Disgwyl effeithiau sylweddol yn sgîl Storm Jorge

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhybuddio pobl o’r risg o lifogydd dŵr afon a dŵr wyneb sylweddol heddiw a thros y penwythnos wrth i Storm Jorge daro Cymru.

Cyhoeddwyd rhybudd melyn am law trwm gan y Swyddfa Dywydd.

Gall hyn arwain at broblemau mawr ac amodau peryglus, yn enwedig yn Ne Cymru, lle mae disgwyl i afonydd godi'n gyflym.

Gyda lefelau afonydd yn dal i fod yn uchel iawn a’r tir yn llawn dŵr yn dilyn y stormydd diweddar, mae disgwyl llawer o Rybuddion Llifogydd heddiw a thros nos, gan gynnwys ar gyfer Cymoedd De Cymru.

Er bod y glawiad gwaethaf yn debygol o fod dros Dde Cymru, dylai pobl mewn rhannau eraill o Gymru fod yn barod am effeithiau ac aros yn ddiogel.

Bydd staff CNC yn gweithio ddydd a nos i helpu cymunedau i fod yn barod – yn monitro lefelau afonydd, cyhoeddi rhybuddion, gwirio a chodi amddiffynfeydd, a sicrhau bod gridiau draenio a sgriniau'n glir.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Risg Digwyddiad Llifogydd ar gyfer CNC:

“Gan ddod mor fuan ar ôl Storm Dennis, rydym yn arbennig o bryderus bod rhagolwg ar gyfer lefelau sylweddol o law yn Ne Cymru.
“Gallai hyn effeithio unwaith eto ar gymoedd dwyreiniol De Cymru a dylai pawb gymryd y rhybuddion o ddifrif.
“Rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod cymunedau mor barod â phosib ac yn annog pobl i gymryd gofal a gwneud trefniadau i fod yn ddiogel.
“Cynghorir pobl i gymryd gofal mawr os oes angen i chi deithio. Os ydych chi allan, peidiwch byth â gyrru na cherdded trwy ddyfroedd llifogydd.
“Cadwch lygad ar y rhagolygon ac ymwelwch â'n gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion llifogydd.
“Gallwch ddod o hyd i gyngor ymarferol ar lifogydd ar ein gwefan hefyd. "

Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru bob 15 munud.

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael trwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.

Gall pobl hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim naill ai trwy ffonio Floodline neu ar wefan CNC www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd

Cadwch lygad ar lefelau afonydd ar-lein yma - https://naturalresources.wales/evidence-and-data/maps/check-river-levels/?lang=cy

 Mae CNC yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, yr Heddlu, wardeiniaid llifogydd cymunedol a llawer o rai eraill i helpu i gadw pawb yn ddiogel.