Cyfoeth Naturiol Cymru yn cau canolfannau ymwelwyr yn ystod yr achosion o’r coronafeirws

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cau pob un o'i ganolfannau ymwelwyr a'i gaffis i helpu i ohirio lledaeniad y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r rhain wedi’u cau o ddydd Mercher 18 Mawrth a bydd y canolfannau ymwelwyr ar gau nes i ganllawiau llywodraethol gadarnhau ei bod yn ddiogel eu hailagor.

Mae llwybrau mewn coetiroedd, coedwigoedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn parhau i fod ar agor, yn unol â'r canllawiau presennol.

I gefnogi cymunedau a busnesau lleol, ni chodir tâl am barcio yn unrhyw un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru am y tro.

Bydd toiledau y tu allan yn aros ar agor ond nid toiledau dan do na’r cawodydd.

Mae rhai gwasanaethau a ddarperir gan drydydd partïon, gan gynnwys siop fanwerthu a llogi beiciau Beics Brenin yng nghanolfan ymwelwyr Coed y Brenin, a'r caffi yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant, yn dal ar agor.

Mae gwybodaeth am ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i’r coronafeirws ar gael ar wefan CNC. Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi yno. 

Dywedodd Claire Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae cau ein holl gyfleusterau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn fesur pwysig rydym wedi'i gymryd i helpu i ohirio lledaeniad y coronafeirws.
"Rwy'n siŵr y bydd ymwelwyr yn deall y camau hyn, sy’n anelu at helpu i gadw pawb yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
"Byddwn yn annog pobl i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau pellach i'n hymateb drwy ein tudalen we bwrpasol ynglŷn â’r coronafeirws."

Dyma’r canolfannau ymwelwyr yr effeithir arnynt:

  • Mae Canolfan Ymwelwyr a chaffi Coed y Brenin ar gau, ond bydd siop fanwerthu a llogi beiciau Beics Brenin yn aros ar agor.
  • Mae Canolfan Ymwelwyr a chaffi Bwlch Nant yr Arian wedi cau. Bydd y barcutiaid yn dal i gael eu bwydo bob dydd.
  • Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant ar gau, ond mae'r caffi'n cael ei redeg yn annibynnol ac mae ar agor fel arfer.

Mae rhai sefydliadau’n cynnal digwyddiadau yn safleoedd CNC. Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad yn uniongyrchol i gael gwybod am unrhyw newidiadau i ddigwyddiad yr ydych yn ei fynychu.