Camera teledu cylch cyfyng wedi'i fandaleiddio yng Nghynllun Llifogydd Pontarddulais

Llethrau cronfa ddŵr Cynllun Llifogydd Pontarddulais

Fe wnaeth person a ffilmiwyd yn difrodi offer sy’n monitro amddiffynfeydd llifogydd hanfodol ym Mhontarddulais y dref yn fwy agored i lifogydd, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (21 Mawrth 2022).

Cafodd yr unigolyn ei ffilmio'n tynnu camera teledu cylch cyfyng o'i bolyn a'i daflu i afon yn y gronfa storio llifogydd i fyny'r afon o'r dref. Mae’r cynllun yn lleihau'r perygl o lifogydd i 224 eiddo preswyl a 22 eiddo dibreswyl.

Mae'r cynllun yn storio dŵr i fyny'r afon ar adegau o lifoedd afonydd uchel, sy'n lleihau llif yr Afon Dulais i mewn i'r dref. Llwyddodd i storio dŵr yn ystod glaw trwm yn Hydref 2021, a wnaeth leihau'r perygl o lifogydd yn sylweddol i'r ardal.

Mae teledu cylch cyfyng yn galluogi swyddogion digwyddiadau ar ddyletswydd CNC i fonitro'r cynllun a chwilio am falurion sy'n cronni. Cafodd y troseddwr ei ffilmio yn tynnu'r camera ar 11 Ionawr.

Meddai Gareth Richards, Arweinydd Tîm Perfformiad Asedau CNC, "Mae camerâu teledu cylch cyfyng yn ein galluogi i fonitro cyflwr ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd a gweithredu'n gyflym os oes diffyg neu rwystr. Mae hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod y cynllun sydd wedi'i gynllunio i leihau'r perygl o lifogydd i Bontarddulais mewn cyflwr da ac yn barod i'w roi ar waith.
"Wrth niweidio ein gallu i fonitro, gallai'r troseddwr fod wedi gwneud Pontarddulais yn fwy agored i lifogydd. Roedd y difrod yn golygu bod yn rhaid i ni anfon swyddogion i'r safle i fonitro'r amddiffyniad yn ystod tywydd gwlyb diweddar, gan roi ein timau ymateb i ddigwyddiadau dan bwysau ychwanegol."

Mae'r camera wedi'i ddisodli erbyn hyn ac mae'r cynllun yn gweithio'n dda.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â Heddlu De Cymru a chyfeirio at Gyfeirnod Trosedd 2200022223.