Gorlifoedd Storm
Mae llawer o'r pibellau carthffosiaeth yng Nghymru yn garthffosydd cyfun. Mae hyn yn golygu eu bod yn cyfuno dŵr gwastraff o'n cartrefi a'n busnesau (toiledau, sinciau, cawodydd, baddonau, peiriannau golchi ac ati) a dŵr glaw o ffyrdd, gerddi a thoeau. Er and yw carthffosydd yn cael eu hadeiladu fel hyn mwyach, amcangyfrifir bod 60% o dai Cymru yn defnyddio carthffosydd cyfun.
Yn ystod glaw trwm neu gyfnodau hir o law gall y carthffosydd cyfun hyn gael eu llethu. Gall hyn achosi llifogydd ac mae ganddo'r potensial i lifo yn ôl i gartrefi, busnesau, ffyrdd a strydoedd.
Datblygwyd gorlifoedd storm i weithredu fel falfiau gorlif i atal hyn rhag digwydd. Fe'u dyluniwyd i weithredu'n awtomatig yn ystod cyfnodau o law trwm gan ollwng y dŵr glaw a'r dŵr gwastraff ychwanegol i afonydd neu foroedd. Gan mai dim ond yn ystod tywydd gwlyb y dylai gorlifoedd storm fod yn weithredol, pan fo llif yr afon yn uchel, mae'r dŵr gwastraff o'r 'garthffos gyfun' yn cael ei wanhau.
Ein rôl fel rheoleiddiwr
Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, rydym yn cydnabod y pryder ynghylch nifer y gollyngiadau a’r effaith y gallent fod yn ei chael ar ein hafonydd.
Rydym yn rheoleiddio'r defnydd o orlifoedd storm ac yn diogelu'r amgylchedd trwy roi trwyddedau ar eu cyfer o dan rai amgylchiadau.
Yng Nghymru mae dros 2000 o orlifoedd storm trwyddedig ar y rhwydwaith carthffosydd.
Mae’r trwyddedau ar gyfer gorlifoedd storm yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr sicrhau eu bod yn gollwng dim ond yn ystod glawiad trwm, pan fydd swm y carthion y tu hwnt i gapasiti'r garthffos gyfun oherwydd glawiad a/neu eira tawdd. Mewn rhai achosion, mae trwyddedau hefyd yn mynnu bod y carthion yn cael eu sgrinio cyn eu gollwng er mwyn atal sbwriel carthion fel weips, ffyn gwlân cotwm a nwyddau mislif rhag cyrraedd yr amgylchedd.
Ni oedd y rheoleiddiwr cyntaf i’w gwneud yn ofynnol i’r cwmnïau dŵr gwastraff sy’n gweithredu yng Nghymru osod dyfeisiau monitro ar orlifoedd stormydd i gofnodi gollyngiadau yn sgil stormydd. Gelwir y rhain yn Ddyfeisiau Monitro Digwyddiad a Hyd (EDM). Cwblhawyd y gwaith o osod y dyfeisiau monitro ym mis Mawrth 2020 ac mae gennym bellach ddata i ddangos pa mor aml y mae’r gollyngiadau’n digwydd, ac am ba hyd.
Rydym yn gosod targedau ar gyfer y ddau gwmni dŵr sy’n gweithredu yng Nghymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i leihau nifer yr achosion o lygredd y maent yn eu hachosi, a phob blwyddyn rydym yn cyhoeddi adroddiad ar eu perfformiad.
Darllenwch yr Adroddiadau Asesu Perfformiad Amgylcheddol Blynyddol.
Gollyngiadau yn ystod tywydd sych
Yn anffodus, mae gollyngiadau'n digwydd weithiau mewn tywydd sych. Gall hyn fod oherwydd rhwystrau mewn carthffosydd a gall achosi i ddŵr gwastraff lifo yn ôl a gollwng o orlif storm.
Mae rhwystrau’n cael eu hachosi’n aml pan fydd eitemau cartref yn cael eu fflysio i lawr y toiled neu'n cael eu harllwys i lawr y sinc, megis weips, nwyddau mislif a brasterau ac olew coginio.
Os byddwn yn ymwybodol o ollyngiadau sy'n digwydd yn groes i drwyddedau a roddwyd, gallwn gymryd camau gorfodi. Gall hyn gymryd sawl ffurf, er enghraifft rhybudd, cyhoeddi hysbysiad gorfodi neu erlyniad. Mae cwmnïau dŵr wedi cael eu herlyn yn flaenorol gan CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd am ganiatáu gollyngiadau anawdurdodedig.
Lleihau effeithiau gorlifoedd storm
Ym mis Gorffennaf 2022, cynullodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd , Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru, i fynd i’r afael â’r llygredd a achosir gan orlifoedd storm. Mae'n dod â Llywodraeth Cymru, CNC, Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy ac Ofwat at ei gilydd, gyda chyngor annibynnol gan Afonydd Cymru a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Ar y cyd, mae'r Tasglu wedi datblygu cynlluniau gweithredu i gasglu mwy o dystiolaeth am effaith gorlifoedd storm ar ein hafonydd, er mwyn lleihau'r effeithiau y maent yn eu hachosi, i wella rheoleiddio ac i addysgu'r cyhoedd ar gamddefnyddio carthffosydd.
Gallwch weld y cynlluniau gweithredu ar wefan Llywodraeth Cymru.
Drwy'r Tasglu rydym yn mireinio ein canllawiau rheoleiddio i ddiffinio'n glir yr amodau ar gyfer gweithredu gorlifoedd. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i weithredu pan fydd gennym dystiolaeth o orlif sy'n perfformio'n wael.
Yn ogystal â’i gwneud yn ofynnol i osod sgriniau gwell ar orlifoedd, rydym hefyd yn goruchwylio rhaglen fuddsoddi o £20m gan Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy i leihau ymhellach effaith gorlifoedd storm, gan flaenoriaethu’r rhai sy’n achosi’r mwyaf o ollyngiadau.
Gallwch ddarllen mwy am ein nodau a’n huchelgeisiau i leihau effaith gorlifoedd storm yn ein hadroddiad data blynyddol ar orlifoedd storm.
Gorlifoedd storm heb eu trwyddedu
Rydym wedi rhoi rhaglen ar waith i sicrhau bod yr holl orlifoedd storm heb eu trwyddedu a nodwyd yng Nghymru yn cael eu dwyn o fewn ein fframwaith rheoleiddio. Fel hyn, byddwn yn asesu a oes effaith amgylcheddol o ganlyniad i’r gollyngiadau ac yn gofyn am y buddsoddiad priodol i sicrhau gwelliannau i'r seilwaith gwastraff.
Gall pawb chwarae eu rhan
Gall pawb sydd â chysylltiad i garthffos chwarae eu rhan i leihau gollyngiadau o orlifoedd storm.
Gall fflyshio weips, nwyddau mislif a ffyn cotwm gyfrannu at rwystrau mewn carthffosydd, gan achosi gollyngiadau diangen. Dylid cael gwared ohonynt mewn bin, nid i lawr y toiled. Ni ddylid golchi brasterau, olew na saim i lawr sinciau chwaith gan eu bod yn glynu wrth y tu mewn i bibellau carthffosydd gan achosi lympiau braster sy'n arwain at rwystrau.
Gallwch hefyd edrych i sicrhau bod y pibellau o geginau ac ystafelloedd ymolchi wedi'u cysylltu'n gywir â'r garthffos fudr ac nid y draen dŵr wyneb. Mae gan rai ardaloedd ddraeniau ar wahân, a gelwir eiddo sydd wedi'u plymio'n anghywir yn 'gamgysylltiadau'. Mae hyn yn golygu bod yr holl ddŵr budr o doiledau, sinciau a pheiriannau golchi dillad yn mynd yn syth i mewn i afon neu nant yn hytrach nag i waith trin dŵr gwastraff.
Os gwelwch orlif storm yn gweithredu mewn tywydd sych, gallwch roi gwybod i ni ar ein llinell gymorth digwyddiadau ar 0300 065 3000 24 awr y dydd. Gallwch hefyd roi gwybod amdano ar-lein.