Galw am welliannau ym mherfformiad cwmnïau dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar gwmnïau dŵr i dorchi llewys a gweithredu ar ôl i'w adroddiadau perfformiad amgylcheddol blynyddol ar gyfer cwmnïau dŵr dynnu sylw at gynnydd o ran digwyddiadau llygredd a gostyngiad o ran cydymffurfiaeth â thrwyddedau amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau carthffosiaeth.

Mae'r dirywiad ym mherfformiad Dŵr Cymru wedi arwain at ostwng sgôr y cwmni o statws cwmni pedair seren (cwmni sy'n arwain y diwydiant) y llynedd i gwmni tair seren (cwmni da) o dan fetrigau Asesu Perfformiad Amgylcheddol 2021.

Mae'r adroddiad yn datgelu bod 83 o achosion o lygredd oedd yn gysylltiedig â charthffosiaeth wedi'u hachosi gan asedau Dŵr Cymru y llynedd, o gymharu â 77 y flwyddyn flaenorol. Cafodd dau o'r achosion llygredd hyn eu categoreiddio fel rhai a gafodd effaith amgylcheddol ddifrifol (Uchel). Cafwyd un digwyddiad difrifol (Uchel) hefyd a oedd yn deillio o ased cyflenwi dŵr. Mae hefyd yn dangos bod cydymffurfiaeth rifol yn erbyn gollyngiadau a ganiateir wedi gostwng o 99.7% i 98.3% a gostyngodd achosion o hunanadrodd am ddigwyddiadau o 80% i 76%.

Cododd nifer cyffredinol y digwyddiadau llygredd o chwech i wyth ar gyfer Hafren Dyfrdwy; ni adroddodd y cwmni am unrhyw achos o lygredd difrifol. Roedd gan Hafren Dyfrdwy hefyd ostyngiad o ran cydymffurfiaeth rifol mewn gollyngiadau a ganiateir o 100% i 97.9% a gostyngodd achosion o hunanadrodd am ddigwyddiadau o 100% i 75%.

Amlinellir disgwyliadau ar gyfer gwelliannau yn y ddau adroddiad, gan gynnwys targedau i leihau nifer yr achosion o lygredd o flwyddyn i flwyddyn, gan anelu at sero.

Meddai Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu CNC:

"Mae gan gwmnïau dŵr gyfrifoldeb dros yr amgylchedd, yn ogystal â'u cwsmeriaid, ac mae'n rhaid iddynt gymryd y digwyddiadau hyn – a'r effaith maen nhw’n ei chael ar ansawdd ein dŵr – o ddifrif.
"Dros nifer o flynyddoedd mae cwmnïau dŵr yng Nghymru wedi buddsoddi'n sylweddol ac wedi gwella eu perfformiad amgylcheddol felly rydym yn herio eu perfformiad diweddar ac yn gofyn iddynt osod y safon ar gyfer y sector dŵr drwy ennill statws sy’n dynodi eu bod yn arwain y diwydiant, gan hefyd ddangos arweiniad wrth ymateb i'r argyfyngau o ran bioamrywiaeth a’r hinsawdd.
"Mae'r dirywiad o ran perfformiad amgylcheddol yn siomedig ac rydym yn disgwyl iddynt ymateb yn gadarnhaol gan ymdrechu o'r newydd a bwrw ymlaen â gwelliannau.
"Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddwyd ein map trywydd ar gyfer gorlifoedd stormydd, mewn cydweithrediad â'r sector dŵr a Llywodraeth Cymru, sy'n amlinellu cynllun gweithredu o ymrwymiadau gan y sefydliadau perthnasol i leihau effaith gorlifoedd stormydd ar ein hafonydd yng Nghymru.
"Mae hyn yn rhan o nifer o fentrau ar draws sectorau eraill gan gynnwys defnydd tir gwledig a diwydiant, i fynd i'r afael â'r bygythiadau niferus sy'n wynebu ein hafonydd. Mae gwella ansawdd dŵr yn y tymor hir yn gofyn am ymdrech ar y cyd gan bawb yn y sector, gan weithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion ar lefel dalgylchoedd i gyfrannu at afonydd iach."

Mae'r adroddiadau llawn ar gael i'w darllen ar wefan CNC

Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer Hafren Dyfrdwy (naturalresources.wales)

Cyfoeth Naturiol Cymru / Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer Dŵr Cymru (Welsh Water) (naturalresources.wales)