Lansio ymgynghoriad ar benderfyniad drafft i roi trwydded i ryddhau afancod i ddarn o dir caeedig

Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i lansio ar benderfyniad drafft i gyhoeddi trwydded i ganiatáu rhyddhau hyd at chwe afanc i mewn i ddarn o dir caeedig yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi, ger Machynlleth yng nghanolbarth Cymru.

Cyflwynwyd y cais gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn i ryddhau'r afancod i ddarn o dir caeedig wedi’i greu’n bwrpasol ar ochr ddeheuol Afon Dyfi ar dir a reolir gan yr Ymddiriedolaeth. Gwnaed y cais gan fod angen trwydded rhywogaethau i ryddhau Afancod Ewrasiaidd yng Nghymru.

Ar ôl asesu'r cais a'r wybodaeth ategol, mae CNC o'r farn fod y cais yn addas ac y dylid rhoi trwydded.

Cyn gwneud penderfyniad terfynol, bydd CNC yn rhoi cyfle i'r cyhoedd weld y drwydded ddrafft a'r ddogfen benderfynu ac i gyflwyno unrhyw wybodaeth berthnasol nad yw efallai wedi'i hystyried.

Dywedodd John Wheadon, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu CNC:

Gwyddom fod gan bobl deimladau cryf o blaid ac yn erbyn rhyddhau afancod. Dyna pam rydym yn teimlo ei bod yn iawn ymgynghori'n gyhoeddus ar ein penderfyniad drafft i gyhoeddi trwydded i ryddhau hyd at chwe afanc i mewn i ddarn o dir caeedig wedi’i greu’n bwrpasol yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi.
Ar ôl edrych yn ofalus ar y wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais, rydym o'r farn fod y cais yn bodloni gofynion cyfreithiol ac y dylem roi'r drwydded. Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i bobl godi unrhyw faterion nad ydym efallai wedi'u hystyried wrth gyrraedd ein penderfyniad drafft.


Mae'n ofynnol i CNC roi trwydded os gall yr ymgeisydd ddangos y bydd y safle'n cael ei weithredu yn ôl safonau priodol ac y bydd yr holl ofynion cyfreithiol yn cael eu bodloni. Ni ellir gwrthod trwydded ar y sail bod gwrthwynebiad i'r gweithgaredd yn unig. Felly, rhaid i unrhyw sylwadau yn yr ymgynghoriad sy'n gwrthwynebu'r penderfyniad drafft fanylu ar sut y byddai rhoi'r drwydded yn anghyfreithlon.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ar 14 Medi a bydd yn dod i ben ar 11 Hydref 2020. Mae'r cais, y wybodaeth ategol a'r ymgynghoriad ar gael ar-lein.