Cais am drwydded ar gyfer Cyfleuster Crynhoi Gwastraff Gogledd Powys arfraethedig yn Aber-miwl

Datganiad Sefyllfa

Cyfeirnod y Cais: PAN-018305

Ymgeisydd: Cyngor Sir Powys

Cyfleuster: Cyfleusterau Crynhoi Gwastraff Gogledd Powys, Parc Busnes Aber-miwl, Aber-miwl, Powys, SY15 6NU

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais am drwydded i weithredu cyfleuster newydd ar gyfer crynhoi deunydd nad yw'n beryglus o gasgliadau ymyl y ffordd.

Y gweithrediadau arfaethedig ar y safle fydd derbyn a phrosesu hyd at 22,500 tunnell y flwyddyn (tpa) o wastraff nad yw'n beryglus. Cynigir cadw uchafswm o 425 tunnell ar y safle ar unrhyw un adeg.

Yr unig weithgaredd trin arfaethedig yw crynhoi deunyddiau. Bydd deunyddiau a dderbynnir ar y safle yn cael eu gwahanu cyn cyrraedd ac felly ni fydd angen unrhyw ddidoli na gwahanu â llaw.

Cafodd cais blaenorol gan Gyngor Sir Powys (PAN-013001) ei wrthod yn gynharach eleni.

Darllenwch pam y gwrthodwyd y cais.

Mae'r cais newydd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i'w hasesu. Darllenwch amlinelliad o'r wybodaeth ychwanegol a ddarperir gan Gyngor Sir Powys.

Ystyriwyd bod y cais yn un “A wnaed yn briodol” ar 9 Mehefin 2022. Mae “A wnaed yn briodol” yn golygu ein bod wedi ystyried bod y cais yn y ffurf gywir a’i fod yn cynnwys digon o wybodaeth i ni allu dechrau ein penderfyniad. Nid yw o reidrwydd yn golygu bod y cais yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i gwblhau ein penderfyniad.

Fe wnaethom ni gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â’r cais hwn, a ddaeth i ben ar 23 Tachwedd 2022. Roeddem ni’n ystyried bod y cais hwn yn debygol o ennyn llawer o ddiddordeb gan y cyhoedd. Felly – yn unol â’n Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd – cymerwyd camau priodol i godi ymwybyddiaeth o’r cais a’r ymgynghoriad, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd a’r gymuned yn gallu dweud eu dweud ar y cais.

Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu rhithwir ar 27 Hydref 2022 fel rhan o’r broses ymgynghori, a rhoddodd hyn gyfle i unrhyw aelodau o’r gymuned â diddordeb ofyn cwestiynau am y cais, ein rôl a’r broses asesu, a thrwy hynny gefnogi unigolyn i gyflwyno ymateb gwybodus.

Ymgynghorwyd â chyrff eraill yn unol â'n cytundebau cydweithio. Mae gwrando ar eraill yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell. Rydym yn defnyddio arbenigedd eraill ac yn sicrhau ein bod wedi ystyried yr holl risgiau amgylcheddol.

Rydym wedi ymgynghori â’r sefydliadau canlynol:

  • Cyngor Sir Powys - Adran Gynllunio
  • Cyngor Sir Powys - Adran Iechyd yr Amgylchedd
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Cwmni Gwasanaethau Dŵr Hafren Dyfrdwy

Bydd gohebiaeth yn ymwneud â’n hymgynghoriad â sefydliadau eraill ar gael ar ein Cofrestr Gyhoeddus Ar-lein, yn ogystal â’u hymatebion.

 

Y camau nesaf

Rydym wedi cwblhau ein hasesiad technegol ac wedi dod i benderfyniad drafft ein bod yn bwriadu dyroddi'r drwydded. Byddai hyn yn caniatáu i Gyngor Sir Powys weithredu'r safle fel y nodir yn eu cais.

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, rydym yn ymgynghori ar ein penderfyniad drafft a’n thrwydded ddrafft. Mae hyn er mwyn esbonio'r penderfyniad i'r cyhoedd ac eraill sydd â diddordeb, a rhoi'r cyfle iddynt wneud sylwadau perthnasol ar ein penderfyniad drafft.

Oni bai ein bod yn derbyn gwybodaeth sy'n ein harwain i newid yr amodau yn y drwydded ddrafft, neu wrthod y cais yn gyfan gwbl, byddwn yn dyroddi'r drwydded yn ei ffurf bresennol.

Mae ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd yn crynhoi ein cylch gwaith rheoleiddiol, yr hyn y gallwn ac na allwn ei ystyried. Gallwn ystyried y canlynol gan eu bod yn ein cylch gwaith cyfreithiol.

  • Cymhwysedd y gweithredwr arfaethedig i fodloni amodau trwyddedau
  • Rheolaeth weithredol gyffredinol o'r cyfleuster arfaethedig
  • Effaith bosibl ar yr amgylchedd, cynefinoedd a safleoedd dynodedig
  • Cynlluniau atal tân a lliniaru
  • Trin a storio unrhyw wastraff
  • Rheoli unrhyw arogl, sŵn, llwch, sbwriel a phlâu

Mae yna nifer o ffactorau nad ydynt yn dod o fewn ein cylch gwaith cyfreithiol, ac ni allwn wneud neu seilio penderfyniadau arnynt.

Mae'r Awdurdod Lleol yn gyfrifol am:

  • Lleoliad y safle
  • Traffig
  • Effaith weledol
  • Defnydd tir
  • P'un a oes rhaid i'r ymgeisydd hefyd gynnal Asesiad Effaith Amgylcheddol

Mae oriau gweithredol yn fater o bolisi'r llywodraeth.

Darllenwch ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Rydym wedi gorffen ein hasesiad technegol a daethom i benderfyniad drafft ein bod yn bwriadu rhoi'r drwydded, gan ganiatáu i Gyngor Sir Powys weithredu'r safle fel y nodir yn ei gais.

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, fe wnaethom ymgynghori ar ein penderfyniad drafft a thrwydded ddrafft. Roedd hyn er mwyn egluro’r penderfyniad i’r cyhoedd a phartïon eraill â buddiant, gan roi’r cyfle iddynt wneud sylwadau perthnasol ar ein penderfyniad drafft. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng dydd Gwener 2 Mehefin 2023 a dydd Gwener 30 Mehefin 2023 ac ers hynny rydym wedi edrych ar yr holl sylwadau perthnasol a ddaeth i law.

Cais wedi'i Gwblhau

Rydym wedi cwblhau ein hasesiad ac wedi ystyried yr holl sylwadau perthnasol a dderbyniwyd yn ystod ein hymgynghoriadau. Rydym wedi rhoi trwydded amgylcheddol ffurfiol i Gyngor Sir Powys i weithredu cyfleuster crynhoi ar gyfer gwastraff nad yw'n beryglus yn Aber-miwl.

Rhoddwyd y Drwydded ddydd Llun 31 Gorffennaf.

Roedd ein proses benderfynu yn cynnwys asesiad technegol llawn, dau ymgynghoriad cyhoeddus a nifer o geisiadau i'r ymgeisydd am ragor o wybodaeth.

Bellach caiff y cyfleuster trwyddedig ddechrau gweithredu yn unol ag amodau'r drwydded. Bydd y cyfleuster yn cael ei archwilio’n gyfnodol gan swyddogion CNC i sicrhau bod amodau’r drwydded yn cael eu bodloni. Mae gennym bwerau i ofyn am welliannau lle bo angen.

Gallwch weld y drwydded a dogfen y penderfyniad ar ein cofrestr gyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf