Cais am newid trwydded cyfleuster gwastraff pren y Barri

Delwedd gyda thestun i gyhoeddi dechrau'r ymgynghoriad

Mae cwmni o'r Barri wedi gwneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei drwydded amgylcheddol i gynyddu'r swm a'r math o wastraff y gall ei drin a'i storio.

Mae gan JM Envirofuels (Barry) Ltd, ar Ffordd Wimborne, Dociau’r Barri, drwydded ar hyn o bryd sy’n caniatáu iddynt drin a storio gwastraff pren, sy’n cael ei werthu a’i ddefnyddio fel tanwydd mewn cyfleusterau ynni o wastraff.

Maent nawr yn cynnig derbyn mathau eraill o wastraff nad yw'n beryglus o gartrefi, busnesau, a diwydiannau – gan gynnwys metal, gwydr a phlastrfwrdd – a fyddai’n cael eu crynhoi cyn eu trosglwyddo i leoliadau eraill.

Maent hefyd wedi gwneud cais i dderbyn a storio lludw a gynhyrchir gan ynni o gyfleusterau gwastraff, fel cyfleuster Biomas y Barri. Byddai’r lludw’n cael ei gasglu o waelod y ffwrnes yn dilyn y broses o gynhesu tanwydd pren.

Byddai’r newid arfaethedig yn cynyddu faint o wastraff mae’r safle’n cael ei drin a’i storio bob blwyddyn, faint o wastraff mae’n cael ei storio ar un tro, a pha mor hir y gellir storio gwastraff ar y safle.

Wrth i CNC ddechrau asesu cynigion y cwmni, mae’n lansio ymgynghoriad chwe wythnos ar ddydd Llun 16 Rhagfyr 2019 gyda phobl leol, busnesau, ac arbenigwyr eraill gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd hyn yn gyfle i fynegi unrhyw bryderon neu roi gwybod i CNC am unrhyw wybodaeth bwysig y dylent fod yn ymwybodol ohono wrth asesu’r cais.

Cynhelir sesiwn galw heibio i'r cyhoedd ddydd Iau, 9 Ionawr 2020, 1:30 - 7:30yh, yng Nghanolfan Gymunedol Castleland, y Barri, ble gall pobl gael mwy o wybodaeth am gynlluniau’r cwmni a’r broses drwyddedu.

Dywedodd Caroline Drayton, Rheolwr Gweithrediadau CNC:

“Mae’r hyn y mae’r cwmni’n cynnig ei wneud yn wahanol iawn i’r hyn y mae ganddo drwydded i’w wneud ar hyn o bryd. Ein gwaith ni yn awr yw archwilio’r cais yn ofalus i weld os yw’r mesurau a’r cynlluniau cywir mewn lle ganddynt er mwyn ei weithredu’n ddiogel.
“Yn ogystal â’r cyngor rydyn ni’n ei dderbyn gan sefydliadau arbenigol eraill, mae gwybodaeth leol hefyd yn werthfawr iawn i ni. Bydd pob sylw byddwn ni’n ei dderbyn fel rhan o’n hymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth i ni wneud ein penderfyniad.
“Dim ond os ydym yn hyderus y gall y cwmni ei gweithredu mewn ffordd na fyddai’n achosi niwed i gymunedau cyfagos neu’r amgylchedd y byddwn ni’n newid ei drwydded.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 9 Chwefror 2020.

Mae copïau electronig o’r cais ar gael ar gofrestr gyhoeddus CNC. Mae copi caled hefyd ar gael wrth wneud cais i’r cyfeiriad post neu e-bost isod.

Bydd angen i’r holl sylwadau gael eu derbyn yn ysgrifenedig erbyn 9 Chwefror 2020 i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk neu:

Arweinydd Tîm Trwyddedu (Gwastraff), Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Trwyddedu (Caerdydd), Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein.