Cynllunio ar y gweill ar gyfer prosiect cwympo coed yng Ngwynedd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynllunio gwaith i gwympo a chael gwared o goed o ddau floc o goedwig ar hyd yr A494.

Mae'r coed, rhwng y Bala a Dolgellau, ger pentref Rhydymain, wedi cael eu heintio â Phytophthora Ramorum, sef clefyd y llarwydd.

Cyhoeddwyd Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) sy'n ei gwneud yn ofynnol i CNC weithredu o fewn cyfnod penodol o amser i reoli'r clefyd, a all ledaenu'n gyflym drwy goetir neu goedwig, gan ladd coed.

Rhaid cwympo'r coed cyn iddynt ddod yn ansefydlog, a bydd angen cwympo rhai o’r conwydd yn yr ardal hefyd oherwydd rhesymau diogelwch.

Bydd y gwaith hwn a fydd, yn ôl y disgwyl, yn dechrau yn haf 2023 ac yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2026, yn cael gwared ar y perygl o goed yn syrthio ar ffordd A494 yn y dyfodol.

Mae CNC eisoes yn gweithio gyda phartneriaid i gael pob caniatâd angenrheidiol er mwyn gallu ymgymryd â’r gwaith.

Meddai Martin Cox, Pennaeth Gweithrediadau'r Gogledd-orllewin, CNC:

“Mae Prosiect Clefyd Llarwydd y Bala yn cael ei gynnal i gael gwared o goed llarwydd heintiedig yn yr ardal.
"Ar hyn o bryd rydym yng ngham cynllunio’r prosiect ac yn gweithio i sicrhau bod gwaith peirianneg a chynaeafu yn cael ei gynllunio a’i gyflawni’n ddiogel, gan amharu cyn lleied â phosib ar yr ardal.
"Oherwydd y lleoliad, bydd y prosiect hwn yn un cymhleth ac yn ystod y gwaith gallai coed a malurion ddisgyn i’r ffordd.
"Felly bydd angen trefnu cyfnodau o reoli traffig i sicrhau diogelwch contractwyr a'r cyhoedd ac rydym yn gweithio gydag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i darfu cyn lleied â phosib ar y ffordd."

Unwaith y bydd y gwaith cynaeafu wedi'i gwblhau byddwn yn ailblannu coed llydanddail brodorol yn yr ardal.

Bydd y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol yn cael diweddariad am y prosiect hwn wrth iddo fynd yn ei flaen.