Buddion atebion sy'n seiliedig ar natur

Mae’r wybodaeth hon yn rhan o’n Cynllun Corfforaethol hyd at 2030

Sut gall atebion sy’n seiliedig ar natur ddarparu buddion ehangach ar gyfer natur, yr hinsawdd, a phobl.

Lawrlwythwch boster / fersiwn A3 argraffadwy o’r dudalen hon.

Adfer mewndir

Buddion adfer mawndir i fyd natur

Bydd gwella cynefinoedd yn helpu adar fel y cornicyll aur, y gylfinir, y boda tinwyn a phibydd y mawn

Bydd cynefinoedd gwell yn hidlo llygredd sydd yn yr awyr ac yn gwella ansawdd dŵr afonydd 

Cyflenwad dŵr mwy dibynadwy ar gyfer cynefinoedd dŵr croyw

Buddion adfer mawndir o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Mae mawndir iach yn cadw carbon wedi’i gloi yn y pridd

Llai o risg o erydiad a cholli pridd

Mae aildyfu rhostiroedd ac ailwlypáu mewndiroedd yn golygu llai o risg o danau yn yr awyr agored

Buddion adfer mawndir i bobl 

Cyflenwad dŵr o well ansawdd ac angen llai o driniaeth i lanhau dŵr afliwiedig

Lliniaru llifogydd

Cynnal da byw yn gynaliadwy gan gynhyrchu bwyd a ffibr (gwlân)

Cerdded mynyddoedd a thwristiaeth mewn tirweddau eiconig ar yr ucheldir fel parciau cenedlaethol

Creu ac adfer coetiroedd

Buddion creu ac adfer coetiroedd i fyd natur

Mae creu ac adfer coetiroedd yn arwain at gysylltedd gwell rhwng ecosystemau

Mwy o fioamrywiaeth fel ystlumod, pathewod ac adar fel y gwybedog brith a’r tingoch

Mae gwell argaeledd dŵr a chylchynu maetholion yn ychwanegu at fioamrywiaeth y pridd gan gefnogi gweithrediad yr ecosystem

Buddion creu ac adfer coetiroedd o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Storio carbon mewn coetiroedd newydd

Oeri ar hyd coridorau afon - pwysig i gynefin dŵr croyw

Deunyddiau adeiladu pren yn lle rhai carbon uchel

Buddion creu ac adfer coetiroedd i bobl

Arafu’r llif – yn dda i liniaru llifogydd a sychder

Ymdeimlad o le a chyfleoedd hamdden yn dod â buddion iechyd meddwl a chorfforol

Coed ger ardaloedd trefol yn lleihau sŵn a llygredd yn yr aer

Gweithgarwch economaidd cynaliadwy gan ddefnyddio cynhyrchion pren

 

Adfer cynefinoedd morol ac arfordirol

Buddion adfer cynefinoedd morol ac arfordirol i fyd natur

Bydd dolydd o forwellt a gwymon yn storio mwy o garbon ac yn darparu cynefinoedd i rywogaethau fel morfeirch a dyfrgwn

Gwell ansawdd dŵr arfordirol i fywyd gwyllt

Adlinio rheoledig o fudd i adar hirgoes fel y cwtiad torchog, y pibydd coesgoch, pioden y môr

Buddion adfer cynefinoedd morol ac arfordirol o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Mwy o storio carbon mewn morwellt a gwymon

Encilio wedi’i reoli yn help i addasu i’r newid yn yr hinsawdd

Llifogydd cynyddol yn cael eu lliniaru gan forfeydd heli, twyni a morwellt

Buddion adfer cynefinoedd morol ac arfordirol i bobl

Llai o risg o lifogydd mewn eiddo arfordirol

Adlinio ac adfer morfeydd heli yn darparu porfa i dda byw

Hamdden a thwristiaeth arfordirol

Pysgodfeydd gwell yn sicrhau manteision economaidd

 

Adfer glaswelltiroedd lled-naturiol

Buddion adfer glaswelltiroedd lled-naturiol i fyd natur

Lleihau dŵr ffo llygredig, gan warchod cynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw a morol

Buddion o ran bioamrywiaeth y pridd, gwenyn, gloÿnnod byw, mamaliaid bychan ac adar

Rheoli gwell yn helpu gyda rheoli rhywogaethau ymledol fel Jac y Neidiwr

Buddion adfer glaswelltiroedd lled-naturiol o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Adfywio cynefinoedd yn lleihau risg tanau yn yr awyr agored

Mwy o amrywiaeth o rywogaethau planhigion yn helpu mwy o storio carbon

Mwy o storio carbon yn enwedig mewn glaswelltiroedd asid

Buddion adfer glaswelltiroedd lled-naturiol i bobl

Cyflenwad mwy dibynadwy o ddŵr yfed

Llai o risg llifogydd

Gwell ansawdd pridd o fudd i ffermio

Da byw – cynhyrchu bwyd a ffibr (gwlân)

 

Rheoli dalgylchoedd integredig

Buddion rheoli dalgylchoedd integredig i fyd natur

Bydd adfer afonydd i ‘arafu’r llif’ o fudd i eogiaid, brithyllod, llygod dŵr, brogaod, llyffantod, a madfallod dŵrs

Mae gwlyptiroedd, megis dolydd gorlifdir yn cefnogi amffibiaid ac ymlusgiaid ac adar hirgoes fel y Gylfinir a’r Gornchwiglen

Adfywio cynefinoedd yn arwain at wella ansawdd aer

Buddion rheoli dalgylchoedd integredig o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Mae arafu llif y dŵr drwy’r dalgylch yn lleihau’r risg o erydiad

Mae oeri ar hyd coridorau afon o fudd i fioamrywiaeth dŵr croyw

Mae mwy o gysylltedd rhwng ecosystemau yn helpu i addasu i newid yn yr hinsawdd

Buddion rheoli dalgylchoedd integredig i bobl

Cyflenwad dŵr o well ansawdd

Llai o risg o sychder a cholli cyflenwad dŵr i bobl

Llai o risg i eiddo o lifogydd o afonydd

Gwell hamdden e.e. pysgota

 

Seilwaith gwyrdd trefol

Buddion seilwaith gwyrdd trefol i fyd natur

Datblygu gan gadw bywyd gwyllt fel gwenoliaid duon ac ystlumod mewn cof

Cynefin dŵr croyw gwell

Cynefin ychwanegol i adar, gwenyn, pryfed a gloÿnnod byw

Buddion seilwaith gwyrdd trefol o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Seilwaith gwyrdd yn lleihau dŵr ffo yn sgil stormydd a llifogydd trefol

Systemau draenio trefol cynaliadwy wedi’u hymgorffori mewn datblygiadau newydd

Oeri trefol o goed, parciau, toeau gwyrdd a SDCau

Buddion seilwaith gwyrdd trefol i bobl

Systemau draenio trefol cynaliadwy yn lleihau risg llifogydd i eiddo

Gwell mynediad at fannau gwyrdd yn dod â buddion lles corfforol a meddyliol

Gwell ansawdd aer a dŵr yn dod â buddion i iechyd pobl

Adfywio yn denu mewnfuddsoddiad

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf