Cynlluniau ar y gweill i drin a chwympo coed llarwydd heintiedig yng Nghoed Llangwyfan

Coed Llangwyfan

Bydd coed llarwydd heintiedig yn cael eu trin a'u cwympo mewn coedwig ger Dinbych yn ystod y 12 mis nesaf, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r goedwig - sydd wedi'i lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)  Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - yn gorchuddio bryn serth sy'n agor yn llethrau grugog eang rhwng ffiniau sirol Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Mae coed yn y goedwig wedi'u heintio â Phytophthora ramorum, neu glefyd y llarwydd. Yn 2013, nododd arolygon fod y clefyd yn lledaenu'n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan sbarduno strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig i'w atal rhag lledaenu ymhellach.

Amcangyfrifir bod ardal tua 5.5 hectar o faint (ychydig dros bum cae rygbi) wedi'i heintio a bydd angen trin y coed hynny gyda chwistrelliad cemegol i’r bonion cyn diwedd mis Awst. Yn dilyn y gwaith chwistrellu, ni fydd y coed sydd wedi’u trin yn blaguro yn y gwanwyn, felly bydd effaith amwynder a weledol nes iddynt gael eu cwympo yn 2022.

Ar ôl i'r gwaith cwympo ddigwydd, bydd yr adrannau sydd wedi'u llwyrgwympo'n cael eu hailblannu â rhywogaethau brodorol o goed llydanddail. Bydd hyn yn y pen draw yn adfer nodweddion coetir hynafol i'r ardal a bydd yn helpu bioamrywiaeth leol i ffynnu.

Dywedodd Aidan Cooke, o’r adran Uwch Weithrediadau Coedwigaeth yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer CNC:

"Mae'n anffodus mai'r unig ddewis sydd gennym i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd yw lladd a chwympo’r coed llarwydd. Rydyn ni’n llwyr sylweddoli y bydd hyn yn cael effaith weledol ar yr ardal.
"Bydd y coed yn cael eu trin â'r chwistrelliad cemegol i’r bonion cyn diwedd Awst 2021 i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol. Ni fydd y rhan hon o'r gwaith yn tarfu’n fawr ar breswylwyr; fodd bynnag, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediadau cwympo coed CNC i breswylwyr wrth i ragor o wybodaeth ddod i'r amlwg yn ystod y 12 mis nesaf."

Mae angen cymryd y camau hyn am ddau reswm allweddol. Yn gyntaf, bydd y coed yn marw yn y pen draw os cânt eu gadael i sefyll a byddant yn peri risg diogelwch i bobl sy'n defnyddio'r goedwig os na chânt eu tynnu.  

Yn ail, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i CNC gydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol sy’n perthyn i’r goedwig sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r coed heintiedig gael eu lladd er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

Dywedodd Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau yng Nghyngor Sir Ddinbych:

"Mae’n anffodus iawn bod clefyd llarwydd wedi darganfod yng Nghoedwig Llangwyfan.
“Mi fydd y Cyngor a’r AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gweithio’n agos gyda CNC er mwyn lleihau’r effaith yn nhermau bioamrywiaeth a mynediad.”

Mae CNC, mewn partneriaeth ag AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, wedi trefnu tair sesiwn galw heibio yng Nghoed Llangwyfan cyn i'r gwaith ddechrau, gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ofyn cwestiynau a chaniatáu i swyddogion egluro'r gwaith sydd ar y gweill a sut y caiff ei reoli yn ystod y 12 mis nesaf.

Cynhelir y sesiynau galw heibio ar y dyddiadau canlynol a byddant yn dechrau ym mhrif faes parcio uchaf Coed Llangwyfan:

  • Dydd Mawrth, 3 Awst – 10am
  • Dydd Mercher, 4 Awst – 2pm
  • Dydd Mercher, 4 Awst – 4pm

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â'r gwaith sydd wedi’i drefnu yng Nghoed Llangwyfan, cysylltwch â Thîm Gweithrediadau Coedwigaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ar 0300 065 5070 neu e-bostiwch ForestOperationsNE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am iechyd coed yng Nghymru ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Iechyd coed yng Nghymru