Adnoddau addysg y gors ar gael am y tro cyntaf erioed

Cyforgors Cors Fochno ger Borth, Aberystwyth gan Drew Buckley

Wrth i'r byd baratoi i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Gors (26 Gorffennaf 2020) mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn nodi'r achlysur trwy ddod â disgleirdeb corsydd i gynulleidfa ar-lein gyda lansiad ei Adnoddau Addysg Mawndir newydd sbon.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Gors yn dathlu pa mor anhygoel yw corsydd ac yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o fawndiroedd - y buddion maen nhw'n eu darparu, y bygythiadau maen nhw'n eu hwynebu a'r ffyrdd y gallwn ni i gyd helpu i'w hamddiffyn.

Adnodd Addysg Mawndir fydd y cyntaf erioed i gael ei greu gan CNC ar y cyd efo Phrosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, prosiect gwerth £4 miliwn a ariennir gan yr UE a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr adnoddau'n cynnig cynlluniau gweithgaredd a chardiau adnoddau sy'n tynnu sylw at 'Pam mae corsydd yn bwysig', gêmau ryngweithiol o'r enw ' I gors ai peidio i gors’ a ‘Mae mawn yn anhygoel,’ i gyd yn esbonio'r buddion niferus y mae mawndiroedd yn eu darparu i bobl a'r amgylchedd.

Hefyd, yn ystod y diwrnod fe fydd fideo ar gael i wylio o daith gerdded o amgylch Cors Fochno, ac am 2yp fe fydd digwyddiad Facebook Live lle byddwch chi'n gallu dysgu mwy am y prosiect a holi’r staff am eu gwaith. Ewch i'n tudalen Facebook i ddarganfod mwy.

Dywedodd Jack Simpson, Swyddog Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE:

“Rydym yn gyffrous iawn ein bod yn rhannu’r adnoddau hyn gydag addysgwyr yng Nghymru ac yn gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn ysbrydoli mwy o athrawon a dysgwyr i fynd allan ar eu cors leol a dysgu mwy am y cynefinoedd pwysig hyn.”
Mae mawndiroedd ymhlith cynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ’a bydd eu hadfer yn ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn helpu athrawon i gyflawni yn erbyn y cwricwlwm cyfredol a bydd yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar pwrpas Cwricwlwm Cymru.

Dywedodd Ffion Hughes sy’n gweithio yn y Tîm Iechyd, Addysg ac Adnoddau Naturiol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn helpu dysgwyr i ddeall strwythur a natur mawndiroedd, gan arwain at well technegau rheoli a gwarchod y cynefin hwn sy’n dirywio a storfa garbon bwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. "

Darganfyddwch yr Adnoddau Addysg Mawndir nawr.