rydym yn cydnabod na ellir datrys yr heriau cymhleth sy'n ein hwynebu o ran byd natur, yr hinsawdd a llygredd ar ein pen ein hunain. Mae cydweithredu, cyfaddawdu a datrys problemau ar y cyd yn hanfodol. Drwy weithio gydag eraill ar y raddfa y mae ecosystemau a chymunedau'n gweithredu, a thrwy werthfawrogi profiad byw ochr yn ochr ag arbenigedd proffesiynol a gwyddonol, rydym yn galluogi penderfyniadau gwell a chanlyniadau mwy parhaol a chadarn. 

Mae gwaith atal yn ganolog i'r ffordd rydyn ni'n gweithio. Trwy weithredu'n gynnar a mynd i'r afael â phwysau sylfaenol ar ecosystemau - nid symptomau yn unig - rydym yn cefnogi gallu hirdymor i addasu a pharhau i sicrhau buddion i bobl, yr economi a byd natur. Mae hyn yn golygu deall effeithiau cronnus, cyfaddawdu lle bo angen, a chanolbwyntio ymdrechion lle bydd yn cael yr effaith fwyaf i sicrhau gwytnwch a chydnerthedd.

Mae'r amcan hwn wedi'i wreiddio yn yr egwyddor datblygu cynaliadwy ac egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'r rhain yn arwain nid yn unig yr hyn rydyn ni'n ei gyflawni, ond sut rydyn ni'n mynd ati bob dydd – gan siapio ein harweinyddiaeth, ein defnydd o dystiolaeth, a'n perthynas â chydweithwyr, cwsmeriaid, partneriaid a chymunedau. Maent yn ein hatgoffa i ystyried yr ystod lawn o fanteision cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a ddarperir gan ecosystemau, ac i adlewyrchu'r gwerthoedd hynny wrth wneud penderfyniadau.

Trwy'r amcan llesiant hwn, rydym yn buddsoddi yn y bobl, y systemau a'r perthnasoedd sy'n ein galluogi i fod yn bŵer hyderus, dibynadwy a chadarnhaol yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru. Ein huchelgais yw creu sefydliad:

  • y mae pobl yn ymddiried ynddo
  • y mae partneriaid yn ei werthfawrogi
  • y mae cydweithwyr yn falch o fod yn rhan ohono

Nid newidiadau gweithredol yn unig yw’r rhain. Maent yn adlewyrchu'r gwerthoedd sy'n ein diffinio a'r cyfrifoldeb sydd gennym - i'r amgylchedd, i Gymru, i genedlaethau'r dyfodol, ac i'n gilydd. Drwy weithio'n wahanol, gyda'n gilydd, gallwn wneud y mwyaf o fuddion ar gyfer byd natur, o ran yr hinsawdd ac er budd pobl – nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Dyma sut rydyn ni'n adeiladu sefydliad y mae pobl yn ymddiried ynddo, sy’n ystwyth ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn gwireddu'r amcan hwn, byddwn yn canolbwyntio ein buddsoddiad a'n hymdrech ar chwe maes blaenoriaeth sy'n cefnogi cydweithwyr ar draws y sefydliad i arwain, cydweithio a chyflawni:

Ar draws y chwe blaenoriaeth, mae ein ffocws yn ymestyn y tu hwnt i CNC. Mae sut rydym yn gweithio yn siapio ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus, yn cefnogi cydweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru, ac yn galluogi cymunedau, busnesau a phartneriaid i gyfrannu at ganlyniadau ar y cyd ar gyfer byd natur ac er budd pobl.

Gyda'i gilydd, bydd y blaenoriaethau hyn yn ein galluogi i feddwl yn y tymor hir, atal problemau, integreiddio ein gwaith, cydweithio'n effeithiol a chynnwys pobl yn ystyrlon – tra'n cyflawni canlyniadau gwell i fyd natur, o ran yr hinsawdd, i leihau llygredd ac er budd pobl.

Ein harweinyddiaeth a'n diwylliant 

Rhoi cynnwys, cyfranogiad ac atal ar waith am y tymor hir

Mae arweinyddiaeth a diwylliant yn ein siapio o ddydd i ddydd – dyma sy’n pennu sut mae'n teimlo i fod yn rhan o'n sefydliad. Drwy fuddsoddi mewn arweinyddiaeth gynhwysol, gefnogol a hyderus ar bob lefel, rydym yn creu'r amodau lle gall cydweithwyr deimlo bod ffydd ynddynt i fwrw ymlaen, herio'n adeiladol a dysgu o brofiad. Byddwn yn rhoi’r amser, y lle a’r adnoddau i’n pobl gymryd y cam cyntaf, rhoi cynnig ar ddulliau newydd, ac arwain yn hyderus.

Drwy fuddsoddi mewn gallu arweinyddiaeth, cynhwysiant, iechyd a lles, a thrwy ddysgu, rydym yn adeiladu gwytnwch ar gyfer y tymor hir. Mae hyn yn helpu i atal problemau cyn iddynt godi - gan leihau risg, gwella diogelwch a chefnogi pobl i gadw'n iach, i ymgysylltu ac i gyfrannu gymaint a phosibl.

Trwy gryfhau arweinyddiaeth gynhwysol ar draws y sefydliad, rydym yn cyfrannu at sector cyhoeddus cryfach a mwy cysylltiedig yng Nghymru. Mae gweithlu hyderus sy’n cael ei gefnogi yn ein galluogi i fod yn bartner dibynadwy, rhannu dysgu gydag eraill, a chyfrannu'n gadarnhaol at arweinyddiaeth system gyfan ar gyfer byd natur, yr hinsawdd a lles yng Nghymru.

Rydym am i bob cydweithiwr deimlo'n gysylltiedig, wedi'i rymuso ac yn hyderus i arwain yn eu rôl, cyfrannu syniadau, a gwneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu ein hamcanion.

Byddwn yn buddsoddi:

  • i alluogi pob cydweithiwr i arwain yn unigol ac ar y cyd, trwy gryfhau ein cynnig dysgu a datblygu, dylunio adnoddau cynhwysol, dulliau adborth a digwyddiadau sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd.
  • i gryfhau ein diwylliant o lesiant, iechyd a diogelwch drwy ddefnyddio data a mewnwelediad sy'n gysylltiedig â phobl i ddeall anghenion, blaenoriaethu camau gweithredu ac ysgogi gwelliannau ystyrlon.
  • i ddenu, meithrin a chadw talent amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu drwy ehangu ein cynnig gyrfa gynnar a chreu cyfleoedd ehangach ar gyfer datblygu gyrfa, a dilyniant, ar draws y sefydliad.
  • i hyrwyddo cynhwysiant a gwrth-hiliaeth, drwy hyfforddiant, cefnogaeth ac adnoddau sy'n ymgorffori arfer cynhwysol a gwrth-hiliol ar draws ein gweithlu ac yn lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a’r bwlch cyflog i bobl ag anableddau.
  • i fynd ati i ddysgu gan eraill drwy adeiladu rhwydweithiau cryf a phwrpasol gyda’r sector cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru a thu hwnt, er mwyn rhannu dysgu ac arferion gorau.
  • i greu gweithlu ystwyth sy'n seiliedig ar sgiliau drwy alinio dilyniant â llwybrau gyrfa a ffyrdd mwy hyblyg o weithio.
  • i ddathlu cyflawniadau unigolion a thimau drwy roi cydnabyddiaeth a thrwy adrodd eu straeon - gwerthfawrogi cyfraniad ein gilydd ac annog ac ysgogi mwy o'r hyn sydd i’w weld yn gweithio.
  • I feithrin eiriolwyr hyderus a chredadwy dros natur a'r hinsawdd drwy hyfforddiant sy'n gwella rhaglenni llythrennedd natur a hinsawdd.

Canlyniad: Sefydliad lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi - gan fod yn hyderus i arwain newid, cryfhau cyfraniad CNC i sector cyhoeddus yng Nghymru sy’n alluog, yn gynhwysol ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

Ein cwsmeriaid

Ymgorffori integreiddio, atal a chynnwys

Mae sut rydym yn trin cwsmeriaid yn adlewyrchu pwy ydym ni fel corff cyhoeddus. Drwy geisio darparu profiad cwsmer eithriadol - hynny yw, gwrando'n ofalus, ymateb yn glir, a dysgu o adborth - rydym yn cryfhau ymddiriedaeth, yn lleihau oedi a rhwystredigaeth, ac yn atal problemau rhag gwaethygu.

Mae cynnwys cwsmeriaid yn gynnar a dysgu o'u profiadau yn ein helpu i ddylunio gwasanaethau sy'n decach, yn fwy hygyrch ac yn fwy dibynadwy. Drwy integreiddio ein prosesau mewnol, gallwn greu profiad di-dor, a sicrhau bod pobl yn cael profiad o CNC fel un sefydliad cydgysylltiedig, yn hytrach na chasgliad o wasanaethau ar wahân.

Byddwn yn meithrin ymddiriedaeth a ffydd hirdymor drwy dryloywder, cysondeb a safonau proffesiynol uchel, gan ddarparu gwasanaethau sy'n amserol, yn gynhwysol ac wedi'u llunio ar sail anghenion y cymunedau a wasanaethwn.

Mae profiad cwsmer cyson a theg yn meithrin hyder nid yn unig yn CNC, ond yn y system ehangach o reoleiddio, cynghori a chymorth amgylcheddol yng Nghymru. Mae sut rydym yn gweithio gyda phobl yn siapio ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus ac yn galluogi partneriaid, cymunedau a busnesau i chwarae eu rhan wrth gyflawni canlyniadau cadarnhaol i fyd natur a phobl.

Byddwn yn buddsoddi:

  • i ddyfnhau ein dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid drwy wrando’n ofalus, gyda chydymdeimlad, gan ddefnyddio mewnwelediadau, adborth a data i nodi mannau problematig, llunio gwelliannau a llywio penderfyniadau ar draws y sefydliad.
  • i gryfhau sut rydym yn ymateb i gwsmeriaid drwy roi'r sgiliau, y dulliau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar gydweithwyr er mwyn iddynt allu rhoi cyngor clir, amserol ac empathig i gwmseriaid.
  • i feithrin diwylliant o wella parhaus, annog timau i ddysgu o adborth, rhannu arfer gorau a lleihau cymhlethdod diangen o ran siwrneiau cwsmeriaid.
  • i wella hygyrchedd a chynhwysiant, gan sicrhau bod ein gwasanaethau'n gweithio i bawb drwy gynnig sianeli lluosog, gwybodaeth glir, a chefnogaeth sy'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Cymru.
  • i wella’r cydlyniant mewnol y tu ôl i daith y cwsmer, alinio timau a phrosesau fel bod cwsmeriaid yn cael profiad o Cyfoeth Naturiol Cymru fel un sefydliad cydgysylltiedig, nid casgliad o wasanaethau ar wahân.
  • i gynyddu tryloywder ac ymddiriedaeth drwy benderfyniadau cliriach, diweddariadau gwell, a gwybodaeth fwy gweladwy fel bod cwsmeriaid yn deall beth i'w ddisgwyl a phryd.

Canlyniad: Pobl yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u trin yn deg, a’u bod yn hyderus wrth ryngweithio â CNC - gan, drwy hynny, gefnogi ymddiriedaeth ehangach mewn gwasanaethau cyhoeddus a phenderfyniadau amgylcheddol yng Nghymru.

Ein gwasanaethau digidol

Cefnogi meddwl hirdymor, integreiddio ac atal

I raddau helaeth, gwasanaethau digidol sy’n dylanwadu sut mae pobl yn profi ein sefydliad, a pha mor effeithiol rydym yn gallu gweithio gyda'n gilydd y tu ôl i'r llenni. Drwy eu dylunio o amgylch yr hyn sydd ei angen ar bobl, a sut rydyn ni'n gweithio, rydyn ni'n ei gwneud hi'n haws cydweithio, rhannu gwybodaeth a gweithredu’n hyderus.

Mae’r dull "digidol drwy ddyluniad" yn ein helpu i symleiddio prosesau, lleihau risg a gweithio'n fwy cyson. Mae hefyd yn datblygu ein gallu hirdymor, yn helpu i atal problemau y gellir eu hosgoi, ac yn ei gwneud hi'n haws ymgysylltu'n agored â phartneriaid, cymunedau a busnesau.

Byddwn yn buddsoddi:

  • i foderneiddio gwasanaethau sy'n wynebu'r cyhoedd gyda llwyfannau digidol cynhwysol sy'n galluogi hunanwasanaeth hawdd, gwybodaeth amser real a mwy o dryloywder.
  • i ddylunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr gan ddefnyddio egwyddorion dylunio digidol sy'n canolbwyntio ar bobl, gan sicrhau gwasanaethau integredig, greddfol, cynhwysol ac ymatebol.
  • i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd drwy dechnoleg, a hynny drwy ailgynllunio prosesau, mabwysiadu dulliau ac offer digidol, drwy awtomeiddio a thrwy systemau modern.
  • i symleiddio mynediad at wybodaeth gorfforaethol drwy ddigideiddio fel y gall cydweithwyr a chwsmeriaid ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnynt yn gyflym.
  • i greu’r lle i arloesi drwy ddarparu cyllid, mentora a chefnogaeth arweinyddiaeth i dimau brofi a datblygu syniadau newydd.

Canlyniad: Gwasanaethau cliriach, cyflymach a mwy hygyrch sy'n cefnogi penderfyniadau gwell ac yn gwella tryloywder ac ymgysylltu y tu hwnt i CNC.

Ein llywodraethiant

Galluogi ffocws hirdymor, integreiddio ac atal

Mae llywodraethu clir a chymesur yn ei gwneud hi'n haws i gydweithwyr ddeall pwy sy'n gwneud penderfyniadau, sut mae risgiau yn cael eu trin a beth sydd bwysicaf. Drwy symleiddio penderfyniadau a'u cysylltu â'n hamcanion llesiant, rydym yn cefnogi gwneud penderfyniadau ar y lefel gywir gan gadw atebolrwydd clir.

Mae ymagwedd gytbwys at risg gyda chynllunio mwy integredig yn caniatáu inni ganolbwyntio’n hymdrechion lle mae'n cael yr effaith fwyaf, gan atal baich diangen a galluogi cyflawni.

Byddwn yn buddsoddi:

  • i ymgorffori strwythur llywodraethu sy'n blaenoriaethu cyflawni'r Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Llesiant.
  • i symleiddio ac egluro ein fframwaith risg i gefnogi’r gwaith o wneud penderfyniadau cytbwys.
  • i gryfhau’r flaenoriaeth a roddir i gyflawni’r amcanion lles, drwy integreiddio cynllunio busnes, cynllunio ariannol a chynllunio adnoddau yn well.
  • i esblygu ein model gweithredu drwy gynnal nifer fforddiadwy a chynaliadwy o staff parhaol a gwneud mwy o ddefnydd o gontractau tymor byr, secondiadau, lleoliadau, cyllid grant, partneriaethau ac allanoli i'n helpu i ymateb i flaenoriaethau sy'n newid a theilwra ein hymdrechion yn fwy effeithiol.
  • i gryfhau cysylltiadau rhwng timau, adrannau a chyfarwyddiaethau drwy greu calendr blynyddol o gyfleoedd ymgysylltu i gydweithwyr gyda'r Tîm Arweinyddiaeth, y Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.

Canlyniad: Penderfyniadau cyflymach, cliriach wedi'u halinio ag amcanion a chanlyniadau, gan alluogi partneriaid a rhanddeiliaid i gynllunio, cydweithio a gweithredu’n fwy hyderus.

Ein cyfathrebu, cydweithio ac eirioli

Dod â chydweithrediad a chyfranogiad yn fyw

Ni all unrhyw sefydliad unigol gwrdd â'r heriau sy'n ein hwynebu o ran byd natur, yr hinsawdd a llygredd yng Nghymru. Drwy gryfhau sut rydym yn cyfathrebu, gwrando ac ymgysylltu, rydym yn adeiladu ymddiriedaeth, cyd-ddealltwriaeth a momentwm ar gyfer newid.

Drwy gyfathrebu a chydweithio cryfach, rydym yn helpu i greu'r amodau ar gyfer gweithredu ar y cyd. Drwy ddefnyddio ein llais a'n gallu i ymgynnull, rydym yn cefnogi cyd-ddealltwriaeth, yn dylanwadu ar newid systemau ac yn helpu i alinio ymdrechion ar draws sectorau i sicrhau manteision i fyd natur, o ran yr hinsawdd ac ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Byddwn yn buddsoddi:

  • i ddylanwadu ar gyfeiriad polisi strategol a’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau i gyflymu gweithredu er budd byd natur, o ran yr hinsawdd ac i leihau llygredd - a hynny drwy fabwysiadu dull o eirioli sydd wedi'i dargedu gan ddefnyddio ein tystiolaeth a'n mewnwelediad.
  • i gyflymu gweithredu ar y cyd er budd byd natur, o ran yr hinsawdd ac i leihau llygredd drwy ddefnyddio ein grym a’n dylanwad i ddod â rhanddeiliaid ynghyd gan gynnal cyfarfodydd, fforymau a rhwydweithiau thematig rheolaidd gyda phartneriaid, rhanddeiliaid, busnesau a chymunedau.
  • i gryfhau sut rydym yn ymgysylltu â'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru a’u cynnwys yn ein gwaith drwy gynnal digwyddiadau lleol, defnyddio hyrwyddwyr cymunedol, a phartneru ag eraill i lywio ein gwaith.
  • i feithrin cysylltiadau a chydweithio rhwng timau a phartneriaid drwy annog gwirfoddoli, ymweld â safleoedd, cysgodi gwaith, secondiadau a digwyddiadau elusennol.
  • i ddatblygu ein presenoldeb digidol drwy brofi dulliau, sianeli a fformatau newydd i gyrraedd y bobl gywir, yn y ffordd gywir ac ar yr adeg gywir.
  • i gynyddu nifer a hyder siaradwyr Cymraeg drwy greu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar draws y sefydliad.
  • i gynnwys gwahanol gymunedau a sectorau yn ein gwaith, drwy ymgysylltu â chyrff proffesiynol, cymdeithasau masnach, sefydliadau aelodaeth busnes, a grwpiau cymunedol i lywio ein dulliau.
  • i ehangu dysgu cyfathrebu traws-sector, cryfhau ein llais cyfunol o blaid newid drwy weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill a chyrff y trydydd sector i rannu arfer gorau, tueddiadau ac arloesi.

Canlyniad: Partneriaethau cryfach, llais cyfunol cliriach i fyd natur a phobl, gan helpu i ategu lleisiau pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac adeiladu ymddiriedaeth ddyfnach ar draws cymunedau, sectorau, cwsmeriaid a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Ein tystiolaeth, data, a mewnwelediadau

Sbarduno gweithredu hirdymor, integredig a chydweithredol

Mae penderfyniadau da yn dibynnu ar dystiolaeth gref. Trwy wella sut rydym yn casglu, rhannu a defnyddio data a mewnwelediad, rydym yn cefnogi tryloywder, blaenoriaethu gwell a chydweithredu mwy effeithiol.

Drwy gyfuno tystiolaeth wyddonol, gwyddoniaeth dinasyddion a phrofiad byw, rydym yn dyfnhau dealltwriaeth o adnoddau naturiol Cymru ac yn gweithredu ar y raddfa gywir, yn y mannau cywir. Mae rhannu tystiolaeth hygyrch yn galluogi gweithredu ar y cyd ac yn helpu i ddatgloi buddsoddiad a chyflymu cynnydd tuag at nodau llesiant a rennir.

Byddwn yn buddsoddi:

  • i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd penodol drwy gasglu, trefnu, integreiddio a chyfleu ein tystiolaeth ein hunain a thystiolaeth eraill i ysgogi gweithredu er budd byd natur, o ran yr hinsawdd ac i leihau llygredd.
  • i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd casglu a threfnu tystiolaeth drwy brofi offer, dulliau a thechnolegau arloesol - a chynyddu a datblygu'r hyn sy'n gweithio yn unol â'n huchelgais a'n hadnoddau.
  • i werthuso ein heffaith drwy asesu effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ein darpariaeth, gan ddefnyddio mewnwelediadau i ehangu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda er budd natur, o ran yr hinsawdd ac i leihau llygredd.
  • i hwyluso buddsoddi gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector - a hynny drwy ddatblygu llwyfannau integredig i rannu tystiolaeth ar wahanol raddfeydd.
  • i alluogi cydweithredu drwy ddefnyddio SoNaRR, ein Datganiadau Ardal a thystiolaeth arall i nodi cyfleoedd i gydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Gwella’r broses o wneud penderfyniadau a gwella tryloywder drwy gysylltu a defnyddio data yn fwy effeithiol ar draws ein gwaith.
  • Adeiladu sylfaen dystiolaeth gyffredin, drwy gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys grwpiau gwyddoniaeth dinasyddion, i rannu data, mewnwelediad ac arloesi.

Canlyniad: Penderfyniadau wedi’u harwain gan dystiolaeth sy'n galluogi cydweithio, ysgogi gweithredu a sicrhau manteision gwirioneddol i fyd natur, o ran yr hinsawdd, o ran lleihau llygredd ac er budd pobl ledled Cymru.

Ar draws pob un o'r chwe maes blaenoriaeth, mae'r ffocws yn gyson: newid sut rydym yn gweithio er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl. Drwy annog ffyrdd o weithio sy'n dyfnhau ymddiriedaeth, yn cefnogi dysgu ac yn cryfhau perthnasoedd, rydym yn adeiladu sefydliad:

  • y mae cydweithwyr yn falch o weithio iddo
  • y mae cymunedau, partneriaid a chwsmeriaid yn ymddiried ynddo ac yn falch o weithio gydag ef
  • sy’n cyflawni'n effeithlon ac yn effeithiol gan wneud y mwyaf o gyfleoedd am fanteision niferus i fyd natur a phobl.

Fframwaith perfformiad

Mae ein hamcanion llesiant wedi’u llunio ar sail ystod o dargedau a dangosyddion rhyngwladol a phenodol i Gymru ar gyfer 2030 a 2050, fel a ganlyn:

  • dangosyddion llesiant Cymru
  • targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus sy’n garbon-niwtral erbyn 2030 a Chymru sero net erbyn 2050
  • cyfres Llywodraeth Cymru o 100 o ddangosyddion penodol i Gymru ar gyfer monitro, gwirio, ac adrodd ar y gyllideb garbon
  • dangosyddion ‘Mwy nag ailgylchu’ Llywodraeth Cymru
  • ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu a rheoli’n effeithiol 30% o’r tir, dŵr croyw a’r môr er budd byd natur erbyn 2030, gan gynnwys datblygu targedau adfer natur statudol
  • cytundeb y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang i atal colli bioamrywiaeth erbyn 2030, gyda byd natur yn ffynnu erbyn 2050
  • yr asesiad o fioamrywiaeth sydd wedi’i gynnwys yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025

Mae’r dangosyddion a’r targedau hyn yn gosod y cyd-destun ar gyfer sefyllfa Cymru ar hyn o bryd, ac yn nodi’r trywydd y bydd angen i Gymru ei ddilyn i gyrraedd y targedau byd-eang ar gyfer 2030 a 2050. Er mai Llywodraeth Cymru fydd yn atebol am gyrraedd y targedau a dangosyddion hyn, bydd angen ymdrech ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Rydym wedi nodi sut mae’r dangosyddion a’r targedau hyn yn cyd-fynd â’n hamcanion llesiant ond cydnabyddwn mai un o lawer o sefydliadau a fydd yn cyfrannu at eu cyflawni ydym ni.

Yn y cynllun corfforaethol hwn, cydnabyddwn fod angen i ni ganolbwyntio ar fesur ein perfformiad ac effaith ein hun wrth gyflawni ein hamcanion llesiant ni a’r camau i’w cymryd, fel y gallwn gael ein dwyn i gyfrif gan Weinidogion a phobl Cymru.

Credwn fod angen i’n dangosyddion adlewyrchu’r buddion ehangach niferus a gyflawnir drwy ein gwaith ar gyfer pobl, natur a’r hinsawdd ac o ran atal llygredd hyd yr eithaf.

Er enghraifft, bydd atebion sy’n seiliedig ar natur, megis adfer mawndir a chreu coetiroedd o dan yr amcan llesiant yr hinsawdd, yn dod â buddion ehangach i natur a phobl. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon, sicrhau buddion o ran addasu i’r hinsawdd, yn ogystal â darparu cyfleoedd i bobl ymgysylltu â byd natur. Rhaid i’r persbectif ehangach, integredig hwn lywio ein dewis o ddangosyddion.

Sut gall atebion sy’n seiliedig ar natur ddarparu buddion ehangach ar gyfer natur, yr hinsawdd, a phobl.

Gwyddom fod angen i ni herio ein hunain i ddewis dangosyddion sy’n ysgogi’r newid rydym am ei weld yn deillio o’n hamcanion llesiant. Mae hyn yn golygu gwneud newid radical i’n dull gweithredu, gan symud i ffwrdd o feysydd lle mae data ar gael yn hawdd i ni, i adlewyrchu’r persbectif ehangach hwn. Mae perygl gwirioneddol, drwy ddefnyddio dangosyddion ar un mater penodol dim ond oherwydd bod gennym y data, y byddwn yn methu â thynnu sylw at yr hyn sydd bwysicaf, ac felly y byddwn yn tanseilio ein ffocws ar fanteisio i’r eithaf ar y buddion niferus i natur, pobl, yr hinsawdd, a sut rydym yn atal llygredd a’i effeithiau hyd yr eithaf.

Credwn y bydd y cyfuniad o ddangosyddion meintiol ac ansoddol, ynghyd â naratif ategol, yn darparu persbectif integredig o effaith ein gwaith, a’r buddion ddaw yn ei sgil.

Bydd ein dull rheoli perfformiad a’n dangosyddion, metrigau a cherrig milltir yn darparu llwybr clir o’r cynllun corfforaethol i’r cynllun busnes blynyddol a chytundebau lefel gwasanaeth ac adroddir amdanynt yn yr adroddiadau perfformiad chwarterol a’r adroddiad blynyddol.

Cynllunio blynyddol

Mae’r cynllun corfforaethol hwn yn nodi ein cyfeiriad strategol hyd at 2030 ac mae’n cyd-fynd â’r amcanion strategol a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith ar gyfer tymor y llywodraeth a roddwyd i ni ym mis Rhagfyr 2022.

Yn unol â Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru, byddwn yn derbyn setliad cyllideb blynyddol a fydd yn llywio ein cyllideb flynyddol a’n cynllun busnes.


Er mwyn sicrhau aliniad, a thryloywder o ran cyflawni yn erbyn yr amcanion llesiant, rydym yn symleiddio ein fframwaith cynllunio a pherfformiad blynyddol.

Gan adeiladu ar ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru drwy’r ymarfer sylfaenol, byddwn yn parhau i weithio gyda nhw i ddatblygu cytundebau lefel gwasanaeth i gwmpasu pob elfen o’n gwaith, a’u defnyddio i lywio trafodaethau ar gyllidebau.

Ar ôl i ni dderbyn cadarnhad o’r gyllideb flynyddol gan Lywodraeth Cymru, ein disgwyliad yw y byddwn yn defnyddio’r cytundebau lefel gwasanaeth i ddyrannu’r gyllideb, pennu lefel y gwasanaeth y byddwn yn ei darparu ar draws ein gwahanol wasanaethau, a llywio’r cynllun busnes blynyddol, y metrigau perfformiad a’r cerrig milltir. Byddwn yn defnyddio’r dull hwn yng nghylch cynllunio busnes blynyddol 2026-27.

Diweddarwyd ddiwethaf