Y Tîm Coedwigaeth yn gosod y safon aur

Mae gan dîm Gweithrediadau Coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru achos i ddathlu ar ôl iddyn nhw ennill gwobr uchel ei bri yn Sioe Frenhinol Cymru.

Enillodd y tîm y Fedal Aur yn y categori Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith (LISS), gan gystadlu’n llwyddiannus yn erbyn coetiroedd o bob cwr o Gymru.

Medd Jonathan Singleton, arolygydd coedwigoedd:

“Y llynedd, fe roddais enw Coedwig Ty’n y Coed ger Llantrisant – sef coedwig yr ydym yn ei rheoli ar ran Llywodraeth Cymru – yn y categori LISS ar gyfer De Cymru, ac fe wnaethon ni ennill y Fedal Aur. Roedd hyn yn ein gwneud yn gymwys i gystadlu am y wobr genedlaethol yn y sioe eleni.
“Mae cael ein cydnabod fel y coetir LISS a reolir yn y ffordd orau trwy Gymru yn gamp eithriadol, ac mae’n cydnabod y gwaith caled y mae ein tîm rhanbarthol ymroddedig yng Nghanol De Cymru wedi’i wneud yn ystod y tair blynedd diwethaf.”

Yn ogystal â Jonathan, roedd y tîm yn cynnwys Rosalind Watkins (Rheolwr Cadwraeth), Andrew Shinton (Cynllunydd Coedwigoedd), Claudia MacDonald-Robins (Cynllunydd Coedwigoedd Rhanbarthol), Gareth Roberts (Rheolwr Ardal Lleol) a Mike James (Rheolwr Ardal Lleol).

Coetir cymysg 56 hectar (ha) o faint yw Ty’n y Coed. Mae’n cynnwys 32ha o gonwydd, sef sbriws Norwy yn bennaf a blannwyd yn niwedd y 1960au, a 24ha o goed llydanddail sy’n cynnwys gweddillion coetir ffawydd a derw hynafol mwy.

Mae’r coedydd yng nghanol hen ardal lofaol, ac ychwanegodd hyn at yr heriau a oedd yn wynebu’r tîm.

Roedd yr etifeddiaeth ddiwydiannol, ynghyd â’r angen i gwympo’n fanwl gywir er mwyn osgoi niweidio’r coed llydanddail oddi amgylch wrth deneuo’r conwydd, yn gofyn am ddulliau cwympo bach eu heffaith, ac o’r herwydd nid oedd peiriannau trwm yn addas. Felly, defnyddiwyd ceffylau i lusgo’r coed o’r goedwig.

Defnyddiwyd pedwar o dimau â cheffylau i gyd, sef Rowan Working Horses o Drefynwy, Dorset Horse Logging, Dartmoor Horse Loggers a Richard Branscombe o Fryste.

Hon oedd yr ymgyrch fwyaf yn y DU ers sawl blwyddyn i ddefnyddio ceffylau yn y fath fodd, ac fe ddenodd sylw Brenhinol pan ofynnodd Ei Fawrhydi Brenhinol y Tywysog Siarl am gael ymweld â’r safle i weld y gwaith yn cael ei wneud.

Defnyddiodd y Tywysog ei ymweliad i gyflwyno gwobr “Coediwr Ceffylau’r Flwyddyn” i Rowan Working Horses.

Er gwaethaf yr anrhydeddau, nid yw Jonathan a’r tîm yn pwyso ar eu rhwyfau, ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer cam nesaf y gwaith teneuo.

Medd Jonathan:

“Eisoes, rydym yn gweld canlyniadau cadarnhaol ers i’r gwaith gychwyn yn 2016.
“Yn yr ardal gyntaf y buom yn gweithio arni yn 2016/17, mae’r coed derw hynafol yr oedd y sbriws Norwy yn goruchafu arnyn nhw wedi ymateb yn dda iawn.
“Mae digonedd o aildyfiant yn egino ar nifer o’r canghennau isaf a oedd mewn cyflwr gwael, ac mae tyfiant da i’w weld yn y canopi. Ac er ei bod yn rhy gynnar gweld beth fydd yr adffurfiant, rydym yn gobeithio cael llwyddiant yn hynny o beth hefyd.”