Rhowch wybod am achosion o botshio i helpu poblogaethau eogiaid a brithyllod y môr

Wrth i ffigurau poblogaethau o eogiaid a brithyllod gyrraedd lefelau difrifol o isel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog y cyhoedd i fod yn ymwybodol o weithgareddau potsio anghyfreithlon ar afonydd Cymru dros y misoedd nesaf, ac i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau neu wybodaeth sydd ganddynt i'w dîm digwyddiadau.

Gall potsio anghyfreithlon gael effaith ddinistriol ar boblogaethau pysgod lleol, gyda'r niferoedd o dan fygythiad arbennig yn ystod tymor silio eogiaid a brithyllod, sydd fel arfer yn digwydd o tua mis Tachwedd i fis Ionawr.

Daw galwad CNC am gefnogaeth gan y cyhoedd yn y flwyddyn wnaeth Cymru gofnodi'r nifer isaf o ddalfeydd ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yn 2021 - yr isaf ers dechrau cadw cofnodion cyson yn 1970au.

Mae eogiaid a brithyllod y môr (siwin) yn rhywogaethau eiconig yng Nghymru, sydd angen cynefinoedd dŵr croyw o safon uchel i ffynnu ac maent yn ddangosydd allweddol o ansawdd amgylcheddol dalgylchoedd afonydd a hefyd yn cynnig cyfleoedd pwysig ar gyfer hamdden iach a gwerthfawr.

Gyda'r tymor silio bellach wedi cychwyn, mae CNC yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw wybodaeth a allai fod ganddynt ar botsio anghyfreithlon i'w dîm digwyddiadau.

Meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC yn y Gogledd Ddwyrain:

"Rydym yn cymryd pob adroddiad o weithgaredd anghyfreithlon sy'n bygwth poblogaethau eogiaid a brithyllod y môr o ddifri.
"Gall adroddiadau am botsio oddi wrth y cyhoedd fod o gymorth enfawr i helpu i sefydlogi poblogaethau pysgod lleol a rhoi gwybodaeth hanfodol i Swyddogion Gorfodi CNC i roi stop ar weithgarwch anghyfreithlon o'r fath.
"Yr adeg yma o'r flwyddyn, cadwch lygad am unrhyw rwydi mewn afonydd, arwyddion o botsio fel glannau sydd ag arwyddion o darfu, pysgod marw neu rwydi cudd. Mae hefyd yn bwysig iawn rhoi gwybod am unrhyw achosion a welir o bysgota â lampau ar hyd rhannau uchaf afonydd.
"Cofiwch hefyd fod yn ymwybodol o unrhyw gynnwys amheus ar-lein lle mae unigolion yn gwerthu eogiaid a brithyllod y môr neu’n rhannu delweddau drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
"Rydyn ni'n galw ar y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw weithgaredd amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, ein llynnoedd a'n cronfeydd dŵr, drwy roi gwybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 neu Crimestoppers ar 0800 555 111."

Mwy o wybodaeth ar bysgota yng Nghymru.