Mae amgylchedd naturiol Cymru yn ffynhonnell rhyfeddod ac ysbrydoliaeth ac yn enwog am ei thirweddau, morluniau a’i fywyd gwyllt eiconig. Ond er gwaethaf degawdau o waith da, mae llawer o’n cynefinoedd a’n rhywogaethau’n parhau i ddirywio. 

Natur hanfodol yw ein Cyfeiriad Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth hyd at 2022. Mae’n ddatganiad o’n blaenoriaethau, o’r cyfeiriad yr ydym yn teithio tuag ato ac o’n dulliau o weithio. 

Mae llesiant pawb – economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol – yn dibynnu ar ecosystemau iach a gwydn sydd yn eu tro’n dibynnu ar fioamrywiaeth. 

Mae gan fioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemol rôl hanfodol mewn Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. Mae Natur hanfodol yn sefydlu fframwaith lefel uchel ar gyfer camau gweithredu ar fioamrywiaeth yn unol â Chynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru. Drwy gyfres o amcanion ac ymrwymiadau lefel uchel, mae’n dangos sut y byddwn, drwy weithio gydag eraill, yn cyflawni’r dyletswyddau i gryfhau ecosystemau a bioamrywiaeth. 

Ein nod:

  • Mae pawb yn gwerthfawrogi rhywogaethau a chynefi noedd, tirweddau a morluniau Cymru ac mae ganddynt gyfl eoedd ar gyfer mynediad atnatur. Mae gwerthfawrogiad a dealltwriaeth eang o werth y byd naturiol a’I bwysigrwydd ar gyfer llesiant pobl a’r economi, gan helpu i alinio’r dewisiadau rydym yn eu gwneud gyda chapasiti ecosystemau i’n cefnogi
  • Mae ein dyletswydd statudol i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac adeiladu gwydnwch ecosystemau wrth gyfl awni ein swyddogaethau wedi’I hymgorffori’n llawn fel ystyriaeth allweddol i holl feysydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rydym yn dysgu oddi wrth eraill ac yn rhannu arferion sy’n ysbrydoli ac yn galluogi’r llywodraeth, awdurdodau cyhoeddus a busnesau ledled Cymru i wneud yr un peth
  • Mae safl eoedd gwarchodedig ar dir a môr yng Nghymru yn rhwydwaith integredig, wedi’u cysylltu’n ecolegol â’r dirwedd a’r morlun ehangach, yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, a lle y bo dulliau gweithredu deinamig i ddynodi a rheoli safl eoedd yn galluogi i gynefi noedd a rhywogaethau ffynnu ac ymestyn, gan ddarparu gwasanaethau ecosystemau ymhell y tu hwnt I ffi niau’r safle
  • Mae cynnal a gwella bioamrywiaeth ac adeiladu gwydnwch ecosystemau yn ofyniad arferol ar gyfer datblygiadau newydd a rheoleiddio a rheoli’r defnydd o adnoddau naturiol ar draws yr holl sectorau yng Nghymru
  • Meddu ar sail dystiolaeth gadarn ac agored sy’n caniatáu i’n timoedd ein hunain a sefydliadau o unrhyw faint roi rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar waith, gan gynnwys y gallu i fesur, deall a chyfathrebu achosion newid amgylcheddol a’r cyfl eoedd i wella bioamrywiaeth, adeiladu gwydnwch ecosystemau, a chynnal a gwella’r buddion maent yn eu darparu
  • Mae gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru y wybodaeth, y sgiliau, yr ymrwymiad a’r cymorth i gyfl awni ein hamcanion ar gyfer bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau ac rydym yn rhagori ar ysbrydoli a galluogi tirfeddianwyr, arweinwyr busnes a grwpiau cymunedol i wneud yr un peth. Mae ein harbenigedd yn cael ei werthfawrogi, ei rannu a’i gynyddu gyda chymuned o ymarferwyr blaenllaw, sy’n debyg o ran eu meddylfryd, o amgylch y byd
Diweddarwyd ddiwethaf