Mae pysgotwr sy'n cael ei ddal yn defnyddio dull pysgota barbaraidd ac anghyfreithlon yn Aber Llwchwr wedi cael dirwy

Mullet bachog wedi'i faeddu

Mae pysgotwr profiadol o Lanelli a gafodd ei ddal yn defnyddio dull anghyfreithlon o bysgota yn afon Llwchwr wedi cael dirwy gan y llysoedd.

Cafodd Arkadiusz Kazimierz Banachowicz, o Stryd Nevill, ei gyhuddo o gamfachu pysgod ar ôl i Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru ei weld yn defnyddio'r dull barbaraidd ar 30 Mai 2022.

Ymddangosodd Banachowicz gerbron Llysoedd Ynadon Abertawe ddydd Iau, 12 Ionawr 2023, a phlediodd yn euog i'r drosedd.

Cafodd ddirwy o £200 a gorchymyn i dalu £500 at gostau ymchwilio CNC, a gordal dioddefwr o £34.

Rhoddodd y barnwr ganiatâd hefyd i CNC atafaelu'r holl offer pysgota a gafodd eu cymryd ar adeg y digwyddiad.

Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi gyda CNC:

“Mae'r niwed a achosir i'r pysgod wrth gamfachu yn hollol farbaraidd, milain ac yn gwbl annethol o ran pa rywogaethau neu faint y pysgod y mae'n eu niweidio neu'n eu lladd yn y broses.

“Hoffem ddiolch i Heddlu Dyfed-Powys, trigolion lleol a physgotwyr sy'n parchu'r gyfraith yn yr ardal am eu cefnogaeth barhaus wrth riportio'r gweithgareddau pysgota anghyfreithlon hyn i CNC.

“Mae'r adroddiadau hyn ac erlyniadau diweddar eraill gan CNC am gamfachu wrth bont Llwchwr wedi helpu’n fawr o ran lleihau'r defnydd cyson o'r dull anghyfreithlon hwn yn yr ardal yn 2022 ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn parhau drwy gydol 2023.

“Mae Swyddogion Gorfodi CNC a'r heddluoedd lleol yn cymryd y digwyddiadau hyn o ddifrif. Gobeithio y bydd y lleiafrif bach o bysgotwyr sy'n meddwl am ddefnyddio dulliau pysgota anghyfreithlon yn cymryd sylw o'r camau a gymerwyd yn erbyn Mr Banachowicz ac yn meddwl eto.”

Derbyniodd CNC alwadau i'w linell digwyddiadau 24/7 am bysgotwr yn pysgota'n anghyfreithlon yn afon Llwchwr yn y Bynea, ar 30 Mai 2022.

Ymwelodd Swyddogion Gorfodi CNC â'r ardal a gweld Banachowicz defnyddio'r dull camfachu anghyfreithlon yn gyson ac yn fwriadol. Gwelwyd ef hefyd yn defnyddio nifer o fachau triphlyg wedi’u haddasu’n arbennig ar lith pysgota metel i ddal cymaint o bysgod â phosib o afon Llwchwr.

Roedd y pysgod yr oedd Banachowicz wedi'u dal gan ddefnyddio'r dull camfachu i gyd wedi'u bachu a'u dal trwy eu cynffonau neu eu cefnau, nid eu cegau.

Nod CNC yw cynyddu'r gweithgarwch pysgota hamdden yng Nghymru, gan sicrhau ar yr un pryd bod stociau pysgod yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyrwyddo pysgota cyfreithlon yn gofyn am greu sefyllfa deg i'r rhai sy'n prynu trwyddedau gwialen ac sy'n cydymffurfio ag unrhyw is-ddeddfau pysgodfeydd.  Mae'n rhaid i gamau gweithredu yn erbyn y rhai sy'n ceisio ymelwa ar stociau gwyllt o bysgod yn ein hafonydd neu sy'n dod i mewn ac yn gadael ein hafonydd fod yn gadarn er mwyn atal eraill rhag defnyddio dulliau pysgota anghyfreithlon.          

Mae'r ardal honno o afon Llwchwr yn cael ei hystyried yn feithrinfa draenogiaid môr lle mae pysgod ifanc fel draenogiaid môr a hyrddod yn cael rhywfaint o gysgod rhag amgylchedd y cefnfor agored a'i ysglyfaethwyr mwy.

Yr adeg benodol o'r flwyddyn pan oedd Banachowicz yn camfachu pysgod yw’r adeg pan fydd eogiaid a brithyllod y môr (siwin), sy’n rhywogaethau mudol, yn digwydd bod yn nalgylchoedd afon Llwchwr. Unig ddiben yr eogiaid a’r siwin wrth ymfudo o amgylchedd y cefnfor agored i amgylchedd system dŵr croyw afon Llwchwr yw ailboblogi a bridio yn nalgylchoedd uwch yr afon yn ystod misoedd y gaeaf.

Os byddwch yn gweld unrhyw weithgarwch amheus neu anghyfreithlon ar afonydd, llynnoedd neu arfordiroedd Cymru, rhowch wybod i linell argyfwng CNC ar 0300 065 3000.