Gwaith adfer ar afon i roi hwb i fywyd gwyllt a rheoli perygl llifogydd wedi’i gwblhau

Mae gwaith i adfer rhan o afon yn Eryri fel ei bod yn llifo'n fwy naturiol ac yn denu mwy o fywyd gwyllt wedi'i gwblhau.

Mae prosiect i adfer rhan o Nant y Gwryd, sy'n llifo i mewn i Lynnau Mymbyr ger Canolfan Awyr Agored Plas y Brenin, wedi ailgysylltu’r afon â'i gorlifdir naturiol a gwella mannau silio ar gyfer pysgod.

Dyma gam diweddaraf prosiect sy’n digwydd ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i wella amgylchedd dalgylch Uwch Conwy – ardal sy'n cwmpasu 336km2, sef tri y cant o Gymru.

Gan gydnabod y rôl hollbwysig a'r angen i fynd i'r afael ar frys â'r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd, mae'r prosiect yn dangos dulliau cost-effeithiol a naturiol o fynd i'r afael â rhai o heriau amgylcheddol mwyaf y DU.

Maent hefyd yn dangos sut y gellir cyflawni mesurau i addasu i newid yn yr hinsawdd a’i liniaru drwy feithrin gwydnwch mewn adnoddau naturiol ac ecosystemau.

Mae gwaith wedi'i gynnal o'r blaen ar lan ogleddol Nant y Gwryd, tra bod y gwaith hwn wedi digwydd ar hyd y lan ddeheuol.

Mae Sarah Aubrey, Uwch Swyddog yr Amgylchedd ar gyfer Conwy, yn gweithio ar ran y ddau sefydliad.
Meddai: "Bydd y gwaith ychwanegol hwn i adfer Nant y Gwryd yn parhau â'r manteision sydd eisoes wedi’u sicrhau ar y lan ogleddol.
"Mae'r rhain yn cynnwys hybu bywyd gwyllt fel pysgodfeydd, pryfed ac adar ac arafu llif yr afon i helpu i leihau'r perygl o lifogydd mewn ardaloedd sy'n is i lawr Dyffryn Conwy.
"Mae gan y rhan hon o Nant y Gwryd lannau serth sy'n atal dŵr rhag cyrraedd y gorlifdir gwreiddiol a bydd y gwaith hwn ar rannau isaf y glannau, yn ogystal â symud clogfeini, yn caniatáu i'r afon ailgysylltu â'r gorlifdir pan fydd briglifoedd.
"Bydd parhau i greu mwy o amrywiaeth strwythurol yn yr afon, gan gynnwys ardaloedd lle gall y dŵr gronni a chrychu, yn wych ar gyfer brithyllod a bydd dyfrgwn yn elwa hefyd."

Bydd y gwaith hefyd yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth o adar fel pibydd y dorlan a glas y dorlan.

Mae cydweithio agos gyda'r ffermwyr lleol wedi bod yn sylfaen i’r prosiect hwn, sy’n golygu bod manteision o ran ffermio cynaliadwy yn datblygu fel rhan o'r gwaith.

Bydd rhywfaint o waith ffensio yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn y flwyddyn i atal gwartheg a defaid rhag mynd i mewn i'r afon, gan arwain at welliant o ran ansawdd dŵr.

Bydd gwrychoedd a choed hefyd yn cael eu plannu i arafu llif dros y tir, helpu i hidlo dŵr a sefydlogi glannau'r afon, yn ogystal â chreu coridorau bywyd gwyllt i gysylltu cynefinoedd ynysig.

Ychwanegodd Sarah: "Gall natur ddarparu atebion pwysig ar gyfer newid yn yr hinsawdd a helpu i gyflawni gwelliannau amgylcheddol er budd cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.
"Dim ond un enghraifft o'r gwaith y mae CNC yn ei wneud at y diben hwnnw yw’r prosiect hwn. Gyda chymorth amhrisiadwy'r gymuned leol, rydym yn gallu gofalu am amgylchedd dalgylch Uwch Conwy drwy ddod o hyd i atebion cynaliadwy sy'n esgor ar lu o fanteision ar gyfer pobl a bywyd gwyllt."

Gallwch ddysgu mwy am Brosiect Dalgylch Uwch Conwy a Rhaglen Riverlands yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.