Diweddariad: Miloedd o bysgod marw yn nigwyddiad llygredd Afon Dulas

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gadarnhau fod mwy na 2,000 o bysgod wedi eu lladd o ganlyniad i ddigwyddiad llygredd yng Ngorllewin Cymru.

Mae swyddogion wedi bod ar y safle yn cymryd samplau ac yn cynnal arolygon pysgod ers iddynt gael gwybod am y digwyddiad ar Afon Dulas ger Capel Isaac yn Sir Gaerfyrddin ddydd Llun (8 Gorffennaf).

Amcangyfrifir fod hyn wedi effeithio ar ddarn tair milltir (4.7 cilomedr) o’r afon gan effeithio’n sylweddol ar infertebratau yn ogystal â physgod - yn bennaf brithyllod ond hefyd pennau lletwad, llysywod, llysywod pendoll, gwrachod barfog, pilcod ac eogiaid.

Meddai Ioan Williams, Arweinydd Tîm Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:

“Mae diogelu dyfrffyrdd Cymru a'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n dibynnu arnynt yn rhan enfawr o'n gwaith, a dyna pam y gall pobl roi gwybod inni am achosion o lygredd 24/7.
"Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod nifer sylweddol o bysgod wedi cael eu lladd ac y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar yr afon am flynyddoedd i ddod. 
"Gallwn hefyd gadarnhau fod hyn wedi cael effaith sylweddol ar infertebratau yn yr afon.
"Mae ein staff wedi bod yn gweithio'n ddiflino yn casglu tystiolaeth am y digwyddiad hwn a byddwn yn defnyddio'r dystiolaeth honno wrth ystyried cymryd camau cyfreithiol yn y dyfodol.
 “Ni ddylai achosion o’r fath ddigwydd o gwbl. 
"Rydym yn gweithio'n agos iawn â'r diwydiant ffermio i wneud yn siŵr ei fod yn deall difrod hirdymor llygredd a’r effaith ddinistriol y mae’n ei gael a pha gamau y gall eu cymryd i'w atal rhag digwydd.
"Mae'n gwbl annerbyniol ac anghyfrifol fod nifer fach o ffermwyr yn peidio â chymryd sylw o arfer da a rheoliadau a thrwy hynny’n rhoi enw drwg i weddill y diwydiant. 
"Mae'r digwyddiadau hyn yn dod ar adeg pan fo lefel stociau eogiaid a sewin eisoes yn isel iawn. 
"Rydym yn annog fod y sector amaethyddol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal rhagor o achosion o lygredd ac i sicrhau eu bod yn buddsoddi mewn seilwaith slyri addas ar y fferm ac yn dilyn arferion da. Byddem hefyd yn annog ffermwyr i roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw broblemau."

Mae CNC yn annog pobl i roi gwybod am arwyddion o lygredd drwy gysylltu â 0300 065 3000 fel y gall ymateb yn briodol a rhoi'r amddiffyniad haeddiannol i afonydd Cymru.