Llygredd dŵr mwyngloddiau metel

Achosion y llygredd
Mae gan Gymru hanes hir o gloddio am fwynau sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd, gyda’r diwydiant yn cyrraedd ei benllanw yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Erbyn y 1920au roedd y rhan fwyaf o’r mwyngloddio wedi dod i ben, ond mae gollyngiadau o weithfeydd tanddaearol a metelau'n trwytholchi o domenni rwbel yn dal i fod yn ffynonellau sylweddol o lygredd dŵr.
Ceir 1,300 o hen fwyngloddiau metel yng Nghymru, ac amcangyfrifir eu bod yn effeithio ar fwy na 200 cilometr o hydau afonydd.
Yr effaith ar ecoleg afonydd
Gall lefelau uchel o fetelau – sinc, plwm a chadmiwm yn bennaf – gael effaith niweidiol ar ecoleg ein hafonydd, gan leihau poblogaethau pysgod ac amrywiaeth y creaduriaid di-asgwrn-cefn.
Hen fwyngloddiau yw’r prif reswm yng Nghymru pam y mae cyrff dŵr yn methu â chyrraedd safonau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Beth ydym yn ei wneud?
Mae Strategaeth Mwyngloddiau Metel Cymru (Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, 2002) wedi nodi 50 o hen fwyngloddiau metel sy’n cael yr effaith fwyaf ar afonydd Cymru, gan eu grwpio’n ôl pa mor hawdd y gellir cwblhau gwaith adfer.
Ers hynny rydym wedi cynnal ymchwiliadau ac astudiaethau achos er mwyn ein helpu i flaenoriaethu ac ymdrin â’r mwyngloddiau sy’n achosi’r llygredd mwyaf, gan gynnwys asesiad o’u heffaith ar fwy na 90 o gyrff dŵr ledled Cymru ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
Hyd yn hyn rydym wedi cwblhau un cynllun adfer mawr ym mwynglawdd Frongoch, a gwaith adfer ar raddfa lai a threialon trin peilot ym mwyngloddiau Mynydd Paris a Chwm Rheidol.
Edrych tua’r dyfodol
Mae gennym raglen asesu barhaus ar waith ledled Cymru, ac rydym yn parhau i bennu atebion arloesol a chwilio am adnoddau ychwanegol er mwyn cyflawni’r rhain ar safleoedd â blaenoriaeth.
Rydym yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo, prifysgolion, awdurdodau lleol, tirfeddianwyr a phobl sy’n ymddiddori mewn mwyngloddio.
Astudiaethu achos
Abbey Consols
Cwm Mawr
Cwm Rheidol
Cwmsymlog
Cwmystwyth
Esgair Mwyn
Frongoch
Level Fawr
Nant y Mwyn
Wemyss