Gwaith gaeaf hanfodol wedi'i gwblhau yn Nhwyni Pen-bre

Mae gwaith y gaeaf ar y twyni tywod rhyngwladol bwysig yn Nhwyni Pen-bre gan brosiect cadwraeth i gadw'r cynefin yn iach wedi'i gwblhau.

Nod Twyni Byw, prosiect cadwraeth a ariennir gan yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yw adfywio twyni tywod ledled Cymru. Gwelodd gwaith y gaeaf yn Nhwyni Pen-bre greu tri rhicyn yn y twyni - sef bylchau ym mlaen y twyni - a thynnu tyweirch o laswelltir y twyni a llaciau’r twyni er mwyn dod a tywod noeth i’r agored.

Roedd y gwaith hwn yn angenrheidiol er mwyn rhoi hwb i rywfaint o fywyd gwyllt prinnaf twyni Cymru sy'n dibynnu ar gynefin tywod noeth. Dylai'r gwaith hefyd annog symudiad naturiol y tywod yn y twyni.

Mae Twyni Byw hefyd wedi cwblhau gwaith ffensio helaeth yn Nhwyni Pen-bre. Codwyd dros 2km o ffensys castanwydd i helpu i ddiogelu a rheoli'r gwartheg a'r merlod sy'n cyflawni'r dasg hollbwysig o bori glaswelltir y twyni.

Mae'r holl waith hwn yn cyfrannu at gamau gweithredu uchelgeisiol i adfywio twyni tywod ledled Cymru.

Dros yr 80 mlynedd diwethaf, mae tywod agored wedi diflannu i rannau helaeth o dwyni tywod Cymru, ac mae glaswellt a phrysgwydd trwchus wedi cymryd ei le. Achoswyd y newid hwn gan ffactorau megis cyflwyno planhigion anfrodorol, lefelau is o bori, newid yn yr hinsawdd a llygredd aer. Wrth i'r twyni sefydlogi a gordyfu, mae bywyd gwyllt prin wedi dirywio.

Mae'r prosiect wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn CNC a Chyngor Sir Gâr – perchnogion a rheolwyr y safle – i gynllunio'r holl waith yn drylwyr a sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni i'r safon uchaf.

Dywedodd Laura Bowen, Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw:

"Rydym yn hapus iawn o fod wedi cwblhau ein gwaith gaeaf yn Nhwyni Pen-bre. Gall y gwaith o ricio'r twyni a chrafu'r tywod swnio ac edrych yn eithafol i ddechrau; fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn helpu i ail-greu cynefin tywod noeth sydd wedi bod yn diflannu o dwyni tywod Cymru ar gyfradd gyflym. Bydd rhiciau’r twyni hefyd yn cynyddu symudiad y tywod sy'n hanfodol er mwyn cadw'r twyni tywod yn iach.

"Mae prysgwydd a llystyfiant yn orcystadlu â phlanhigion twyni arbenigol sy'n tyfu'n isel. Diolch i'r gwaith yma sydd rŵan wedi'i gwblhau gall amrywiaeth o rywogaethau planhigion ffynnu a bydd gan infertebratau a ffawna eraill fwy o gynefin tywod noeth i'w alw'n gartref."

Mae Twyni Byw yn adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod, ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru. Roedd rhagor o waith gaeaf Twyni Byw ar wyth safle arall ledled Cymru i roi hwb pellach i'r cynefin arbennig hwn.

Nid dyma'r unig brosiect cadwraeth sydd ar waith ym Mhen-bre. Ar ran wahanol o'r safle, mae Dynamic Dunescapes, prosiect sy'n helpu cynefinoedd twyni tywod ledled y DU, hefyd wedi bod yn gweithio'n galed i gael gwared ar rafnwydden y môr sy’n rhywogaeth oresgynnol.

Dywedodd David Kilner, Swyddog Ymgysylltu Dynamic Dunescapes Cymru:

"Rydym yn falch o weld gwaith Twyni Byw yn cael ei gwblhau gan y bydd hyn yn helpu i roi hwb i'r twyni tywod yn Nhwyni Pen-bre, ynghyd â'n gwaith pwysig ein hunain.

"Bydd gwaith hanfodol prosiectau Twyni Byw a Dynamic Dunescapes yn helpu i greu hafan ddiogel i fywyd gwyllt y twyni. Maen nhw'n peillio ein bwyd, yn anadlu drosom ac yn ein cysylltu. Bydd adfywio’r twyni yn creu cynefinoedd iachach a fydd yn ffynnu ac yn gallu rheoli eu hunain."

Ychwanegodd Laura Bowen:

"Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith, gan gynnwys Cyngor Sir Gâr a'n contractwyr EJ Thomas & Sons a John Davies Agricultural and Plant Ltd. Gall cwblhau gwaith yn ystod cyfyngiadau Covid-19 fod yn heriol, ond ein blaenoriaeth yw cwblhau'r holl waith yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau'r llywodraeth."

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Twyni Byw, anfonwch e-bost at SoLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk   neu ewch i'w tudalennau Twitter a Facebook @TwyniByw.