Dwy ysgol yn ennill Gwobr y Fesen Aur yn dilyn ymgyrch Miri Mes eleni

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Fesen Aur eleni yn dilyn ymgyrch flynyddol Miri Mes a gynhaliwyd dros yr hydref.

Mae Ysgol Maesglas, Sir y Fflint, ac Ysgol Calon y Dderwen, Powys, wedi ennill Gwobr y Fesen Aur ac wedi cael gwobr o £150 ar ben gwerth y mes a gasglwyd ganddynt. Rhyngddynt, fe gasglon nhw dros 60kg o fes gyda chyfanswm gwerth o £296.56.

Casglwyd cyfanswm o 825.13kg o 40 lleoliad ledled Cymru yn ystod ymgyrch 2022. Cynhyrchodd hyn £3,442.15 ar gyfer y grwpiau addysg wnaeth torchi eu llewys, mentro i’r awyr iach a chwilio hyd a lled y tir am fes.

Bydd y mes a gasglwyd yn galluogi CNC i dyfu coed brodorol o hadau coed lleol iach a meithrin cysylltiad rhwng y casglwyr ifanc ac amgylchedd naturiol Cymru.

Meddai Aled Hopkin, Cynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

"Rydyn ni’n falch o ddylanwad parhaus ymgyrch Miri Mes ledled Cymru ac rydym yn gwerthfawrogi cyfranogiad pob grŵp wrth i ni geisio helpu ein hamgylchedd naturiol.
"Aeth grwpiau addysg o bob cwr o Gymru ati i gasglu o gaeau ysgolion, parciau, ffermydd, tir neuaddau pentref ac ystadau tai.
"Fe gafodd y feithrinfa goed drafferth dewis rhwng Ysgol Maesglas ac Ysgol Calon y Dderwen, felly doedd dim amdani ond rhoi Gwobr y Fesen Aur i’r ddau leoliad am gasglu'r mes o’r ansawdd gorau.
"Rydyn ni am ddiolch o galon i bawb a gymerodd ran wrth i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i sicrhau y bydd digon o dderw Cymreig i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau."

Mae cynyddu’r canopi coed ledled Cymru yn rhan hanfodol o'r ymdrech i fynd i'r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur ac i helpu i gyflawni nodau carbon sero net y genedl.

Trwy gyflwyno rhaglenni fel Miri Mes, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n chwarae rôl allweddol yn yr ymdrech i gyflawni'r uchelgais hon.