Rhannwch eich adborth am drwyddedau adar gwyllt CNC

Bran

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd pobl i ddweud eu dweud am ddyfodol trwyddedau ar gyfer rheoli adar gwyllt.

Mae pob aderyn gwyllt wedi’i warchod gan y gyfraith. Fodd bynnag, mae amgylchiadau penodol pan fydd CNC yn rhoi caniatâd ar gyfer rheoli adar gwyllt os yw dulliau nad ydynt yn angheuol wedi methu, er enghraifft pan fo angen gwarchod iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd, atal niwed difrifol i gnydau, da byw neu bysgodfeydd, neu warchod rhywogaethau bywyd gwyllt eraill.

Mae'r ymgynghoriad yn rhan o broses adolygu CNC, sy’n edrych ar y gwahanol fathau o ganiatâd y mae'n ei gynnig er mwyn rheoli adar gwyllt, a'r prosesau a ddefnyddir i gyflawni'r gweithgareddau hyn. 

Mae CNC yn annog pawb sydd â buddiant i roi barn am y cynigion fel rhan o ymgynghoriad 12 wythnos ar-lein.

Dywedodd Nadia De Longhi, Pennaeth Rheoleiddio a Thrwyddedu CNC:

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu system drwyddedu sy'n effeithiol, yn ymarferol ac yn gymesur i ddefnyddwyr, tra byddwn hefyd yn sicrhau’r amddiffyniad sydd ei angen ar adar.
Mae’r ymgynghoriad 12 wythnos ar-lein hwn yn rhan allweddol o'n hadolygiad wrth inni geisio gwella ein ffordd o weithio. Bydd yn helpu i lunio ein dull o roi caniatâd yn y dyfodol ar gyfer saethu a dal adar gwyllt yng Nghymru ac ar gyfer dinistrio’u hwyau a'u nythod.
Hoffem glywed eich barn am ein cynigion – rydym yn eich annog i ddweud eich dweud.

Mae'r ymgynghoriad ar-lein ar agor tan 11 Tachwedd ac mae ar gael i'w weld yma:

Ymgynghoriad ar ymagwedd CNC i reoleiddio saethu a dal adar gwyllt yng Nghymru - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)