Gwella ansawdd dŵr afon yn Sir Ddinbych i roi hwb i fioamrywiaeth

Mae gwaith pwysig wedi’i gwblhau i helpu i wella ansawdd y dŵr ac i annog bioamrywiaeth yn nant Dŵr Iâl, sy’n llifo i mewn i Afon Clwyd yn Sir Ddinbych.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda pherchnogion tir lleol i atal mynediad da byw i Ddŵr Iâl. Os caiff da byw fynediad agored i’r llednant, mae perygl y bydd yn siltio’n ormodol, a gall hynny effeithio’n negyddol ar oroesiad wyau pysgod.

Mae ffensys newydd dros 1km o hyd wedi’u gosod i rwystro’r da byw, ac mae man yfed newydd wedi’i greu hefyd drwy dynnu dŵr o ffynnon dan y ddaear gan ddefnyddio pwmp solar.

Meddai Richard Pierce, Uwch Swyddog Pysgodfeydd CNC:

“Bydd y gwaith pwysig a wnaed gan Swyddogion CNC, mewn partneriaeth â’r perchnogion tir lleol, yn helpu i leihau faint o waddod annaturiol sy’n cael ei ryddhau i’n cyrsiau dŵr ac yn gwella poblogaethau pysgod yn y dyfodol.
“Roedd lefelau cymharol uchel o silt yn y dŵr yn nant Dŵr Iâl dros y blynyddoedd, felly rydym yn gobeithio y bydd y gwaith a wnaed yn ddiweddar yn helpu i roi hwb i niferoedd Eogiaid, Brithyll a Siwin ar hyd Dŵr Iâl ac afon Clwyd.
“Byddwn yn parhau i fonitro effaith y gwaith ar boblogaethau pysgod dros y blynyddoedd nesaf drwy gyfrwng arolygon pysgota trydanol a byddwn yn rhannu’n canlyniadau gyda chymunedau lleol wrth iddynt ddod i’r amlwg.”

Yn gynharach yn yr haf, cyhoeddodd CNC Gynlluniau Rheoli Basn Afon newydd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Dyfrdwy. I’w ddiweddaru bob chwe blynedd, mae rhain yn gosod y cyfeiriad ar gyfer rheolaeth dŵr, gan helpu i warchod a gwella’r amgylchedd dŵr yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth am Bysgodfeydd CNC.