Achub pysgod cyn gwaith ar amddiffynfa lifogydd

Mae tua 150 o bysgod wedi cael eu hachub a’u hadleoli mewn afon yng Ngwynedd.

Bu staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adleoli 82 o silod (brithyll), 16 gleisiad (brithyll),  4 o silod (eog), 4 gleisiad (eog), 10 llysywen a 33 o bilcod o ran o Afon Goch o fewn pentref Llanberis.

Mae Afon Goch, sy’n llifo i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llyn Padarn, yn gynefin afon pwysig ar gyfer eogiaid sy’n silio ac eogiaid ifanc.

Gofynnodd Cyngor Gwynedd i CNC ymgymryd â’r gwaith o achub y pysgod cyn cynnal gwaith gwaredu graean o’r afon, gan adleoli’r pysgod i lawr yr afon o’r ardal dan sylw.

Mae graean yn cael ei olchi i lawr i’r afon o’r mynyddoedd ac os na cheir gwared ohono, gall achosi rhwystr yn sianel yr afon ac arwain at lifogydd.

Meddai Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC:

“Rydym yn gweithio ledled Cymru i ddiogelu stociau pysgod a phe na fydden ni wedi achub y pysgod hyn, bydden ni wedi eu colli. Defnyddiodd swyddogion dechnegau electro-bysgota er mwyn dal a thrin y pysgod heb eu hanafu.
“Mae’r gwaith o gael gwared o’r graean yn hanfodol er mwyn rhwystro llifogydd, ond mae’r afon hefyd yn ardal silio wirioneddol bwysig i frithyllod ac eogiaid o Lyn Padarn ac Afon Seiont i lawr yr afon.
“Gan ein bod yn gweld niferoedd eogiaid a llysywod yn dirywio, mae gwaith fel hyn yn helpu i ddiogelu ein stociau gwyllt, sydd o fantais i natur a bioamrywiaeth.”

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd CNC asesiadau stociau eogiaid 2021 ar gyfer 23 prif afon eogiaid yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad yn 2021 cofnododd Cymru y dalfeydd lleiaf o eogiaid a brithyllod y môr ers i gofnodion cyson ddechrau yn y 70au.