Fandaliaeth ddifrifol ger y Trallwng yn bygwth cymunedau sy'n mewn perygl o lifogydd ar hyd Afon Hafren

Mae cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ar hyd Afon Hafren wedi cael eu rhoi mewn perygl yn ddiweddar ar ôl i offer sy'n anfon gwybodaeth ar lefel afonydd i system rhybuddio llifogydd gael ei fandaleiddio ger Y Trallwng.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhedeg rhwydwaith o safleoedd ar draws Cymru sy'n casglu darlleniadau o lefel afonydd a môr mewn amser real. Defnyddir y wybodaeth hon i sbarduno rhybuddion llifogydd lleol pan fydd lefel yr afon neu'r môr yn mynd yn rhy uchel.

Cafodd offer hanfodol eu difrodi ar dri safle ger y Trallwng ar achlysuron gwahanol dros y ddau fis diwethaf. O ganlyniad, doedd gan CNC ddim gwybodaeth am lefelau afonydd yn y safleoedd hynny nes y gwnaed gwaith atgyweirio.

Meddai Tim Owen, Arweinydd Tîm Hydrometreg a Thelemetreg CNC :
"Mae'r fandaliaeth yma wedi'n syfrdanu'n fawr. Mae natur y fandaliaeth yn awgrymu bod y person neu’r rhai sy’n gyfrifol yn gwybod pa ran o'r offer i'w dargedu. Nid yw hyn yn edrych fel fandaliaeth ddifeddwl.
"Maen nhw hefyd yn rhoi eu hunain mewn perygl drwy fynd at offer ar lan yr afon, yn aml dan orchudd y tywyllwch.
"Mae pobl sydd wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd am ddim yn dibynnu ar y wybodaeth rydym yn ei gasglu ar lefelau afonydd i roi gwybod iddyn nhw os oes angen iddyn nhw weithredu i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a'u heiddo. Mae gan y fandaliaeth yma'r potensial i beryglu bywydau.
"Fe wnaethom drwsio'r difrod ar frys cyn gynted i ni sylwi arno i sicrhau bod y system rhybuddio llifogydd yn gweithio fel y disgwyl yr adeg hon o'r flwyddyn."

Mae’r digwyddiadau wedi eu hadrodd i Heddlu Dyfed Powys. Mae CNC hefyd mewn cysylltiad â Swyddogion Troseddau Gwledig yr ardal i ymchwilio ymhellach.

Cadarnhaodd CNC nad oedd lefelau’r afonydd yn ddigon uchel i fod yn beryglus i gymunedau pan gafodd offer ei fandaleiddio, ond bu rhaid eu trwsio ar frys er mwyn osgoi risg ychwanegol i gymunedau.

Mae CNC yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol fel rhan o ymchwiliadau i gysylltu â Tim Owen trwy anfon e-bost at timothy.owen@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu Heddlu Dyfed-Powys naill ai ar-lein: https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy e-bostio 101@dyfed-powys.police.uk, neu trwy ffonio 101.

Os ydych chi'n fyddar, yn drwm eich clyw, neu gyda nam lleferydd, anfonwch neges destun yn rhif argyfwng Heddlu Dyfed Powys ar 07811 311 908.

Fel arall, cysylltwch â'r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu ymweld â crimestoppers-uk.org.