CNC yn cyhoeddi contract cyflenwi coed newydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru am gynnal rhaglen uchelgeisiol i ailstocio a chreu coetiroedd ar draws Cymru, a bydd hyn yn gofyn am gyflenwad dibynadwy o goed ifanc i'w galluogi i blannu tua 1,500 hectar bob blwyddyn.

I wneud hyn, ymgymerodd CNC â phroses dendro gystadleuol sydd wedi arwain at ddyfarnu contract cyflenwi coed 2022/23 – 2030/31 i Maelor Forest Nurseries Ltd ar Ystad CNC.

Dywedodd Dominic Driver, Pennaeth Stiwardiaeth Tir CNC:

"Ar hyn o bryd mae galw mawr am goed o feithrinfeydd coed, o ystyried rhaglenni plannu coed uchelgeisiol ledled y DU.
"Mae ein contract presennol gyda Forestry England yn dod i ben yn 2022, a gan ei bod fel arfer yn cymryd dwy flynedd ar gyfartaledd i dyfu coeden mewn meithrinfa, roedd yn hynod bwysig i CNC sicrhau cyflenwr newydd cyn gynted â phosibl.
"Mae Maelor Forest Nurseries Ltd wedi’i leoli yn y Gororau ac rydym yn hyderus y byddant nid yn unig yn rhoi'r ansawdd a'r nifer gofynnol o blanhigion sydd eu hangen arnom i gyrraedd ein targedau, ond bod y contract hwn hefyd yn cynrychioli'r gwerth gorau am arian i'r pwrs cyhoeddus."

Cynigiwyd y contract dros naw mlynedd i feithrin hyder y buddsoddwr a bydd yn cael ei adolygu bob tair blynedd.

Dywedodd Mark Appleton, Rheolwr Gyfarwyddwr Maelor Forest Nurseries Ltd:

"Rydym yn hynod falch o fod wedi bod yn llwyddiannus yn y tendr pwysig hwn ac y gallwn fod yn bartner i CNC i gyflenwi dros 30 miliwn o goed iddo yn ystod y contract tyfu a chyflenwi hirdymor hwn.
"Mae'r llwyddiant hwn yn cydnabod y buddsoddiad sylweddol y mae Maelor wedi'i wneud dros flynyddoedd lawer o ran gwella ein coed drwy wyddoniaeth a dethol genetig i gynnig gwell ffurf, cnwd ac ymwrthedd i goed Maelor.
"Mae ein Labordai Gwyddoniaeth ymroddedig yn arwain y ffordd o ran datblygu coed ar gyfer dyfodol y DU wrth i ni barhau i chwarae ein rhan i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy gefnogi coedwigaeth yn y DU."

Ychwanegodd Dominic:

"Rydym yn edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi sector meithrinfeydd coedwigaeth Cymru ochr yn ochr â'n contract hirdymor gyda Maelor.
"Gallai hyn gynnwys defnyddio rhannau o'r ystad a reolir gan CNC fel safleoedd ar gyfer datblygu busnesau meithrin neu gaffael coed ar gyfer prosiectau a gweithgareddau eraill y tu hwnt i’n contract gyda Maelor Forest Nurseries.
"Y nod yw parhau i ddatblygu adnodd coetir sy'n fwyfwy amrywiol, iach a masnachol lwyddiannus a fydd yn cefnogi adferiad gwyrdd, yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru ac yn helpu i fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd."