Prosiect ECHOES – ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd adar ar hyd arfordir Môr Iwerddon

Mae prosiect ECHOES yn ymwneud â'r rhyngwyneb rhwng y tir a'r môr - y fflatiau llaid a'r aberoedd - a pha mor debygol yw hi y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar hyn. Gall hyn fod o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr a dŵr hallt yn treiddio i mewn i ddŵr croyw.

Mae'r ardaloedd hyn hefyd yn hanfodol i oroesiad llawer o rywogaethau adar mudol, fel y Gylfinir a Gŵydd Dalcenwen yr Ynys Las, sy'n dod yma i fwydo dros y gaeaf. Yn ystod y degawdau nesaf, mae'n debygol y gwelwn 'wasgfa arfordirol' – gan golli cynefinoedd naturiol y sgil cynnydd yn lefel y môr o un cyfeiriad, a gweithgarwch dynol o’r cyfeiriad arall. Beth fydd yn digwydd i'r adar mudol hyn bryd hynny? A allwn ni wneud rhywbeth i'w hachub rhag diflannu?

Ym mis Rhagfyr 2019, daeth pum sefydliad at ei gilydd i gynyddu ein dealltwriaeth o'r broblem hon. Mae'r rhain yn bartneriaid arweiniol, sef Prifysgol Aberystwyth, Coleg Prifysgol Cork (UCC), Ymddiriedolaeth Ornitholeg Prydain (BTO), Geo Smart Decisions Ltd a Compass Informatics Ltd – prosiect ECHOES.

Bydd prosiect ECHOES yn rhedeg tan fis Mehefin 2023. Yn y cyfnod hwn, bydd y partneriaid o fewn y prosiect yn mapio cynefinoedd y Gylfinir a Gŵydd Dalcen-wen yr Ynys Las ar gyfer safleoedd ein hastudiaeth yn Iwerddon a Chymru.

Mae digon o waith ymchwil maes yn cael ei wneud gan dimau ymchwil o Brifysgol Aberystwyth a’r BTO, ynghyd â gwirfoddolwyr ymroddedig. Drwy ddysgu am symudiadau ac arferion bwydo’r adar hyn gan ddefnyddio tagiau GPS, gellir llunio casgliadau ar yr hyn sydd ei angen arnynt er mwyn goroesi. Mewn geiriau eraill, mae prosiect ECHOES yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer diogelu'r cynefinoedd arfordirol hyn. Mae hyn yn hanfodol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau a llunio’r strategaethau sydd eu hangen i reoli’r ardaloedd hyn yn effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Mae prosiect ECHOES hefyd yn datblygu offer digidol ffynhonnell agored a fydd yn helpu i ehangu ein dealltwriaeth ymhellach o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyd yr arfordir. Mae ymchwilwyr ECHOES ym Mhrifysgol Aberystwyth, UCC a’r BTO yn cyfuno data maes gyda gwaith modelu dosbarthiadau rhywogaethau, mapiau cynefinoedd a gorchudd tir a rhagamcanion o ran yr hinsawdd.  Mae Compass Informatics Ltd yn defnyddio'r data i ddatblygu offer i helpu i ragweld newidiadau i'r arfordir ac i benderfynu ar y camau sydd angen eu cymryd o ran gwarchod cynefinoedd.

Dros gyfnod y prosiect, anogir rhanddeiliaid o wahanol sectorau fel ffermwyr, llunwyr polisïau, rheolwyr safleoedd a thirfeddianwyr i gyfrannu gydag adborth ar sut y dylid cynllunio'r offer hyn er mwyn eu gwneud mor ddefnyddiol â phosibl.

Mae prosiect ECHOES yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau o gwmpas arfordiroedd Môr Iwerddon i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith ymchwil. Mae’r prosiect wedi ymrwymo i ysgogi trafodaeth am effeithiau argyfwng yr hinsawdd ar hyd ein harfordir a sut y gallwn addasu i'r rhain. Mae’n bosib ymgysylltu fel hyn drwy sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau a chystadlaethau, yn ogystal â thrwy gyfryngau prif ffrwd a chyfryngau cymdeithasol.

I ddysgu rhagor am hyn, ewch i echoesproj.eu

Os hoffech gydweithio â’r prosiect, e-bostiwch info@echoesproj.eu

 

 

overwintering curlew

Drwy roi tagiau ar Ylfinirod sy’n gaeafu, gallwn ddogfennu sut maen nhw’n symud ar draws eu cynefinoedd. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth i ni o'r hyn y mae'r math yma o adar ei angen i oroesi. LLUN: Rachel Taylor

 

Greenland White-fronted goose

Arferai Gwyddau Talcewyn yr Ynys Las fod yn olygfa gyffredin ar hyd arfordir Môr Iwerddon. Yn ystod y degawdau diwethaf mae eu niferoedd wedi gostwng yn aruthrol. Drwy wybod beth maen nhw’n ei fwyta, gallwn ddod i gasgliadau ar ba fath o ddeiet sydd ei angen arnynt i ymdopi â'r hediad yn ôl i’r Ynys Las. Mae prosiect ECHOES felly’n dadansoddi samplau o ysgarthion y gwyddau. Mae samplau llystyfiant hefyd yn cael eu casglu a'u dadansoddi yn y labordy. LLUN: Edmund Fellowes.

Screenshots from the echoes app

Yn seiliedig ar adborth gan randdeiliaid, mae ECHOES yn datblygu llwyfan digidol, gan gynnwys ap, sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo unrhyw un sy'n rheoli tir arfordirol o gwmpas Môr Iwerddon. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu i nodi newidiadau i ardaloedd a chynefinoedd arfordirol.

snapshots of stakeholder engagement work. A classroom, fieldwork using soil and survey work.

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan bwysig o brosiect ECHOES. Drwy ymgysylltu â chymunedau arfordirol – ysgolion er enghraifft – mae'r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o newid yn yr hinsawdd a’r newidiadau ar hyd arfordiroedd yn Iwerddon a Chymru.

EU Ireland Wales Fund logo, Ireland-Wales Programme 2014-2020 logo, European Regional Development Fund logo

Ariennir prosiect ECHOES drwy Raglen Iwerddon Cymru 2014-2020, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, sy'n canolbwyntio ar chwilio am atebion i heriau cyffredin ar ddwy ochr Môr Iwerddon.

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru