Sut y gallwch chi helpu i warchod adar yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch

Graham Williams, aelod o Dîm Rheoli Tir Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, sy’n ysgrifennu am boblogaeth adar y safle a sut y gallwch chi wneud eich rhan i’w hamddiffyn.

Mae cân atgofus ehedydd gwryw wrth iddo hedfan yn uchel uwchlaw glaswelltir llawn blodau neu drydar metelaidd ceiliog rhedyn yn rhai o brofiadau mwyaf swynol canol haf yn Niwbwrch.

Mae systemau twyni arfordirol yn cynnal rhai o’r cynefinoedd mwyaf amrywiol yn Ewrop ar gyfer adar nythu, gyda’u mosaigau cyfoethog o dwyni agored lle ceir llifogydd yn dymhorol, glaswelltir arfordirol, traethau graean, morfeydd heli, prysgwydd a chynefinoedd coetir.

Mae gwarchodfeydd gwarchodedig fel Niwbwrch yn werthfawr i amrywiaeth o rywogaethau adar ac maen nhw’n darparu lloches i rai o'n rhywogaethau prinnaf a mwyaf sensitif.

Er hynny, mae’r rhywogaethau hefyd yn agored iawn i effeithiau hamdden amhriodol.

Yn anffodus, nid yw dod ar draws bywyd gwyllt fel hyn yn brofiad mor gyffredin bellach ag ydoedd ar un adeg, yn sgil dirywiad sylweddol yn amrywiaeth a nifer yr adar sy’n nythu yng nghefn gwlad yn ehangach.

Dangosodd adroddiad diweddar gan yr RSPB, sy’n defnyddio data o gynllun Monitro Adar Cyffredin yr UE, ostyngiad o 600 miliwn o adar magu yn y DU a’r UE ers 1980.

Caiff colledion eu priodoli’n aml i newidiadau mewn arferion ffermio, colli cynefinoedd trwy ddatblygu a phwysau cynyddol ac amhriodol o du hamdden.

Mae'r adar a welwn yn Niwbwrch yn rhai sy’n nythu ar y ddaear yn bennaf ac felly'n arbennig o sensitif i aflonyddwch gan gŵn. Mae'r safle'n cynnal casgliad cyfoethog o adar gan gynnwys rhywogaethau sy'n agored i niwed ar y draethlin e.e. y Cwtiad torchog a Phiod môr sy'n nythu mewn ardaloedd bas wedi’u crafu ymhlith cerrig mân y traeth.

Mae’r glaswelltir a llaciau ar gynefin twyni agored yn cynnal rhywogaethau fel yr Ehedydd, Corhedydd y waun a Thelor y gwair, gydag ardaloedd o brysgwydd gwasgaredig isel yn lloches i Delor yr helyg, y Llwydfron, y Llinos a Chlochdar y cerrig.

Er gwaethaf y brithwaith cyfoethog o gynefinoedd y mae Niwbwrch yn eu cynnal, mae cŵn sydd heb fod dan reolaeth ac sy’n crwydro oddi ar y prif lwybrau ffurfiol trwy gynefin nythu ac ar linellau’r llanw ar draethau diarffordd yn anochel yn tarfu ar adar sy'n nythu ac yn effeithio'n sylweddol ar amrywiaeth a niferoedd yr adar.

Tra bod anifeiliaid anwes ein teulu yn annwyl i ni, bydd adar yn gweld ci fel ysglyfaethwr peryglus.

Canlyniad aflonyddwch yw adar llawndwf yn gadael nythod, colli wyau a chywion a gostyngiad yn nhiriogaethau’r adar sy’n nythu ar draws y safle. Gall cŵn hefyd effeithio ar rywogaethau eraill fel mamaliaid bychain.

Sut y gallwch chi helpu?

Er mwyn helpu i gadw Niwbwrch yn lle arbennig ar gyfer ein hadar annwyl ac i sicrhau eich bod chi a phobl eraill yn parhau i fwynhau'r amrywiaeth o fywyd gwyllt y gall y safle ei gynnal, os gwelwch yn dda, gwnewch y canlynol yn ystod y prif dymor pan mae adar yn nythu, sef 1 Ebrill - 1 Medi:

  • Ymgyfarwyddwch â’r Cod Cefn Gwlad
  • Cadwch at lwybrau a thraciau ffurfiol a’r rhai sydd wedi'u nodi ag arwyddion ar y safle er mwyn gadael ardaloedd mawr heb eu haflonyddu ar gyfer bywyd gwyllt.
  • Ni chaniateir cŵn ar ran o draeth y Faner Las, sef rhwng prif faes parcio’r traeth ac Ynys Llanddwyn, a hynny rhwng 1 Mai a 30 Medi.
  • Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr ac ar lwybrau ffurfiol ar bob ardal o dwyni agored ac Ynys Llanddwyn rhwng Ebrill 1 a Medi 1.
  • Cadwch gŵn dan reolaeth ar ffyrdd coedwig, meysydd parcio a mannau a ganiateir ar draethau
  • Cyfeiriwch at amodau a chanllawiau ar arwyddion a ddarperir mewn mannau mynediad
  • Codwch faw eich ci er mwyn diogelu'r cynefin a pharchwch ddefnyddwyr eraill.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru