Pa effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi'i chael ar y prosiect Twyni Byw?

Helo, Laura Bowen ydw i a fi yw Swyddog Prosiect a Monitro De Twyni Byw, sy’n cynnwys Talacharn – Twyni Pentywyn, Twyni Pen-bre, Twyni Whiteford, Cynffig a Merthyr Mawr.

Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i chi beth rydw i a gweddill tîm prosiect Twyni Byw wedi bod yn ei wneud ers i’r pandemig Covid-19 gydio, a'r hyn rydyn ni'n dal i obeithio’i gyflawni dros y misoedd nesaf.

Cyfyngiadau Symud

Fel yn achos ein holl gydweithwyr - mae ein llwyth gwaith wedi magu mwy fyth o bwysigrwydd digidol yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’r tîm Twyni Byw wedi ymdrechu i gadw mewn cyswllt â rhanddeiliaid allweddol yn CNC yn ogystal â phartneriaid allanol trwy gyfarfodydd Skype rheolaidd. Mae hyn wedi cynnwys ein hail Gyfarfod Rhanddeiliaid Allanol, yn ogystal ag anfon e-byst dal i fyny at Gynghorau Cymuned a Grwpiau Natur Lleol.

Rydyn ni wedi bod yn cynnig sicrwydd i randdeiliaid, ein bod, hyd yn oed gyda chyfyngiadau Covid-19, yn parhau i gynllunio manylion y gwaith o'r haf hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd hyn yn sicrhau bod y prosiect yn parhau ar y trywydd iawn er mwyn roi hwb i'n twyni tywod.

Mae’r cyfyngiadau presennol yn sgil Covid-19 wedi golygu na fu modd i ni fynd allan i’r safleoedd. Yn ffodus llwyddais i a Toni, (Cynorthwyydd y Prosiect De Twyni Byw), i gynllunio nifer fawr o'n gweithredoedd arfaethedig trwy GPS cyn y cyfyngiadau. Mae hyn wedi’n galluogi i gyfrifo meysydd gwaith cywir a chreu mapiau i gefnogi'r pecynnau gwaith. Mewn amgylchiadau lle nad ydyn ni wedi mapio meysydd gwaith eto, mae ein perthnasoedd gweithio agos â swyddogion safle allweddol (mewnol ac allanol) wedi eu galluogi i fynd i’r safleoedd ar ein rhan.

Paratoi

Y prif dasg rydw i wedi bod yn ei wneud yw creu pecynnau gwaith ar gyfer cyfnodau'r haf a'r hydref-gaeaf. Mae hyn yn cynnwys ysgrifennu manylebau manwl a pharatoi pecynnau gwahoddiad i dendro i'w hanfon at gontractwyr. Rydyn ni’n gobeithio anfon pecynnau gwaith allan cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi digon o amser i gontractwyr drefnu a sicrhau y gallan nhw fwrw ymlaen â'r gwaith cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi.

Edrych yn ôl

At ei gilydd, nid yw'r cyfyngiadau wedi effeithio gormod ar fy ngwaith, ond rhoddodd gyfle i mi ddal i fyny â chryn dipyn o waith gweinyddol hefyd.

Mae'r tîm a minnau hefyd wedi sicrhau ein bod yn cadw mewn cyswllt ac yn sgwrsio am bethau nad ydyn nhw’n gysylltiedig â gwaith ac yn cefnogi ein gilydd yn ystod yr amser rhyfedd hwn. Rydw i hefyd wedi cadw mewn cyswllt rheolaidd â'm cydweithwyr o swyddfa Cross Hands nad ydyn nhw’n rhan o'r prosiect trwy negeseua’n rheolaidd trwy ar Skype yn ogystal â chymryd rhan yn ein cwis wythnosol ar brynhawn dydd Gwener - sy'n seibiant difyr o'r gwaith!

Beth nesa’?

Rydyn ni’n obeithiol y gallwn ni barhau â phecynnau gwaith ffensio yn ystod yr haf yn Nhwyni Pen-bre a Thwyni Talacharn-Pentywyn. Bydd y ffensio yn helpu i amddiffyn a rheoli'r da byw sy'n cyflawni'r dasg bwysig o bori glaswelltir y twyni.

Gan gadw llygad ar y cyfyngiadau cyfredol yn gyson, rydyn ni’n paratoi achosion sy'n caniatáu inni ymweld â safleoedd i barhau â'n gwaith. Rydyn ni hefyd yn ceisio cael contractwyr yn ôl ar y safleoedd i fwrw ymlaen â gwaith cyn gynted â phosibl, ar yr amod eu bod yn gallu dilyn cyngor y Llywodraeth.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru